Darlun o gofnod o linell seismig 2D a gymerwyd yn gyfochrog â’r arfordir ar ymyl ddwyreiniol ardal astudio Bae Lerpwl, ynghyd â, wrth ei ochr, ddehongliad archeolegol o’r un cofnod. Dangosir gwely’r môr fel y mae ar hyn o bryd fel llinell goch. Gwelir cwysi dwy afon gynhanesyddol (mewn gwyrdd) yn amlwg ar y proffil.

 

 

Adnabod nodweddion tirwedd afoddwyd – 2D

I ddeall sut y bydd archeolegwyr yn defnyddio’r data o’r arolwg adlewyrchu seismig gallwn edrych ar rai enghreifftiau o setiau data 2 a 3D. Dengys y darlun isod ar y chwith esiampl o gofnod o linell seismig 2D a gymerwyd yn gyfochrog â’r arfordir ar hyd ymyl ddwyreiniol ardal astudio Bae Lerpwl, ynghyd â’r dehongliad archeolegol wrth ei ochr. Cynrychiolir gwely’r môr heddiw gan linell goch lorweddol heb fawr o donni, sy’n awgrymu natur wastad gwely’r môr yn yr ardal hon. O dan wely’r môr, dengys y ddelwedd seismig amlinell cwysi dwy afon gynhanesyddol a dorrwyd i mewn i’r dyddodion islaw. Mae’r rhain yn rhan o system afonydd gymhleth a ddylanwadai’n fawr ar yr ardal hon o Fae Lerpwl gan ddarparu cyfoeth o adnoddau i gymunedau cynhanesyddol, gan gynnwys dwr, cig, pysgod a brwyn ar gyfer gwneud basgedi a matiau. Dengys llinell seismig (isod ar y dde) a gymerwyd o ardal astudio Môr Hafren, yn agos at arfordir Dinbych y Pysgod, dirwedd fwy cymhleth sy’n cynnwys bryniau a llethrau bach. Roedd nodweddion felly yn bwysig mewn tirwedd wastad, gan gynnig golygfeydd i helwyr o briddoedd yn pori ar y gwastatiroedd.

 

Llinell seismig 2D arall, y tro hwn ger arfordir Cymru ym Môr Hafren, ynghyd â dehongliad archeolegol o’r un cofnod isod. Dangosir gwely’r môr heddiw gan linell goch. O dan hyn, dangosir arwyneb y tir cynhanesyddol, yn fryniau bach a llethrau, mewn gwyrdd.

 

English