Burry Holms
(Llun © Hawlfraint y Goron : CBHC)

 

TIROEDD COLL EIN CYNDEIDIAU
AROLWG AR BALEODIRWEDDAU ARFORDIR Y GORLLEWIN

Yn 2010-11, astudiodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, mewn partneriaeth â Phrifysgol Birmingham, a Chomisiwn Brenhinol Henebion dirweddau tanfor Môr Hafren a Bae Lerpwl - Prosiect Paleodirweddau Arfordir y Gorllewin. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, gweler llyfryn poblogaidd a gynhyrchwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, Tiroedd Coll Ein Cyndadau, ac adroddiad technegol Prifysgol Birmingham ar y prosiect - West Coast Palaeolandscapes Survey. Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wedi cymryd y wybodaeth a gasglwyd gan Birmingham a’i chyflwyno mewn fformat syml er budd cynllunwyr a phawb arall sy’n ymwneud â rheoli’r amgylchedd morol, a hefyd ar gyfer y cyhoedd. Caiff pedwar map thematig yn dangos y ddwy ardal - Môr Hafren a Bae Lerpwl - eu cyflwyno yma. Mae’r un cyntaf yn dangos mewn modd wedi’i symleiddio nodweddion unigol y dirwedd a nodwyd yn ystod dadansoddiad Birmingham o’r data; mae’r ail yn dangos ardaloedd o gymeriad y dirwedd sy’n seiliedig ar y dadansoddiad hwn, mae’r trydydd yn dangos y potensial i ddyddodion sy’n cynnwys gwybodaeth archaeolegol ac amgylcheddol oroesi, ac mae’r pedwerydd yn dangos yr ardaloedd astudio wedi’u rhannu’n ardaloedd rheoli, ac aseinir arweiniad rheoli bras i bob un.

Cafodd y prosiect ei ariannu gan Gronfa Gynaliadwyedd Aggregates Levy a weinyddir gan English Heritage a Llywodraeth Cynulliad Cymru, a chan gyllid a ddarparwyd gan Cadw.

 

English