Gorwedd y gefnen dywod a elwir yn Gefnen Dogger
ym Môr y Gogledd, rhyw 100km oddi ar arfordir modern Prydain. Mae’n cynnwys
llwyfandir tanfor sy’n mesur tua 17,600km² ac sy’n codi rhyw 45m uwchlaw
gwely’r môr. Cafodd dyddodion mawn ac esgyrn anifeiliaid gan gynnwys mamoth,
rhinoseros blewog a hiena ogyfnodau cynhanesyddol gwahanol eu carthu o’r lleoliad
hwn o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y dydd heddiw. Clement Reid oedd y cyntaf
i gynnig bod y cyfoeth o dystiolaeth go iawn hwn o Gefnen Dogger yn un rhan o ddarlun llawer
ehangach, a ffurfiai ymyl ogleddol gwastatir enfawr a orchuddiai’r rhan helaeth o
dde Môr y Gogledd ar un cyfnod. Yn ystod y rhan fwyaf o’r ugeinfed ganrif, cyfeiriwyd
at yr ardal danfor hon fel ‘pont-dir’ rhwng cyfandir Ewrop a Phrydain, rhyw
dir canol dibwys yn hytrach na rhywbeth o werth ynddo’i hun. Mae hyn yn ddigon dealladwy
o ystyried natur anghyrraedd y lle ac roedd hi’n 1998 cyn i gyfuniad o’r data
oedd ar gael, gan yr Athro Bryony Coles o Brifysgol Caerwysg, aildanio diddordeb archeolegol
ym Môr y Gogledd. Hi fathodd yr enw ‘Doggerland’ am y dirwedd gynhanesyddol
a estynnai’n ddi-dor ar un adeg o Loegr i Ddenmarc, ar ôl y gefnen gafodd ei
hadnabod gyntaf gan Reid, a dyma’r amgylchedd tanfor a astudiwyd gan Brifysgol Birmingham
yn 2007, yn ei phrosiect arloesol i ddefnyddio data seismig a fodolai eisoes, ac a oedd
wedi’i gasglu gan gwmnïau masnachol, i fapio tirwedd hynafol gwely’r môr.
O ganlyniad i lwyddiant y prosiect, ffurfiwyd partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol
Dyfed a CBHC i gasglu rhagor o dystiolaeth am dirweddau a foddwyd yn ardaloedd astudio Bae
Lerpwl a Môr Hafren.
|