Bachgen Neanderthal - 40,000 o flynyddoedd yn ôl

Fy enw i ydy Blaidd ac rydw i’n byw mewn ogof ger y môr.

Fy nheulu

Rydw i’n byw gyda fy mam, fy nhad, fy mrawd mawr, a fy chwaer, sy’n fabi bach. Mae fy mam-gu a fy nhad-cu yn byw yma hefyd, a brawd fy nhad a’i wraig a’u babi nhw.

Mae fy nhad yn gryf iawn ac mae e’n gwisgo clogyn ffwr hardd i’w gadw’n gynnes. Mae e’n gwisgo het ffwr hefyd os bydd hi’n oer iawn, ynghyd ag esgidiau ffwr. Bydd hyn pan fydd golau ddydd yn brin a’r nosweithiau’n hir ac oer.

Mae fy mam yn gryf hefyd ac weithiau bydd hi’n helpu gyda’r hela. Mae hi’n arbennig o glyfar wrth gynnau tân a chrafu’n lân grwyn yr anifeiliaid y byddwn ni wedi’u dal.

Bydd fy mam-gu yn helpu fy mam a bydd hi hefyd yn casglu aeron a dail i ni eu bwyta. Mae hi’n helpu edrych ar ôl y plant iau ond mae hi yn llym iawn gyda nhw.

Dydy fy nhad-cu ddim yn gallu cerdded mwyach, a bydd e’n eistedd ger y tân bob amser. Cafodd ei anafu’n ddrwg wrth neidio ar gefn rhinoseros blewog er mwyn ceisio’i ladd i ni gael cig.

Mae gen i un brawd sy’n hyn na fi a bydd e’n mynd gyda fy nhad a’i frawd i hela. Rydw i eisiau bod yn debyg iddo fe un diwrnod oherwydd does arno fed dim ofn dim, heblaw am gorynnod!

Cadw’n iach

Mae gen i goesau cryf iawn a gallaf gerdded a rhedeg yn bell. Rydw i’n lwcus bod y croen o dan fy nhraed yn wydn a thrwchus felly dydw i ddim yn teimlo’r brigau a’r cerrig miniog pan fydda i’n mynd i hela gyda’r teulu. Rydyn ni’n cerdded neu’n rhedeg i bobman. Mae’n bwysig ein bod ni’n gallu rhedeg yn gyflym, yn enwedig pan fydd arth yn eich cwrso!

Mae’r menywod y nein grwp yn gwybod llawer am y planhigion sy’n tyfu o gwmpas ein hogof ni. Os oes rhywun yn sâl neu wedi cael anaf, mae nhw’n gwneud i ni fwyta dail arbennig ac yfed tê dail ac yn dodi eli arnom i’n gwella ni. Mae gan fy mam lawer o fagiau wedi’u gwneud o grwyn anifeiliaid er mwyn cadw’r planhigion arbennig hyn yn ddiogel. Fy mam wnaeth dynnu dannedd fy nhad-cu pan oedden nhw’n bwdr.

Dillad

Bydd tân gyda ni yn yr ogof bob amser oherwydd mae’n ein cadw ni’n gynnes a bydd yr anifeiliaid cas yn cadw draw pan welan nhw’r tân. Mae fy mam, fy modryb a fy mam-gu yn gweithio gyda’i gilydd i grafu gwaed a pherfeddion oddi ar y crwyn anifeiliaid ac wedyn ar ôl iddyn nhw gael eu hymestyn a’u sychu, rydyn ni’n gallu eu gwisgo nhw. Rydyn ni hefyd yn defnyddio crwyn ceirw a gwlân buail a mamoth i lapio o’n cwmpas pan fyddwn ni’n cysgu. Pentwr mawr o wellt wedi’i orchuddio â chrwyn ffwr meddal ydy fy ngwely i.

Gwnaeth fy mam-gu esgidiau tywydd oer i bob un ohonon ni. Roedden nhw’n dda iawn, yn cadw’r eira gwlyb allan gan ei bod wedi rhwbio tu mewn yr esgidiau gyda bloneg o’r mamoth ar ôl i ni ei ladd.

Gwneud Offer

Er nad ydy fy nhad-cu yn gallu cerdded, mae e’n dal i allu gwneud offer allan o gerrig mawr a elwir yn fflint. Mae e’n gwneud morthwylion llaw a gwaywffyn a chyllyll miniog er mwyn torri. Mae e hefyd yn gwneud crafwyr ar gyfer glannau a thynnu blew oddi ar grwyn anifeiliaid, ac offeryn arall sy’n gwneud tyllau yn y crwyn anifeiliaid, o’r enw ebill. Mae fy nhad-cu yn ddyn arbennig iawn a bydd helwyr yn dod o bobman yn yr ardal i ofyn iddo fe wneud offer iddyn nhw.

Hela

Weithiau bydda i’n mynd i hela gyda’r dynion a’r menywod. Mae’n codi ofn arna i! Unwaith fe wnaethon ni ddilyn praidd o famoth am ffordd bell iawn. Roedd hi’n rhy hwyr i fynd adre felly fe adeiladon ni gysgod o esgyrn mawr mamoth yr oedden ni wedi dod o hyd iddyn nhw, a changhennau mawr, a gorchuddio’r cyfan gyda brigau a rhisgl coed. Yn y bore, fe welsom ni fod un o’r mamothiaid wedi gadael y praidd felly fe wnaethon ni ei gwrso nes iddo gwympo dros ymyl clogwyn a marw. Fe wnaethon ni redeg i lawr ochr y mynydd a’i dorri’n ddarnau yn y fan honno er mwyn ei gwneud hi’n haws i ni ei gario adref.

Bwyd

Fy hoff fwyd yw cig, a llawer ohono! Weithiau byddwn ni’n ei goginio dros y tân ond dro arall fyddwn ni ddim yn trafferthu, a’i fwyta’n amrwd. Ffefryn fy chwaer ydy cig arth ond mae fy nhad yn hoffi cig carw, ac mae brawd fy nhad yn hoff o gig buail.

Mae fy nhad-cu yn hen felly dydy e ddim yn gallu cnoi cig ddim mwy oherwydd nad oes ganddo fe ddim dannedd. Bydd fy mam-gu yn cnoi’r cig drosto ac wedyn bydd e’n ei fwyta. Weithiau bydda i’n cnoi ar ei ran, ond dydw i ddim yn cofio peidio â llyncu bob tro!

Pan mae’r tywydd twym yn dod a’r eira’n diflannu, gallwch chi weld tiroedd gwastad islaw ein hogof ni. Er bod y tir yn gorsiog a gwlyb, rydw i wrth fy modd yn dilyn y sianelau dwr gan gasglu cregyn sy’n sownd wrth y graig. Os byddwch chi’n eu rhoi nhw’n agos iawn at y tân byddan nhw’n agor yn sydyn, ac mae’r cig sydd yn y cregyn y flasus iawn. Fe wnes i ddarganfod ychydig o bysgod wedi marw unwaith ac fe es i â nhw adre. Roedd y teulu wrth eu bodd pan welon nhw’r pysgod oherwydd fe wnaethon nhw swper blasus i ni i gyd.

Rydw i wrth fy modd pan fydd fy nheulu yn dod yn ôl o helfa gyda darn mawr o famoth. Byddwn ni’n bwyta’n fras am amser maith pan fydd hynny’n digwydd. Rydw i’n arbennig o hoff o’r jeli meddal y gallwch chi ei sugno allan o’r esgyrn.

Rydw i hefyd yn hoff o’r ysgithrau mawr a’r esgyrn caled oherwydd gallwch chi wneud offer miniog, da gyda’r rhain.

Rydyn ni hefyd yn taenu’r bloneg dros ben llond llaw o wellt ac yna’n ei gynnau er mwyn gweld yn y tywyllwch.

Y dirwedd

O’n hogof ni rydych chi’n gallu gweld yn bell iawn ac mae’r tir yn newid yn ystod y flwyddyn. Weithiau bydd yr haul yn tywynnu a pan fydd hynny’n digwydd rydyn ni’n cael diwrnodau hir, cynnes, a gallwch chi weld blodau, mwsog, a choed bach ar y paith enfawr. Dyna pryd y bydd hi fwyaf anodd rhedeg ar y ddaear oherwydd bydd yn feddal a gwlyb gyda dwr ar yr wyneb. Bryd hynny bydd fy nheulu’n gadael ein hogof ac yn dechrau dilyn yr anifeiliaid sydd wedi dod i’n tiroedd i fwyta’r gwair a’r mwsog. Dyna pryd y byddwn ni hefyd yn byw yn y cysgodion y bydd fy nhad a brawd fy nhad wedi’u hadeiladu.

Pan ddaw’r adeg oer, bydd y gwynt yn chwythu’n gryf, bydd y ddaear yn rhewi a bydd hi’n bwrw eira. Dyma pryd y byddwn ni’n dod yn ôl i’n hogof oherwydd bydd anifeiliaid yn mynd i ffwrdd a bydd yr holl dir a welwch chi o’n hogof yn hollol wyn, nes ei bod hi’n amhosibl i chi weld y coed bach o gwbl!

 

Yn ôl i'r llinell-amser>>

 

English