Efeilliaid Mesolithig - 9,000 o flynyddoedd yn ôl

Fy enw i ydy Seren ac enw fy mrawd ydy Lloer. Efeilliaid ydyn ni ac rydyn ni’n ddigon mawr i gyrraedd at ysgwydd ein tad. Fe roddodd ein tad yr enwau hyn i ni oherwydd cawsom ni ein geni pan oedd y lleuad a’r sêr yn glir yn yr awyr.

Fy nheulu

Roedd fy mrawd yn fach iawn pan gafodd e ei eni ac roedd fy mam yn gofidio amdano fe. Doedd dim angen iddi hi boeni oherwydd mae e’n gryf nawr ac mae e’n mynd i hela gyda fy nhad bron bob dydd tra bydda i’n aros adre, i helpu fy mam a fy mam-gu i chwilio am aeron, cnau a dail. Dyna’r cyfan fydd gyda ni i’w fwyta oni bai fod dynion y gwersyll yn dod â chig adre i ni.

Byw ar lan y môr

Rydyn ni’n byw ger y dwr sydd byth yn gorffen ac sy’n dod i mewn ac allan mewn tonnau mawr. Mae blas rhyfedd ar y dwr hwn a bydd yn eich gwneud chi’n sâl os ydych chi’n yfed gormod ohono fe. Rydyn ni’n yfed y dwr o’r tir uchel sy’n llifo heibio i’r gwersyll. Mae arna i ofn y dwr sydd byth yn gorffen, yn enwedig pan fydd e’n torri dros ben fy mam a minnau pan fyddwn ni’n chwilio am y cregyn crwn sy’n sownd wrth y graig. Byddwn ni’n bwyta’r cig sydd yn y cregyn, ond mae hi’n anodd iawn eu tynnu nhw’n rhydd oddi ar y graig. Rydw i wedi dod o hyd i garreg fach dda iawn ar y traeth er mwyn chwalu’r cregyn a rhoddodd fy nhad fflint bach i grafu’r cig allan o’r gragen, felly mae’n llawer iawn haws nawr. Mae fy mam wedi rhoi ei fflint hi yn sownd mewn darn bach o bren, felly mae’n llawer haws ei drin nawr. Rydw i’n meddwl y gwna i hynny hefyd y tro nesaf yr awn ni i chwilio am gregyn. Weithiau, pan fyddwn ni’n mynd i hel cig y cregyn, bydd rhai o fy ffrindiau’n dod hefyd, a byddwn ni’n cael llawer o hwyl yn dianc rhag y tonnau wrth iddyn nhw dorri ar y tywod meddal, Fe wnaeth un ferch, oedd yn gwybod fy mod i’n ofni’r dwr sydd byth yn gorffen, fy ngwthio ac wedyn roedd hi’n chwerthin pan gwympais i i’r dwr a gwlychu. Doeddwn i ddim yn gallu stopio crio.

Fy mam-gu

Fe wnaeth fy mam-gu weiddi ar y ferch i roi help llaw i mi, ond wnaeth hi ddim, dim ond chwerthin yn rhagor. Roedd mam y ferch yn grac ac fe wnaeth hi ei tharo hi, gan ddweud y byddai fy nillad croen anifail yn cymryd diwrnodau i sychu. Rydw i’n meddwl bod y fam wedi taro’r ferch am fod arni hi ofn fy mam-gu. Mae ar bawb ofn fy mam-gu oherwydd hi sy’n cadw hanes ein llwyth a hud y tymhorau. Bydd hi’n defnyddio ffon nawr oherwydd mae hi’n ei chael hi’n anodd cerdded ond bydd hi’n ddigon parod i’w ddefnyddio i daro rhywun sy’n ei hypsetio.

Pysgota

Weithiau bydda i, fy mam a fy mam-gu yn dal pysgod yn y dwr clir sy’n rhedeg o’r tir uchel, Mae gwaywffon gyda ni ac mae rhes o fflintiau bach yn sownd ynddo, mewn rhes. Byddwn ni’n sefyll yn llonydd yn y dwr nes i bysgod nofio heibio ac yna byddwn ni’n rhoi cynnig ar eu trywanu gyda’r waywffon mor gyflym ag y gallwn ni. Byddan nhw’n dianc yn aml.

Cychod

Mae dyn yn y gwersyll yn gwneud cwch allan o foncyff coeden oherwydd mae e’n dweud bod pysgod enfawr allan yn y dwr sydd byth yn gorffen. Aeth sawl lleuad lawn heibio wrth iddo fe a’i frodyr grafu’r boncyff er mwyn gwneud lle iddyn nhw eistedd yn ei ganol. Fyddech chi byth yn fy nghael i ynddo fe oherwydd mae’r dwr yna mor gryf gallai eich sgubo i ffwrdd am byth! Mae e’n dweud y byddan nhw’n ddiogel oherwydd bydd gan bob un ohonyn nhw rwyf i reoli’r cwch. Fe wna i gredu hynny pan wela i e’n digwydd, diolch yn fawr!

Llifogydd

Roedden ni’n arfer byw mewn gwersyll arall. Roedd hwnnw yn ymyl lle roedd y dwr clir yn llifo allan i’r dwr sydd byth yn gorffen, ond pan ddaeth glaw mawr, boddwyd ein gwersyll ac fe gollon ni lawer o’n crwyn anifeiliaid a’n harfau. Pan stopiodd y glaw roedd popeth yn wahanol ac roedd y gwersyll dan ddwr. Wnaeth y dwr ddim mynd i ffwrdd chwaith, felly roedd yn rhaid i ni ddod o hyd i le arall i fyw, ymhellach oddi wrth y dwr oedd yn codi, ar dir uwch.

Straeon gyda’r nos

Pan fydd yr haul yn mynd i ffwrdd ac mae’r tân yn dwym yn ein cysgod ni, bydd fy mam-gu yn adrodd straeon cyn i ni fynd i gysgu. Mae un ohonyn nhw am ein cyndeidiau oedd yn byw mewn ogofau oedd yn edrych allan dros y tiroedd gwastad, Roedd hi’n dweud bod y byd yn fwy bryd hynny ond erbyn hyn mae llawer o’r tir gwastad wedi’i guddio o dan y dwr sydd byth yn gorffen. Mae hi’n dweud bod ein cyndeidiau ni wedi dilyn y ceirw oherwydd bydd ceirw wastad yn gwybod ble i ddod o hyd i fwyd. Mae hi’n dweud ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n cofio’r straeon hyn er mwyn i ni allu eu dweud nhw wrth ein plant ni, ac yna gallan nhw eu hadrodd wrth eu plant nhw os ydyn ni am fyw.

Peintio ogofau

Mae hi’n dweud bod ein cyndadau ni’n bwysig iawn, a’u bod nhw gyda ni o hyd er nad ydyn ni’n gallu eu gweld nhw. Mae fy nhad yn dweud bod ogof lle bydd dynion doeth ein gwersyll yn mynd i wneud siâp helwyr ac anifeiliaid ar y waliau gan ddefnyddio sudd aeron a charreg goch feddal. Pan fydd dim ceirw neu faedd gwyllt o gwmpas i ni eu hela, mae e’n dweud bod y lluniau hud hyn yn gallu dweud wrth y cyndadau i chwilio am yr anifeiliaid er mwyn eu hanfon nhw i’n cyfeiriad ni.

Sefydlu gwersyll newydd

Pan symudon ni ein gwersyll i’r lle newydd hwn roedd llawer o goed yn y ffordd. Fe wnaeth dynion y gwersyll eu llosgi nhw gyntaf yna cloddio’r gwreiddiau a’r bonion allan o’r pridd er mwyn i ni gael lle i godi cysgod.

Hela

Mae fy nhad yn heliwr clyfar iawn oherwydd mae e wedi gwneud het iddo fe’i hun allan o benglog a chyrn carw. Bydd e’n gwisgo’r rhain pan fydd e’n cuddio yn y llwyni er mwyn twyllo’r ceirw i feddwl mai carw arall yw e, a byddan nhw’n dod draw i weld. Yn ffodus i fy nhad, bydd dynion eraill yr helfa, sy’n cuddio mewn llwyni gerllaw, yn gallu defnyddio’u gwaywffyn neu saethu saethau at y ceirw ac wedyn bydd gyda ni gig am lawer o leuadau. Fe wnes i gofio stori fy mam-gu a dweud wrth fy nhad am beidio â lladd gormod o geirw oherwydd byddwn ni angen eu help nhw i’n harwain ni i fannau hela newydd. Ond chwerthin wnaeth fy nhad a dweud na fyddai e’n debygol o wneud hynny, oherwydd bydd y ceirw wastad yn rhedeg yn rhy gyflym!

Y ffordd arall y bydd fy nhad a fy mrawd yn dal anifeiliaid ar gyfer eu bwyta yw drwy anfon y cwn ar eu holau. Unwaith, fe wnaeth ci fy mrawd hela baedd gwyllt dros ymyl clogwyn, oedd yn dda iawn ac fe roddodd fy nhad ysgithrau’r baedd i fy mrawd er mwyn iddo wneud pennau bach miniog ar gyfer ei waywffon. Rydw i’n gobeithio y bydd e’n gwneud offeryn i mi ar gyfer gwneud tyllau yng nghrwyn yr anifeiliaid. Bydd hynny’n ei gwneud hi’n haws i mi eu gwnïo oherwydd rydw i eisiau gwneud clogyn newydd ar gyfer fy mam-gu. Rydw i’n teimlo’n flin drosti hi, oherwydd mae hi’n ei chael hi’n fwy anodd cerdded nawr, ac mae’r tywydd yn oer iawn yn y nos.

Newid gwersyll

Efallai y bydd y gwersyll yn symud eto cyn bo hir oherwydd does dim cymaint o anifeiliaid yma nawr ac mae hi’n dod yn fwy anodd dod o hyd i’r cregyn gyda chig ynddyn nhw, sy’n byw ar y graig. Mae ein cartrefi ni’n ddigon hawdd i’w symud oherwydd maen nhw wedi cael eu gwneud allan o bolion pren mewn cylch gyda chrwyn anifeiliaid drostyn nhw.

Oherwydd hynny, mae hi’n hawdd i ni symud ein gwersyll i rywle lle bydd mwy o fwyd, er bod yn rhaid i ni aros yn agos at y dwr clir sy’n rhedeg oddi ar y tir uchel neu byddem ni’n marw heb ddwr i’w yfed.

Symud ymlaen

Fe fydda i’n flin i symud ymhellach oddi wrth y dwr sydd byth yn gorffen oherwydd rydw i’n hoffi casglu cregyn pert a’u rhoi at ei gilydd ar linyn i wneud mwclis. Fe ofynnodd un o’r gwragedd yn y gwersyll i mi a fyddwn i’n fodlon gwneud un iddi hi. Dywedodd fy mam y dylwn i ofyn am rywbeth yn ei le felly fe wnes i ofyn iddi hi wneud dolen allan o asgwrn ar gyfer fy nhamaid bach i o fflint, y fflint y bydda i’n ei ddefnyddio i grafu cig allan o’r cregyn. Rydw i’n falch fy mod i wedi gofyn oherwydd fe wnaeth hi naddu patrwm ar ochr y ddolen ac rydw i’n gwybod nawr mai fy un i yw hwnnw. Rydw i’n meddwl y gwna i grafu’r un siapiau yn y garreg fach y bydda i’n ei defnyddio i chwalu’r cregyn, oherwydd bod y patrwm mor bert.

 

Yn ôl i'r llinell-amser>>

 

English