Cloddio archaeolegol yn Aber Hafren gan Brifysgol Reading yn 2001
(Llun © Hawlfraint y Goron : CBHC)

 



(Llun Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed)


Darlun cloddio gwreiddiol o 1917 o fochyn Lydstep ar sleid wydr
(Llun Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed)

 

Mochyn Lydstep – pryd coll ynteu offrwm gan gyndeidiau?

Gwnaed rhai o’r darganfyddiadau mwyaf eithriadol a gaed hyd yma o’r Mesolithig diweddar yn Lydstep, Sir Benfro, sy’n rhoi cipolwg prin i ni o’r rhod cynhanesyddol yn troi.

Yn 1917 canfuwyd ysgerbwd mochyn, yn dyddio’n ôl rhyw 6,300 mlynedd, yn sownd o dan foncyff coeden, gyda blaenau dau bigyn fflint wedi torri yn ei wddf. Ymddengys iddo ddianc rhag ei helwyr, cyn marw o’i anafiadau yn ddiweddarach yn niogelwch y goedwig. Er i esgyrn anifeiliaid gael eu darganfod a’u hadfer o sawl dyddodiad yn ymwneud â’r fforestydd a foddwyd, prin iawn yw’r cyswllt uniongyrchol â hela.

Gwnaed darganfyddiadau cyffrous pellach yn Lydstep yn 2010 pan gysylltodd un o’r trigolion lleol ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed i adrodd fod olion traed ar y traeth nid nepell o’r lle y darganfuwyd ysgerbwd y mochyn. Cofnododd yr Ymddiriedolaeth olion carnau carw coch wedi goroesi ar wyneb dyddodiad mawn wedi caledu a arferai ffurfio gwely pwll bas yn y Mesolithig diweddar. Roedd yno hefyd olion traed dynol, gan gynnwys plant, eu traed yn ddwfn yn y mawn fel pe baen nhw wedi sefyll yn amyneddgar yn eu hunfan – efallai fel rhan o helfa yn barod i gudd-ymosod yn y brwyn ger y man yfed?

Ymddengys mai llwgu wnaeth yr helwyr y diwrnod hwnnw, er bod modd dehongli’r digwyddiadau mewn ffordd arall, sef nad dianc wnaeth y mochyn ond i’w gorff gael ei offrymu’n aberth ar lan y dwr, wedi’i ddal yn sownd gan foncyff coeden. Gwyddys bod y math hwnnw o ddefod yn gysylltiedig â dwr yn gyffredin mewn cyfnodau diweddarach ac mae’n bosib, ond yn anodd profi, fod y cymunedau Mesolithig yn ystyried y dwr yn gartref i’w cyndadau.

 

‘Dyma pam yr ydyn ni’n gwneud archeoleg. Fe alla i sefyll yn yr union fan lle safodd heliwr Mesolithig ac wrth fy ochr gall fy merch wyth mlwydd oed sefyll yn ôl traed plentyn tebyg a wasgodd ei draed i fwd meddal pwll bas 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Er bod chwe mileniwm yn ein gwahanu, bron na ellir teimlo’r profiad dynol sy’n cael ei rannu rhyngom. Rydw i ar draeth gwyntog yng ngorllewin Cymru yn dysgu fy merch am archeoleg. Chwe mil o flynyddoedd yn ôl, yn yr union le, hyfforddwyd plentyn i hela gan ei dad wrth iddyn nhw sefyll ymhlith y brwyn ac aros i anifeiliaid ddod i gael diod.’

Ken Murphy, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed

 

 


Uchod Chwith: Sganio â laser yr ardal o olion troed Mesolithig a ddarganfuwyd ar draeth Lydstep2010
Uchod dde: Cloddio’r olion troed 2010
(Lluniau Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed)

English