Mae’n debyg mai olion hen goed a boncyffion
o gwmpas yr arfordir yw’r dystiolaeth fwyaf deniadol sydd gennym am fodolaeth tiroedd
a gollwyd amser maith yn ôl. Maen nhw’n cynnig cyswllt go iawn â thirwedd
ein cyndadau ac wedi cynnal sawl chwedl am ddinasoedd a gwledydd a ysgubwyd ymaith gan y
môr. Yn wir, cyn i bobl ddeall eu gwir natur, credid mai o ganlyniad i’r Dilyw
yr oedden nhw yno, a chaent eu hadnabod fel ‘Coed Noa’. Gellir eu gweld adeg
y trai mewn sawl lleoliad o gwmpas arfordir Cymru, o Rhyl ac Abergele yn y gogledd, Borth
a Niwgwl yn y gorllewin i Amroth a Goldcliff yn y de. Mae olion boncyffion helyg, cyll,
deri, pinwydd a bedw yn tystio i hen goedwigoedd a fforestydd a foddwyd gan y llanw, ac
yn dystiolaeth ddiymwad i effaith ddinistriol newid yn yr hinsawdd.
Mae bonion y coed wedi’u gwreiddio mewn lefelau mawn sy’n gorwedd islaw’r
tywod morwrol, a chawsant eu cadw rhag pydru oherwydd eu bod yn wlyb drwy’r amser. Nid yw’r safleoedd
o gwmpas arfordir Cymru yn cynrychioli un cyfnod o foddi. Awgryma dyddiadau radiocarbon y coed yn Ynyslas, Bae
Ceredigion, iddyn nhw farw tua 5,500 o flynyddoedd yn ôl, tra bod y coed tua chilomedr i’r de, yn
y Borth, wedi marw rhyw 2,000 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Datguddiwyd olion anifeiliaid o’r dyddodion
o gwmpas y coed, gan gynnwys bual, carw coch ac arth frown o’r Traeth Mawr a mochyn yn Lydstep, y ddau
yn Sir Benfro. Er iddyn nhw gael eu gweld a’u nodi ar hyd y canrifoedd, er enghraifft gan Gerallt Gymro
yn 1188 a Samuel Pepys yn 1665, ni wnaed astudiaeth ddifrifol o’r fforestydd a foddwyd tan 1913 pan gyhoeddwyd
llyfr ar y pwnc gan y daearegwr Clement Reid. Ei Submerged Forests oedd yr arolwg cyntaf i osod y coed
hyn mewn cyd-destun archeolegol ehangach ac i ddadlau’n ddiymwad eu bod yno o ganlyniad i gynnydd yn lefel
y môr. Oherwydd gwaith Reid ar adnabod ffiniau’r tiroedd a foddwyd, trodd ei olygon i ardal i’r
dwyrain o afon Humber, lle câi esgyrn anifeiliaid oedd wedi hen ddiflannu eu codi’n gyson gan gychod
pysgota. Daliodd un ardal arbennig o Fôr y Gogledd ei sylw – Cefnen Dogger.
Traeth y Rhyl, Sir Ddinbych (Llun Martin Bell)
|