Y Cyfnod Paleolithig yng Nghymru
Mae’r term ‘Paleolithig’, Hen Oes y Cerrig, yn cyfeirio
at gyfnod maith iawn o amser. Yng ngogledd Ewrop mae’n ymestyn o rhyw 800,000 i 12,000
o flynyddoedd yn ôl, gan gynnwys, yn syfrdanol, 98.5% o’r amser y gwyddom y
bu dynion modern a chyn-fodern yn byw yn yr hyn a elwir gennym ni heddiw yn Brydain. Serch
hynny, dyma’r cyfnod o archaeoleg Brydeinig y gwyddom ni leiaf amdano, oherwydd bod
y dystiolaeth mor brin. Mae safleoedd paleolithig yng Nghymru yn brin o’u cymharu
â dyffrynnoedd a gwastatiroedd de a dwyrain Lloegr, oedd yn dir mwy addas ar gyfer
byw bryd hynny, fe ymddengys.
Rhannwyd y cyfnod paleolithig ym Mhrydain yn dri chyfnod: y Cynharaf (tua
800,000 – 180,000 o flynyddoedd yn ôl), Canol (180,000-40,000 o flynyddoedd
yn ôl) a Diweddar (40,000-12,000 o flynyddoedd yn ôl). Gwyddom fod pedwar Oes
Ia wedi digwydd yn ystod y cyfnod hwn, a’r un diwethaf yn dod i ben tua 12,000 o flynyddoedd
yn ôl, gyda chyfnodau o hinsawdd fwynach yn digwydd rhwng yr Oesoedd Ia. Ar ddechrau’r
cyfnod paleolithig doedd dim Ynysoedd Prydain fel y gwyddom ni amdanyn nhw heddiw, ac ni
fyddai am filoedd o flynyddoedd, gan fod yr ardal hon yn rhan o un cyfandir mawr oedd yn
cynnwys Ewrop, Asia ac Affrica.
|