Safle Burry Holms wrthi’n cael ei gloddio
(Llun Amgueddfa Cymru)

Grwp o naddion fflint Mesolithig cynnar a gafwyd o gloddfeydd yn Burry Holms
(Llun Amgueddfa Cymru)

 

Er nad oes un enghraifft yng Nghymru, cofnodwyd nifer fechan o dai Mesolithig mewn mannau eraill yn Ynysoedd Prydain, megis yn Howick, Northumberland, lle cafwyd hyd i olion cwt Mesolithig. Awgryma dyddio radiocarbon fod y cwt wedi’i adeiladu ychydig dros 9,700 o flynyddoedd yn ôl. Cafwyd hyd i dros 18,000 o ddarnau o fflint yn ystod y cloddio, ynghyd ag esgyrn llosg anifeiliaid, plisg llosg cnaucyll, ocr coch ac ambell ddarn o gregyn. Dengys y darluniau hyn gloddio seiliau crwn y ty ar ymyl clogwyn ac ar y dde, ail-grêad modern o sut y gallai’r cwt fod wedi edrych.
(Lluniau Clive Waddington)

 

 

Burry Holms, Penrhyn Gwyr

Heddiw, mae Burry Holms yn ynys ar lanw a leolir ar ben gogleddol Penrhyn Gwyr, ond yn ystod y Mesolithig, byddai’n fryn amlwg yn edrych dros wastatir Afon Hafren. O ganlyniad i gloddio diweddar gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru, cafwyd hyd i ystod o ddarganfyddiadau Mesolithig cynnar, gan gynnwys blaenau fflint a llifiau bach. Yn sownd yn un o’r blaenau fflint roedd olion tar o risgl bedwen, resin gludiog a ddefnyddid unwaith fel glud. Mae hyn yn awgrymu fod y glud hwn wedi helpu i ludo’r blaen fflint wrth waywffon, arfer y cafwyd tystiolaeth ohono mewn mannau eraill yn Ewrop ond nid cyn hyn yng Nghymru.


Llun o’r awyr o Ynys Burry Holms ar ben gogleddol Penrhyn Gwyr
(Llun © Hawlfraint y Goron: CBHC)

English