Llun o’r awyr o’r Nab Head
(Llun © Hawlfraint y Goron: CBHC)

 

 

 

 

Grwp bach o blith dros 700 o gleiniau siâl a ddarganfuwyd yn safle Mesolithig y Nab Head, arwydd o natur arbenigol y diwydiant oedd yno.
(Llun Amgueddfa Cymru)

 

Y Nab Head, Sir Benfro

Dangosodd cloddio archeolegol fod pobl Fesolithig yn byw ar benrhyn y Nab Head ar arfordir de-orllewin Sir Benfro tua 10,500 o flynyddoedd yn ôl. Bryd hynny, byddai’r safle hwn rhyw 6km o’r arfordir, gan wneud y safle yn un gwledig, gyda golygfeydd da dros wastatir yr arfordir. Ni chafwyd hyd i dystiolaeth o annedd parhaol, ond cafwyd hyd i filoedd lawer o offer cerrig gan gynnwys microlithau, pennau drilio, offer crafu ar gyfer glanhau crwyn ynghyd â thomenni o wastraff fflint o ganlyniad i greu’r offer i gyd. O ddiddordeb arbennig y mae mwy na 700 o gleiniau siâl â thwll ynddyn nhw, ymhlith offer a sbwriel y gymuned a weithiai ar y Nab Head. Er bod gleiniau fel hyn i’w gweld mewn safleoedd sy’n dyddio’n fras o’r un adeg ym Mhrydain, gosodir y safle hwn ar wahân oherwydd y nifer fawr o gleiniau sydd yma. Mae’n debyg fod y gleiniau yn symbolau o statws neu hyd yn oed yn cael eu masnachu rhwng grwpiau Mesolithig. Roedd pobl yn dal i weithio cerrig a fflint ar y penrhyn hyd at y cyfnod Mesolithig diweddar.


Cloddfeyd archeolegol y Nab Head 1980
(Llun Andrew David)

 

English