Bwyeill llaw Paleolithig a ddarganfuwyd yn Ogof Coegan, Sir Gaerfyrddin
(Llun Amgueddfa Cymru)

 

Astudiaethau Amgylcheddol

Amrywiai planhigion a chreaduriaid y cyfnod Paleolithigyn ôl newidiadau yn yr hinsawdd, o fforestydd eang yn ystod y cyfnodau mwy cynnes, i dirwedd agored lle nad oedd ia yn ystod y cyfnodau oer. Cafwyd hyd iesgyrn a dannedd hipopotamws ac eliffant sythgorn yn Ogof Cefn yn Sir Ddinbych, yn dyddio i’r cyfnod cynhesaf olaf cyn yr Oes Ia ddiweddaraf, a cheir cofnodion o famothiaid a rhinoserosiaid gwlanog mewn llawer o safleoedd yng Nghymru gan gynnwys yr ogofeydd yng Nghoegan, Sir Gaerfyrddin, a Phen-y-fai.

Oddi mewn i’r stalactidau a’r stalagmidau sy’n tyfu mewn ogofeydd calchfaen, ceir cofnod o newidiadau hinsawdd all ddyddio’n ôl i filoedd o flynyddoedd. Gan nad ydyn nhw ond yn tyfu ar adegau o dywydd cynhesach, pan fydd dwr yn llifo, gellir adnabod cyfnodau cynnes ac oer wrth fesur eu tyfiant. Yn ogystal, gellir mesur lefel dirywiad wraniwm yn y dyddodiadau er mwyn ddyddio’r newidiadau hinsawdd hyn. Doedd dim dyddodi stalagmidaidd yn yr un ogof ararfordir Gwyr adeg claddfa Pen-y-fai, sy’n arwydd fod hynny wedi digwydd yn ystod cyfnod oerach.

Cymharwyd llawer o’r rhywogaethau o drychfilod addarganfuwyd mewn samplau amgylcheddol Paleolithig gyda’r rheiny sy’n gyfarwydd i ni heddiw. Dengys llawer o’r trychfilod a gymerwyd o samplau sy’n dyddio i 29,000 o flynyddoedd yn ôl eu bod yn rhywogaethau oedd wedi addasu i ddygymod â thywydd oer. Y mwyaf cyffredin yw’r chwilen bwm Dibetaidd, sydd ond i’w gweld heddiw ar lwyfandir Tibet, ac sy’n awgrymu adeg o oerfel cynyddol.

English