Cloddio archeolegol yn Ogof Pen-y-fai, Penrhyn Gwyr
(Llun Amgueddfa Cymru)

OGOF PEN-Y-FAI
Heddiw, lleolir Ogof Pen-y-fai, sydd efallai’n fwy adnabyddus fel Ogof Paviland, ar arfordir Penrhyn Gwyr. Naw mil ar hugain o flynyddoedd yn ôl, pan gafodd yn ogof ei defnyddio fel man claddu’r corff a gamenwyd yn ‘Ddynes Goch’, roedd tua 112km o baith glaswelltog rhyngddi a’r môr.

Ail-greu golygfa gladdu Pen-y-fai
(Darlun Amgueddfa Cymru)

 

Paleolithig – dynion modern

Symudodd dynion modern i Brydain gyntaf yn ystod y Paleolithig Uchaf cynnar, adeg pan oedd yr ia yn nesáu drwy’r amser ac, ar ei anterth, yn gorchuddio Cymru bron yn llwyr i drwch o ryw 300 metr. Dydyn ni ddim yn deall yn iawn sut y bu i ddyn modern gymryd lle’r Neanderthal, er y credir bod y rheiny’n llai abl i ddygymod â’r newid hinsawdd. Trwy gyfrwng astudiaethau sy’n mesur yr isotopau carbon a nitrogen a geir ym mhrotein esgyrn hynafol, casglwyd boddynion modern yn bwyta bwyd amrywiol gan gynnwys cig, pysgod a bwyd môr tra bod ymborth y Neanderthal yn fwy cyfyng. Byddai hyn wedi peri trafferth os oedd newid hinsawdd wedi golygu bod tipyn yn llai o’u bwyd arferol ar gael.

Daethpwyd o hyd i’r dyn modern cynharaf a ddarganfuwyd hyd yma yng Ngorllewin Ewrop yn Ogof Pen-y-fai ar arfordir Penrhyn Gwyr. Dyddiwyd claddu’r ‘Ddynes Goch’, sydd bellach wedi’i adnabod fel gwr ifanc, i 29,000 o flynyddoedd yn ôl.

Y darn hynaf y gwyddom amdano o gelf Gymreig yw asgwrn gên ceffyl wedi’i ysgythru â phatrwm igam-ogam, a ddyddiwyd yn ddiweddar i ryw 13,500 mlynedd yn ôl. Cafodd ei ddarganfod yn Ogof Kendrick ger Llandudno, ynghyd ag esgyrn pedwar o bobl. Credir bod y bobl wedi cilio o flaen y llen ia wrth iddo symud tua’r de ar draws Ewrop a gadael Prydain heb neb yn byw ynddo am ryw 10,000 o flynyddoedd. Serch hynny, efallai fod pobl wedi dal ati i ymweld â rhai ardaloedd, gan gynnwys de a de-orllewin Cymru, yn dymhorol, hydyn oed yn anterth yr oerfel.

English