Merch y Chwyldro Diwydiannol - 1860 OC

Fy enw i yw Marged ac rwy’n byw mewn pentref o’r enw Treboeth, sydd ar bwys Abertawe.

Fy nheulu

Rydw i’n byw gyda fy mam a fy nhad, pedair chwaer a phum brawd. Rydw i’n 13 oed, mae fy mrawd hynaf yn 17 ac mae fy chwaer leiaf yn 2. Mae pawb arall rywle yn y canol.

Glo o Gymru

Mae pawb yn ein teulu ni, heblaw am y rhai lleiaf, wrth gwrs, yn gweithio o dan ddaear. Mae pawb eisiau glo o Gymru oherwydd bydd glo ‘stêm’ yn rhoi llawer iawn o wres wrth losgi, ond dyw e ddim yn rhoi fawr ddim fflam na mwg, sy’n ardderchog ar gyfer pob math o injan, nid dim ond y trên ond hefyd llongau stêm a ffatrïoedd. Wel, dyna mae fy mrawd yn ei ddweud, beth bynnag.

Clefyd

Roedden ni’n arfer byw yn Nhredegar cyn i’r colera ddod. Mae e’n glefyd ofnadwy a bu farw llawer o bobl yn ein stryd ni ar ôl ei ddal. Doedd y meddygon ddim yn gwybod sut ddaeth y colera i’r dref gyntaf, a doedden nhw ddim yn gwybod sut i gael gwared arno fe, na sut i’w drin e chwaith. Does dim rhyfedd bod pobl yn galw colera yn ‘Frenin Braw’. Cafodd tai pobl a’r strydoedd eu diheintio ond doedd dim byd yn gweithio oherwydd roedd e’n dal i ladd pobl. Dechreuodd rhai o’n cymdogion ni fynd i’r capel a’r eglwys yn fwy aml oherwydd roedden nhw’n credu y byddai gweddïo ar Dduw yn eu hachub nhw. Un dydd Sul, fe wnaeth fy mam a fy nhad fynd â phob un ohonom ni i’r capel, ond doedd dim un sedd wag ar ôl gan fod cymaint o bobl yno.

Symud ty

Dyna pryd y penderfynodd fy nhad y byddai’n rhaid i ni symud felly fe baciodd e bopeth ac fe gerddon ni’r holl ffordd yma i ble mae teulu fy nhad yn byw.

Fy ngwaith yn y pwll

Maen nhw’n dal i ffermio yma ond dydw i ddim yn eu gweld nhw’n aml iawn oherwydd fy mod i’n gweithio mor galed o dan ddaear mewn pwll glo o’r enw Mynydd Newydd. Rydw i’n gweithio fel porthor neu faglwr. Mi fydda i’n eistedd mewn pant bach yn y ddaear ac yn dal cortyn sy’n sownd wrth y drws. Pan fydda i’n clywed y wagenni glo yn dod rhaid i mi agor y drws trwy dynnu’r cortyn ac yna gau’r drws unwaith y bydd y tryciau’n llawn o lo wedi mynd heibio. Bydd fy nhad yn gadael i mi wneud y gwaith hwn am mai dyma un o’r swyddi hawsaf yn y pwll, ond mae’n dywyll ac yn unig iawn heb sôn am y tamprwydd a’r oerfel, yn enwedig pan na fydd gen i ddigon o arian i brynu cannwyll. Dim ond 2 geiniog y dydd fyddwn ni’n cael ein talu ac mae canhwyllau’n costio dwy geiniog a hanner bob wythnos, felly mae’n rhaid bod yn ofalus iawn. Mae hi mor dywyll lle bydda i’n eistedd nes mod i’n mynd yn ofnus iawn weithiau, yn enwedig pan fydd y llygod mawr yn dod i geisio rhannu fy nghinio. Dyna pryd y bydda i’n canu emynau y bydda i wedi’u dysgu oddi wrth mam neu yn yr Ysgol Sul, a bydda i’n ceisio siarad gyda’r plant mawr pan fyddan nhw’n mynd drwy fy nrws yn gwthio’r wagenni trwm yn llawn o lo.

Awyr beryglus

Mae fy nhad yn dweud fod fy ngwaith i yn bwysig iawn oherwydd bod agor a chau’r drysau’n gadael awyr iach i mewn, ac yna fyddwn ni ddim yn cael awyr ddrwg yn llawn o nwy yn y pwll – sy’n gallu eich lladd chi, neu hyd yn oed ffrwydro a dinistrio’r pwll i gyd. Oherwydd bod fy nhad a fy mrodyr yn gweithio ar y talcen glo, maen nhw’n mynd ag aderyn caneri mewn cawell i lawr y pwll gyda nhw oherwydd os yw’r caneri’n anadlu awyr beryglus, bydd yn llewygu ac yn cwympo i waelod y gawell, a bydd hynny’n rhoi digon o rybudd i’r glowyr geisio mynd i le diogel.

Y bore

Rydyn ni’n gadael y ty cyn chwech bob bore. Mae dyn sy’n cael ei alw’n ‘knocker-up’ yn gwneud yn siwr bod pawb wedi codi trwy fynd o dy i dy, gan guro ar ffenestri’n ystafelloedd gwely gyda pholyn mawr. Mi fydda i’n cerdded i’r gwaith gyda fy chwaer fawr Martha. Dim ond newydd ddod yn ôl i weithio y mae hi oherwydd fe gafodd hi ei bwrw i lawr gan dram ac roedd hi adre’n dost am amser maith, ond mae hi’n well nawr, er y bydd hi’n cerdded yn gal am byth, siwr o fod.

Diwedd y dydd

Rydyn ni’n gwneud yn siwr na fyddwn ni ddim yn anghofio ein cinio, oherwydd byddwn ni’n bwyta hwnnw i lawr yn y pwll. Fel arfer byddwn ni’n cael bara a chaws, neu fara gyda thamaid o gig moch oer, a thê oer i’w yfed. Byddwn ni’n cadw’r tê mewn stên, sef potyn tun gyda chlawr a dolen. Fyddwn ni ddim yn cyrraedd adre tan saith o’r gloch y nos, ac weithiau’n hwyrach, felly rydw i ar lwgu pan ddof i adre – ac rwy’n frwnt! Bydd fy mam yn gwneud i ni ymolchi ar unwaith a bydd hi’n llenwi bath mawr tun â dwr twym o’r tegell ar ben y tân. Fy nhad fydd yn ymolchi gyntaf ac yna bydd pawb arall yn mynd i’r un dwr yn ôl trefn oedran. Bydd y dwr yn frwnt iawn erbyn ei bod yn amser i mi fynd i mewn iddo!

Capel y pwll

Yn ein pwll ni, mae yna gapel arbennig a gafodd ei wneud pan dorrodd y glowyr ef allan o’r wythïen lo a’i dal i fyny gydag ategion neu byst pren. Mae yna seddi pren mawr i ni eistedd arnyn nhw hefyd. Mae’r waliau wedi cael eu gwyngalchu ac maen nhw’n olau iawn yn y tywyllwch dan ddaear. Fe adeiladodd y dynion y capel hwn ar ôl i ffrwydrad mawr iawn ladd llawer o’r glowyr. Rydw i wrth fy modd yn y capel oherwydd bydd y cwrdd gweddi bob bore dydd Llun yn gwneud i mi deimlo’n fwy diogel cyn dechrau’r shifft.

Merlod y pwll

Ar fferm fy nhad-cu, mae ganddo fe lawer o geffylau. Bydd e’n eu dal nhw o blith y rhai gwyllt ar y comin. Dydy’r ceffylau hyn ddim mor neis â’r merlod sydd newydd ddod i weithio o dan ddaear er mwyn tynnu’r wagenni llawn glo ar hyd y traciau rheilffordd. Rydw i’n teimlo’n flin am ferlod y pwll oherwydd dydyn nhw ddim yn cael gweld llawer o olau dydd oherwydd mae eu stabl nhw o dan ddaear hefyd a byddan nhw braidd byth yn dod i’r wyneb. Byddwn ni’n mynd i weld teulu fy nhad ar y fferm pan fydd diwrnod o wyliau gyda ni a bydd fy mam-gu wastad yn poeni amdanom ni oherwydd ei bod hi wedi gweld cymaint o lowyr yn marw am fod llwch y glo ar eu hysgyfaint nhw. Mae fy mam wastad yn dweud fod marw o golera neu o eisiau bwyd yn waeth, sydd yn rhoi taw ar fy mam-gu, ond rydw i’n gwybod y bydd hi’n llefain ar ôl i ni fynd.

Ein cartref

Rydyn ni’n byw mewn ty sy’n cael ei rentu oddi wrth un o reolwyr y pwll glo. Mae e’n well na’r un oedd gyda ni yn Nhredegar oherwydd mae gardd gefn yma, lle bydd fy mam yn cadw mochyn ac ychydig o ieir a gafodd hi gan fy nhad-cu. Bydd hi hefyd yn tyfu llawer o lysiau ar gyfer y cawl fyddwn ni’n ei gael i swper bob nos. Mae fy mam yn glyfar iawn a bydd hi’n gofalu am yr arian y bydd pawb yn ei ennill. Bydd hi’n gweithio’n galed iawn er mwyn gwneud yn siwr bod gan bawb ddigon i’w fwyta a dillad glân i’w gwisgo, sy’n anodd iawn, yn enwedig yn y gaeaf, gan fod cymaint ohonom ni mewn un ty. Dyna pryd y bydd y ty’n teimlo’n llaith oherwydd bydd y dillad yn sychu ar lein o flaen y tân. Mae dillad gwaith a dillad parch gorau ar gyfer dydd Sul gan bawb, a byddan nhw’n cael eu pasio i lawr rhwng y plant wrth i ni dyfu, hyd yn oed ein hesgidiau, os nad ydyn nhw wedi gwisgo gormod. Mae fy mam yn dweud ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n edrych ar ein gorau pan fyddwn ni’n mynd i weddïo ar Dduw. Ond hefyd, dydy hi ddim eisiau i’r menywod eraill yn y capel hel clecs amdani hi a dweud ei bod hi’n wraig ty a mam dila. Bydd fy mam yn cael babi bron drwy’r amser, ond dyw pob un ohonyn nhw ddim yn byw am yn hir iawn. Dywedodd fy chwaer fawr y gallai fy mrawd bach newydd fod wedi cael ei achub rhag marw pe byddai’r teulu’n gallu fforddio talu am feddyg, ond mae fy nhad yn dweud mai Ewyllys Duw oedd bod y babi wedi marw, ac y dylen ni dderbyn y peth.

Symud

Mae 11 yn y teulu ond cyn bo hir bydd fy nau frawd hynaf a’r ail chwaer yn symud pan fyddan nhw’n priodi. Mae fy mam a fy nhad yn ystyried cadw lojar er mwyn helpu gyda’r arian y byddan nhw’n ei golli o gyflogau fy mrodyr a fy chwaer, ond dydw i ddim yn gwybod ble bydden nhw’n rhoi lojar!

Yfed

Mae fy mam a fy chwaer sy’n naw mlwydd oed wedi dechrau gwneud diod fain, sef diod sy’n cael ei wneud allan o ddail poethion neu ddanadl. Byddan nhw’n gwerthu’r ddiod i’r glowyr wrth iddyn nhw ddod heibio i’n ty ni ar ddiwedd y shifft. Mae’r ddiod fain yn boblogaidd iawn oherwydd, yn ôl fy nhad, mae’n clirio eich llwnc yn hyfryd o holl lwch y glo. Dim ond ffyrling y cwpan fydd hi’n codi amdano ond bydd pob ffyrling yn cynyddu’n geiniogau yn ddigon cyflym, am ei bod hi’n gwerthu cymaint o’r ddiod. Bydd hi’n gwneud cwrw sinsir hefyd, ac rwy’n meddwl ei bod hi wedi dechrau gwneud hwn am ei bod hi ddim eisiau i neb yn ein teulu ni yfed y cwrw go iawn y bydd llawer o’r glowyr yn ei yfed yn y tafarnau ar ôl gwaith. Mae hi’n dweud fod llawer o deuluoedd wedi cael eu chwalu oherwydd y ddiod gadarn. Rydw i’n falch ei bod hi ddim yn gwybod am fy mrawd, sy’n yfed peint gyda’i ffrindiau weithiau!

Gwaith arall

Mae un o fy chwiorydd llai yn gwnïo’n dda iawn a gofynnodd un o fy ewythrod ar y fferm a fyddai hi’n gallu mynd i fyw gyda nhw er mwyn iddi hi allu gwnïo’r holl gynfasau gwely a’r crysau a’r dillad ffermio. Rydw i’n meddwl y bydd hi’n mynd atyn nhw oherwydd mae arni hi ofn tywyllwch yn ofnadwy a byddai hi’n anobeithiol yn gweithio o dan ddaear. Gobeithio y byddan nhw’n gadael iddi hi ddal ati i wnïo i ni oherwydd mae hi’n dda iawn am wneud i ddillad ail-law edrych yn llai clytiog!

Darllen ac ysgrifennu

Dydy fy nhad ddim yn gallu darllen nac ysgrifennu ond mae fy mam yn gallu gwneud. Mae hi hefyd yn gallu adio rhifau, sy’n ddefnyddiol iawn, meddai hi, pan fydd y cigydd yn rhoi newid anghywir iddi hi weithiau. Rydyn ni’n siarad Cymraeg adref a bydd fy mam yn darllen o’r Beibl i ni bob nos. Rydw i’n dysgu rhai o’r adnodau ar fy nghof, ac rydw i’n gwybod y drydedd salm ar hugain o’r dechrau i’r diwedd. Mae fy mam yn benderfynol na fydd yr un o’i phlant hi’n mynd i’r byd mawr heb allu darllen ac ysgrifennu. Roeddwn i’n hoffi mynd i’r ysgol yn fawr iawn pan oeddwn i’n mynd yno, ac fe fyddwn wedi bod wrth fy modd yn cael aros yno ond byddai hynny wedi golygu y byddai fy mam a fy nhad wedi colli fy nghyflog, heb sôn am orfod talu am fy addysg, ac roedd hynny’n amhosibl.

Cosb

Roedd yn gas gan fy mrodyr yr ysgol oherwydd roedd yr athro mor greulon ac yn barod iawn i chwipio â’i ffon os bydden nhw’n gwneud camgymeriad. Dydw i ddim yn meddwl fod yr athro mor greulon â rheolwr newydd y pwll oherwydd, ddoe, fe wnaeth e guro bachgen o’n stryd ni yn ddrwg ar hyd ei goesau am ddwyn bara o fag bwyd rhywun arall, oherwydd bod y llygod mawr wedi bwyta’i fara ef. Rydw i’n teimlo’n flin drosto fe oherwydd dydy e ddim yn gallu cicio pêl yn y stryd wrth iddo fe gerdded adre nawr, felly rwy’n mynd i ofyn iddo fe a gaf i fenthyg ei bêl nes i’w goesau e wella. Wedi’r cyfan, fy nhad-cu i roddodd bledren mochyn iddo fe er mwyn iddo fe wneud y bêl yn y lle cyntaf!

 

 

Yn ôl i'r llinell-amser>>

 

English