Dangosodd y data a gasglwyd ac a ddehonglwyd gan Brifysgol
Birmingham ynghyd â’r data amgylcheddol sydd ar gael, fod modd i’r tirweddau
cynhanesyddol a foddwyd ym Mae Lerpwl a Môr Hafren gadw archifau dyddodol gwerthfawr
parthed newidiadau amgylcheddol a hinsoddol hirdymor, ac oddi mewn iddynt, olion archeolegol
sy’n cofnodi’r ymateb dynol i’r amgylchedd hwnnw oedd yn newid mor gyflym.
Mae hyn yn gwella’n fawr yr wybodaeth sydd ar gael ar gyfer rheoli’n effeithiol
yn y dyfodol ddatblygiadau morwrol sy’n bygwth y tirweddau hynafol hyn. Gall cloddio
am raean, chwilio am olew, pysgota llusg ac adeiladu ffermydd gwynt wneud niwed neu ddinistrio’r
dyddodion gwerthfawr hyn. Ond wrth weithio’n agos â’r diwydiannau hyn,
sydd yn aml yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth, gallwn sicrhau ein bod yn ennill y dealltwriaeth
archeolegol eithaf tra’n ceisio hybu gwerth gwarchod yr adnodd prin hwn.
Arweiniodd y gofidiau presennol am gynhesu bydeang a’r galw cynyddol
am ynni ‘gwyrdd’ at ymchwil yn y ddwy ardal prosiect parthed datblygiadau i
ffrwyno dulliau naturiol o ynni. Ym Mae Lerpwl ceir eisoes nifer o ffermydd gwynt ac yn
2010 rhoddwyd caniatâd cynllunio i fferm wynt Gwynt y Mor, sy’n werth £2bn,
fydd yn gosod 160 o dwrbiniau gwynt 16km oddi ar arfordir gogledd Cymru. Er mai dim ond
un ardal fferm wynt drwyddedig sydd ym Môr Hafren, awgrymwyd codi morglawdd ar draws
Aber Hafren sawl gwaith yn ddiweddar. Cadarnhaodd yr astudiaeth hon gan Ymddiriedolaeth
Archeolegol Dyfed, CBHC a Phrifysgol Birmingham fod tystiolaeth o blaid hen dirweddau hynafol
yn bodoli yn ardaloedd Bae Lerpwl a Môr Hafren. Mae’r potensial i wneud mwy
o ymchwil yn enfawr, ond defnyddiwyd yr wybodaeth gychwynnol hon eisoes i gynhyrchu mapiau
sy’n dangos nodweddion topograffig y dirwedd gynhanesyddol a’r potensial sydd
gan olion archeolegol i oroesi. I’r rheiny sy’n rheoli’r dreftadaeth forwrol
bydd y mapiau hyn yn adnodd amhrisiadwy wrth geisio asesu effaith datblygiad ar y tirweddau
hyn a foddwyd, a’r strategaethau lliniarol ddylai gael eu defnyddio i’w gwarchod
neu eu cofnodi. Gobeithio y bydd modd astudio a mapio’r holl ddyfroedd ar hyd ein
glannau yn yr un modd. Bydd yn rhaid cydbwyso rhwng rhagoriaethau datblygu, effeithiau cadarnhaol
gostwng ein hallyriadau carbon drwy ffrwyno ynni natur a hyrwyddo gwerth tirwedd hynafol
sy’n gorwedd o dan wely’r môr. Serch hynny, dim ond drwy ymgorffori arbenigedd
archeolegol yn y broses o wneud penderfyniadau y bydd cannoedd neu hyd yn oed filoedd o
gilomedrau sgwâr o dirweddau cynhanesyddol yn goroesi fel y gall yr oesoedd a ddêl
ei gwerthfawrogi fel rhan o’u treftadaeth.
|