Merch Geltaidd yr Oes Haearn - 2,500 o flynyddoedd yn ôl

Fy enw i ydy Heulwen ac rydw i’n perthyn i lwyth o’r enw’r Ordivices. Rydw i’n byw mewn bryngaer gyda fy nheulu. Cefais fy ngeni pan wnaeth glaw mawr y gaeaf ddinistrio ein storfa rawn a boddi ein caeau.

Fy nheulu

Rydw i’n byw mewn ty mawr crwn, â tho gwellt mawr arno, gyda’r holl bobl eraill sydd yn nheulu fy nhad. Dyna fy mam-gu a fy nhad-cu, chwaer fy nhad a’i dau blentyn, bu farw ei gwr hi pan redodd tarw i mewn iddo. Hefyd mae chwaer fy mam-gu a’i gwr a’u mab yn byw yma, a fy mam, fy nhad, fy chwaer a fy mrawd.

Hela

Ffermwyr ydy fy nheulu ac mae gan bawb ei waith a’i gyfrifoldebau. Mae pobl fy llwyth i yn hoffi hela a byddan nhw wastad yn dod yn ôl â phob math o anifail gwyllt. Bydd fy mam wrth ei bodd pan ddaw fy nhad adref o helfa ar ôl iddo ladd arth neu flaidd oherwydd bydd eu crwyn nhw’n ein cadw ni’n gynnes gyda’r nos. Mae’n gas gan fy nhad-cu y ceirw ac mae e’n mwynhau eu hela oherwydd bydden nhw’n bwyta ein holl gnydau pe baen ni ddim yn cadw llygad arnyn nhw. Y peth gorau yw pan fydd yr helwyr yn dod â baedd gwyllt adref, creadur fel mochyn gwyllt enfawr. Bydd fy mam-gu yn dweud mai’r baedd yw ei ffefryn hi oherwydd bod ganddo fe bopeth sydd ei angen arnom ni. Rydyn ni’n gallu bwyta’r cig, a gwneud math o ledr allan o groen y baedd er mwyn gwneud esgidiau a bagiau a phan fydd fy mam-gu yn rhwbio braster y baedd ar ein hesgidiau fydd dwr ddim yn mynd iddyn nhw mor gyflym. Weithiau bydd fy nhad yn mynd ag ysgithrau’r baedd at y dyn yn y ty crwn nesaf atom ni er mwyn gwneud glain ohonyn nhw. Bydd e hefyd yn defnyddio’r esgyrn i wneud nodwyddau a chribau i ni. Rydw i’n gallu deall pam fod fy mam-gu mor hoff o’r baedd gwyllt!

Ffermio

Fyddwn ni ddim yn hela ar gyfer pob cig oherwydd rydyn ni’n cadw gwartheg, moch, defaid a geifr ar gyfer eu bwyta. Rydyn ni hefyd yn cael gwlân gan y defaid a llaeth a lledr gan y gwartheg. Bydd ein cwn yn ein cadw ni’n ddiogel ac yn stopio’r defaid rhag rhedeg i ffwrdd. Byddan nhw hefyd yn mynd i hela gyda’r dynion oherwydd mae cwn yn gallu arogli baedd neu arth cyn i bobl eu gweld nhw. Yn y caeau o gwmpas ein bryngaer byddwn ni’n tyfu ceirch a barlys.

Gwisg

Mae menywod fy nheulu i yn hardd iawn. Bydd fy mam a’i ffrindiau bob amser yn gofalu fod eu hewinedd yn lân. Bydda i wastad yn mynd gyda fy mam mi gasglu aeron, nid dim ond er mwyn eu bwyta ond hefyd i wneud potiau o golur. Bydd fy mam yn tywyllu ei haeliau gyda sudd yr aeron a bydd hi hefyd yn defnyddio perlysieuyn o’r enw ruam i wneud ei bochau a’i gwefusau’n goch. Mae ganddi hi wallt hir iawn sy’n dod i lawr at ei phengliniau. Mae hi’n cadw’i gwallt yn dwt ac yn ei warchod rhag i lau fynd iddo trwy gario’i chrib gyda hi i bobman a phlethu ei gwallt yn ddwy blethen hir.

Mae gan ddynion ein llwyth ni wallt hir hefyd, nid dim ond ar eu pennau ond ar eu hwynebau hefyd. Mae mwstash fy nhad-cu mor hir nes bod yr ewyn oddi ar ei gwrw’n glynu’n sownd wrtho fe ac mae’n edrych yn ddoniol iawn. Mae gan lawer o bobl y llwyth datws ar eu cyrff a phan fyddan nhw’n mynd i frwydro byddan nhw’n gorchuddio’u cyrff â phaent glas o blanhigyn o’r enw’r ‘glaslys’, sydd yn lliw glas.

Chwarae a diogelwch

Mae fy chwaer a fy mrawd yn hyn na mi a byddan nhw’n gofalu amdana i bob amser, oni bai am yr adegau pan fydda i’n chwarae gyda fy ffrindiau, wrth gwrs. Rydyn ni’n chwarae llawer o gêmau fel ‘defnydd, carreg, cyllell’ ac ymarfer taflu cerrig gyda slingiau. Mae’n bwysig fod pawb yn y llwyth yn gallu defnyddio sling yn dda ac yn gallu taflu cerrig oherwydd weithiau daw pobl gas iawn a cheisio dwyn ein hanifeiliaid. Fe wnaeth rhywun hyd yn oed geisio dwyn pobl o’r pentref unwaith er mwyn gallu eu gwerthu nhw i fod yn gaethweision. Rydw i’n falch iawn fy mod i’n cysgu mewn gwely mawr gyda fy chwaer a fy nghefndryd, a bod gweddill y teulu gerllaw o dan yr un to. Bydd fy nhad a fy mrawd yn torri llawer o goed o’r goedwig ac yn ystod gwyl haf Samhain, pan fydd adeg ffermio wedi gorffen oherwydd bod y tywydd drwg a’r dyddiau byrion ar y ffordd, fe wnaeth fy nhad roi bwyell i fy mrawd. Rhaid bod y fwyell newydd wedi costio llawer i fy nhad – o leia ddeg o ddefaid!

Y pennaeth

Mae llawer o dai crwn yn ein pentref ni ond y pennaeth sydd biau’r ty mwyaf. Mae e’n gyfoethog iawn oherwydd ei fod e’n berchen ar fwy o ddefaid a gwartheg na neb arall yr ydw i’n eu nabod. Weithiau byddwn ni’n mynd i’w dy ef i wrando ar straeon gan ryfelwyr ein llwyth, pan fyddan nhw’n adrodd am y brwydrau dewr y maen nhw wedi’u hennill a sut y gwnaethon nhw drechu ein gelynion. Ein pennaeth ni yw’r dyn dewraf yn y llwyth i gyd. Mae e’n berchen ar gerbyd sy’n cael ei dynnu gan geffyl ac mae gan bob un o’r rhyfelwyr gleddyfau a thariannau, a byddan nhw’n barod i’w defnyddio os ydyn nhw’n teimlo fod perygl gerllaw. Yn nhy crwn y pennaeth y byddwn ni’n clywed straeon am y duwiau ac yn gwrando ar gerddoriaeth y delyn. Unwaith daeth bardd heibio ac roedd pawb wrth eu boddau’n gwrando ar ei straeon a’i farddoniaeth e.

Cyfraith a chrefydd

Os oes rhywun wedi torri’r gyfraith, bydd y derwydd (dyn doeth iawn) yn gwrando ar beth sydd wedi digwydd ac yn penderfynu a ydy’r person yn euog ai peidio. Gall y derwydd benderfynu a yw lleidr yn byw neu’n marw hyd yn oed.

Mae’r tymhorau’n bwysig iawn i ni yma yn ein pentref a bydd gennym ni lawer o wyliau a gwleddoedd i ddiolch i dduwiau natur a’r byd am eu caredigrwydd pan fydd ein cnydau’n llwyddo. Bydd y derwydd yn cynnig aberthau i’r duwiau er mwyn gwneud yn siwr y byddwn ni’n cael cynhaeaf da. Weithiau bydd e’n aberthu gafr ond fel arfer bydd e’n taflu pethau metel i mewn i’r dwr os ydyn ni eisiau cymwynas oddi wrth y duwiau. Yn y flwyddyn y cefais i fy ngeni aeth fy nhad â’i gyllell i’r afon ac, ar ôl torri’r llafn, fe daflodd e’r gyllell i mewn gan wneud dymuniad y byddai’r teulu’n llwyddo i fyw drwy’r gaeaf caled. Diolch byth, fe wnaeth y duwiau wrando arno fe.

Ein cymuned

Mae pawb yn helpu’i gilydd yn ein pentref ni. Mae llawer o deuluoedd yma, pawb yn gallu gwneud pethau gwahanol – gof, turniwr pren, gwehydd, rhyfelwr, ffermwr, pobl sy’n gwneud platiau a chrochanau. Yn y gaeaf bydd y gwartheg hyd yn oed yn byw gyda ni. Mae pawb yn helpu’i gilydd gymaint ag y gallwn ni; bydd y gwartheg yn ein helpu ni i dynnu’r aradr er mwyn torri’r tir ar gyfer plannu’r hadau.

Rydyn ni i gyd yn byw yn ymyl ein gilydd yn ein pentref ar fryn, ac o gwmpas y pentref mae ffens bren dal a chlwyd fawr. Mae yma lawer o dai crwn, pob un o faint gwahanol yn dibynnu pa mor fawr yw’r teulu. Mae gyda ni gytiau ar ben polion hefyd er mwyn stopio’r llygod mawr ac anifeiliaid bach eraill rhag mynd at y grawn fyddwn ni’n ei gadw ar gyfer misoedd y gaeaf.

Bwyd

Tu allan i’n ty ni mae gennym ni ardd lle byddwn ni’n tyfu llysiau a pherlysiau er mwyn gwneud cawl, ac yn y lloc bach byddwn ni’n cadw moch a geifr. Mae chwaer fy mam-gu newydd ddechrau cadw gwenyn er mwyn i ni gael mêl a chwyr ond byddwn i’n hapusach pe byddai’r cwch gwenyn yn bellach oddi wrth y drws ffrynt!

Rydyn ni’n coginio ein bwyd i gyd yn y tu ar dân mawr; bydd fy mam yn gwneud yn siwr na fydd y tân byth yn diffodd. Bydd hi’n hongian cig a pherlysiau uwchben y tân o dan y to ac fel yna bydd y mwg yn cadw’r cig yn ffres am amser maith.

Un swydd y bydda i’n ei gwneud fydd malu’r gwenith yn flawd gan ddefnyddio breuan a melin law. Bydd y felin law yn gorwedd ar ben y freuan ac mae twll yn y canol. Mi fydda i’n gollwng y gwenith drwy’r twll ac yn troi’r felin law sy’n gorwedd ar ben y freuan. Bydd y blawd yn syrthio allan o’r ochrau. Mae hyn yn waith caled iawn, credwch fi, a bydda i’n ei wneud bob dydd. Mi fydda i hefyd yn helpu fy chwaer i odro’r afr a byddwn ni’n mynd â’r llaeth at fy mam-gu a’i chwaer, fydd yn gwneud menyn a llaeth ohono fe.

Rydyn ni’n bwyta llawer o uwd yn ein teulu ni ond weithiau bydd gennym ni aeron a chnau os ydyn nhw’n aeddfed. Mae fy mrawd a fy nghefndryd yn gallu saethu adar yn dda gyda’u slingiau ac unwaith fe wnaeth fy mrawd ddal ysgyfarnog i swper.

Gwehyddu a masnachu

Mae fy mam yn wehydd da iawn ac mae hi’n dysgu’r grefft o wneud defnydd gwlanen main i fi. Ar ôl i ni gneifio’r defaid, byddwn ni’n troelli’r gwlân yn edafedd hir ac yn eu llifo nhw’n lliwiau llachar – coch, brown, gwyrdd a glas. Wedyn byddwn ni’n defnyddio’r edafedd lliwgar hyn ac yn eu gwehyddu nhw’n batrymau streipiau neu sgwariau. Roedd fy nhad-cu wrth ei fodd gyda’r trowsus gwyrdd, glas a du wnes i iddo fe. Fe wnaeth fy modryb glogyn hardd iawn i mi er mwyn fy nghadw i’n gynnes yn ystod y gaeaf. Mae dwy haen i’r clogyn, a bydd y bobl sy’n teithio heibio i’n pentref ni yn prynu rhai tebyg oddi wrthym ni. Bydd gen i froitsh efydd i gadw’r clogyn yn ei le.

Y dyfodol

Bydd llawer o deithwyr yn dod i’n pentref ni gan adrodd newyddion am y pethau y bydd llwythau eraill sy’n byw ymhell i ffwrdd yn eu gwneud. Fe wnaeth un dyn, sy’n dod â halen i’w gyfnewid i’r pentref, ddangos pethau crwn, fflat, metel i ni. Yr enw roddodd e ar y pethau oedd darnau arian. Fe wnaeth pawb chwerthin a dweud nad oedd dim pwrpas i bethau fel’na; wedi’r cyfan, pwy fyddai eisiau cyfnewid croen ffwr am ddarn hurt o fetel!

 

 

Yn ôl i'r llinell-amser>>

 

English