Bachgen Rhufeinig - 250 OC
Fy enw i yw Maximus ac rwy’n byw mewn tref fawr iawn o’r enw Venta
Silurum yng Ngorllewin Britannia. Mae Venta Silurum yn rhan orllewinol Britannia gerllaw Isca, canolfan fawr
i’r fyddin.
Gwaith
Mae gan fy rhieni siop lwyddiannus iawn ynghanol y dref lle rydyn ni’n gwerthu olew
olewydd, gwin a bwydydd o bob rhan o’r byd – pethau fel cnau, ffigys a datys.
Rydyn ni’n byw y tu allan i’r dref yn ein fila, ty mawr, sgwâr, isel, gyda
thir ffermio o’i gwmpas. Rydyn ni’n gwerthu llawer o’r pethau fyddwn ni’n eu tyfu a’u
gwneud ar ein fferm yn y siop.
Fy nheulu / Dillad
Fel arfer bydda i’n gwisgo tiwnig wlanen syml â belt am fy nghanol a sandalau lledr.
Am fy ngwddf, rydw i’n gwisgo mwclis lwc dda, o’r enw bulla. Fe gefais i hwn pan gefais fy ngeni
a wna i ddim mo’i dynnu i ffwrdd nes fy mod i’n 16. Bydd yn fy nghadw’n ddiogel rhag ysbrydion
drwg am weddill fy mywyd.
Branwen yw enw fy chwaer ac mae hi’n 11 oed, ddwy flynedd yn hyn na fi. Does ganddi hi
ddim bulla, ond mae ganddi fwclis o’r enw lunula sydd yr un siâp â lleuad newydd, ac fe fydd
hi’n gwisgo hwn nes iddi briodi. Mae ei dillad hi’n debyg iawn i rai fy mam ac mae hi’n gwisgo’i
gwallt mewn cwlwm ar ei gwar.
Gan amlaf bydd fy nhad yn gwisgo tiwnig fer wedi’i gwneud o liain a chlogyn gwlanen ond
os bydd e’n mynd i rywle arbennig yna bydd yn gwisgo toga trwm. Bydd angen cymorth y gweision i drefnu
hwnnw’n llawer o blygiadau. Does ganddo fe ddim gemwaith heblaw am ei fodrwy. Pan fydd e’n anfon
neges at rywun, bydd e’n selio’r llythyr gyda lwmpyn o gwyr a gwasgu’i fodrwy iddo er mwyn
i bobl wybod pwy sydd wedi’i anfon.
Awen yw enw fy mam ac mae hi’n aelod o lwyth Celtaidd y Silures. Pan ddaeth byddin Rhufain
i Britannia gyntaf, roedd ei llwyth hi’n anfodlon iawn ac fe fuon nhw’n brwydro’n galed am
amser i gael gwared arnyn nhw. Ond nid felly y mae hi bellach ac mae pobl y Silures a’r Rhufeiniaid yn
byw yn hapus gyda’i gilydd.
Bydd fy mam yn gwisgo tiwnig hir, sy’n cyrraedd bron at y llawr. Ar ben hwn mae hi’n
gwisgo stola, ffrog a chanddi wregys ar ei chanol a thros ben honno mae hi’n gwisgo clogyn o frethyn wedi’i
wneud â gwlân y defaid sydd ar ein fferm. Mae Mam wrth ei bodd gyda llawer o emwaith drud oherwydd
ei bod hi’n hoffi dangos ei hun!
Y Dref
Mae gan y dref wal fawr o’i chwmpas ac rydych chi’n mynd i mewn drwy borth mawr.
Strydoedd syth sydd yn y stryd, gyda rhesi twt o adeiladau a siopau lle gallwch chi brynu popeth. Gemydd sy’n
gweithio yn y siop drws nesaf, yn gwneud gemwaith allan o aur o Orllewin Britannia a drws nesaf iddo fe mae
dyn sy’n gallu gwneud llawr mosaig ar gyfer eich ty mewn unrhyw siâp, batrwm neu lun y byddech chi
eisiau. Mae gennym ni adeiladau mawr yn ein tref oherwydd ein bod ni’n defnyddio concrid, meddai Dad,
ac mae hyn yn eu stopio rhag cwympo i lawr.
Ynghanol y dref mae yna le agored gyda phendist o’r enw’r forum neu’r ganolfan
ddinesig. O’r fan hon gall fy nhad fynd i mewn i’r basilica neu neuadd y dref. Mae fy nhad yn eithaf
cyfoethog bellach a hefyd, am iddo fe briodi fy mam sy’n perthyn i lwyth Celtaidd y Silwriaid oedd yn
arfer rheoli’r ardal hon cyn y Rhufeiniaid, mae ganddo fe sedd ar gyngor y dref.
Partïon Swper
Weithiau bydd fy rhieni yn gwahodd ffrindiau i aros yn ein fila y tu allan i’r dref.
Byddan nhw’n cael partïon ardderchog sydd weithiau’n para cymaint ag wyth awr. Bydd yr oedolion
yn gorwedd ar soffas sydd wedi’u gosod o gwmpas bwrdd sgwâr; rhaid i fy chwaer a minnau eistedd
ar y llawr.
Byddwn ni’n bwyta gyda’n bysedd a bydd ein gweision a’n caethweision yn torri’r
bwyd yn dameidiau bach i ni. Gall ein dwylo fynd braidd yn ludiog pan fyddwn ni’n bwyta felly bydd y caethweision
yn golchi ein dwylo drwy gydol y pryd bwyd.
Rydyn ni’n bwyta llawer o gig bob amser. Mae fy nhad yn hoffi bwyta gafr wyllt ond fy
ffefryn i yw pathew wedi’i rostio. Hoff gig fy mam yw cyw iâr ac mae fy chwaer wth ei bodd yn pigo
esgyrn colomennod, durturod a pheunod.
Bydd fy rhieni a’u ffrindiau’n yfed gormod o win yn y partïon hyn, a bydd
eu swn yn fy nghadw i ar ddihun tan y bore bach.
Y baddon cyhoeddus
Bydd fy rhieni’n mynd i’r baddondy bob dydd i ymolchi, sgwrsio, gwneud ymarfer
corff ac ymlacio ond dydyn nhw ddim yn mynd ar yr un pryd. Mae yna ardal ymarfer, ardal oer ac ystafelloedd
ager poeth. Mae’n gynnes iawn yn y baddondy am fod y lloriau’n cael eu cynhesu oddi tanynt gan bibau
hir sy’n cario awyr poeth o dân o dan yr adeilad.
Mae llawer o gaethweision yn gweithio yn y baddondy, yn cynhesu’r dwr, cario tywelion
a helpu i lanhau’r bobl sy’n ymolchi. Byddan nhw’n gwneud hyn drwy rwbio olew olewydd dros
y bobl sy’n ymolchi yna ei grafu i ffwrdd (ynghyd ag unrhyw faw) gyda chrafwr arbennig o’r enw strigil.
Adloniant cyhoeddus
Ychydig y tu allan i’r dref mae gennym amffitheatr, theatr gron awyr agored, lle bydd
fy rhieni’n mynd â fi weithiau i weld gladiatoriaid yn ymladd â’i gilydd ac yn ymladd
yn erbyn anifeiliaid ffyrnig hefyd.
Cyfnod fy nhad yn y fyddin
Enw fy nhad yw Augustinus ac mae e’n enedigol o wlad o’r enw Gâl. Ar ei ben-blwydd
yn 20 oed, ymunodd â’r fyddin. Roedden nhw’n falch o dderbyn fy nhad oherwydd ei fod e’n
dda iawn am saethu bwa a saeth ac am daflu cerrig gyda sling. Pan oedd e yn y fyddin, fe ddysgodd adeiladu ffyrdd
syth iawn a waliau cryf dros ben. Byddai’n cael ei dalu â darnau o arian aur ac weithiau byddai’n
cael rhan o’i gyflog mewn halen.
Fe wnaeth fy mam a nhad gyfarfod pan oedd e’n dal yn filwr, wedi’i leoli yn Isca, ond doedd ganddyn
nhw ddim hawl i briodi tan iddo fe adael y fyddin ar ôl 25 mlynedd. Rhoddodd yr Ymerawdwr Rhufeinig arian
a thir iddo pan adawodd e ac fe benderfynodd aros yma er mwyn i fy mam allu bod yn agos at ei theulu.
Arfau
Byddai fy nhad yn gwisgo arfwisg wedi’i gwneud o stripiau o haearn a lledr (lorica segmentata).
Ar ei ben roedd ganddo helmed fetel (galea) a byddai’n cario tarian enfawr i warchod ei gorff (scutum).
Byddai e hefyd yn cario cleddyf byr ar gyfer trywanu (gladius), dagr (pugio) a dwy waywffon hir gyda phigau
haearn miniog ar gyfer eu taflu (pilum).
Dywedodd fy nhad ei fod e hefyd wedi cael ei hyfforddi i ddefnyddio peiriant taflu (onager) oedd yn gallu tanio
cerrig neu beli o dar tanllyd. Cafodd rhai o’r milwyr eu hyfforddi i ddefnyddio bwa croes mawr fyddai’n
cael eu weindio (ballista).
Bwyd
Mae fy nhad yn gwerthu llawer o fwydydd gwahanol yn ei siop. Bydd e’n tyfu rhai o’r
pethau ar ein fferm. Mae Mam yn dweud nad oedd ei mam-gu hi erioed wedi gweld hanner y bwydydd hyn tan i’r
Rhufeiniaid ddod i Britannia. Pethau fel: pys, garlleg, winwns, moron, ciwcymbr, shibwns, cennin, bresych, helogan,
erfin, rhuddygl a phigoglys.
Rwy’n falch fod y Rhufeiniaid wedi dod â chnau Ffrengig a chnau castan oherwydd
dyna fy ffefrynnau. Mae fy chwaer yn dwlu ar afalau, grawnwin a cheirios mawr melys.
Un o’r sawsiau mwyaf poblogaidd yn siop fy nhad yw saws hallt wedi’i wneud o berfedd
pysgod wedi dechrau pydru o’r enw liquamen neu garum. Bydd Mam yn dweud wrth y cogydd am ei roi ar ben
popeth!
Trafnidiaeth
Mae fy mam-gu yn wraig bwysig iawn a phan fydd hi yn y dref bydd ei chaethweision yn ei symud
hi o gwmpas mewn cerbyd sy’n edrych fel gwely ag arno bedair dolen, un ymhob cornel. Barn fy nhad yw nad
oes dim byd yn well na dwy goes i fynd o le i le. Rydyn ni hefyd yn defnyddio trol sy’n cael ei thynnu
gan y mulod sydd ar y fferm. Bydd fy nhad yn defnyddio’r drol hon hefyd i anfon nwyddau i’r dref
i’w gwerthu yn y farchnad.
O’r fferm, rydyn ni’n gallu gweld y môr ac yn yr haf bydda i wrth fy modd
yn gwylio’r badau a’r llongau’n dod i’r porthladd, yn llawn o nwyddau o bob rhan o’r
Ymerodraeth Rufeinig, pethau fel poteli gwydr yn llawn o bersawr a photiau mawr a elwir yn amphorae yn llawn
o olew a gwin. Mae fy mam wedi dechrau casglu powlenni coch o’r enw llestri Samian, sy’n cael eu
gwneud yng Ngâl. Does dim llawer o bobl yn gallu fforddio’r llestri hyn, gan eu bod mor ddrud.
Crefydd
Mae fy mam a nhad yn addoli’r Duwiau, ond mae ganddyn nhw enwau gwahanol ar eu cyfer.
Enw fy nhad ar y duw rhyfel yw Mars, ond bydd Mam yn ei alw’n Ocelus. Weithiau bydd fy rhieni’n
mynd mewn cwch i Aquae Sulis gyda’u ffrindiau. Mae yna faddondy mawr yno i’r dduwies Minerva, ond
Sulis yw enw Mam arni hi.
Mae gennym allor fach i’r Lars familiaris yn ein ty, sy’n ein gwarchod ni. Rydym
yn gweddïo i’r ysbrydion hyn bob dydd. Ar ddyddiau arbennig byddwn ni’n hongian cadwyni o flodau
dros yr aelwyd a gwneud offrymau syml o berarogl a gwin. Ar ein hallor ni gartref mae dau gerflun bach pren.
Dyn barfog sydd i fod i gynrychioli fy nhad yw un ac mae’r llall yn edrych yn debyg i Juno, y fam-dduwies.
Yn ôl i'r llinell-amser>>
|