 |
Prosiect Castell Nanhyfer - Nodau'r Cloddio a Hanes y Safle
NODAU
Nod y cloddfeydd yw asesu potensial archaeolegol Castell Nanhyfer. Roedd
y safle’n un o gestyll gwaith maen cynharaf Cymru yn y 12fed ganrif
, a chafodd ei adeiladu’n rhannol gan yr Arglwydd Rhys. Datblygodd
o gastell tomen a beili Normanaidd o’r 12fed ganrif gynnar. Os cafodd
castell gwaith maen yr Arglwydd Rhys o’r 12fed ganrif yn Nanhyfer
ei adael ym 1195, fel yr awgryma hanes, gallai’r safle gynnwys tystiolaeth
brin iawn o fywyd y 12fed ganrif yng Nghymru nad oes neb wedi amharu arni.
Mae cofnodion hanesyddol presennol hefyd yn awgrymu mai safle Castell
Nanhyfer bron yn sicr oedd safle llys 11eg ganrif yr arglwydd lleol Cymreig,
Cunhelyn. Efallai bod safle statws uchel sy’n gysylltiedig â’r
“arglwyddi” 5/6ed ganrif Maglocu, Clutorius a Vitalianus,
sy’n cael eu coffáu yn eglwys St Brynach yn Nanhyfer, hefyd
yn gorwedd o dan y castell. O dan y castell gwaith maen o’r 12fed
ganrif hwyr efallai bydd gweddillion archaeolegol o’r cyfnodau cynharach
hefyd yn goroesi.
HANES
Cipiodd Robert FitzMartin Nanhyfer oddi wrth yr arglwydd Cymreig Cuhelyn
yn ystod concwest Eingl-Normanaidd Sir Benfro tua 1108. Defnyddiodd FitzMartin
Nanhyfer fel y capwt ar gyfer ei farwniaeth yng Nghemais a sefydlodd fwrdeistref
o 18 o dai. Mae hi bron yn sicr iddo sefydlu’r domen ar safle’r
castell. Fwy na thebyg roedd y beili hefyd yn rhan o’r castell hwn,
a gallai fod wedi amddiffyn y fwrdeistref. Yn dilyn brwydr Crug Mawr ym
1136, wedi ail-gipio gogledd Sir Benfro gan y Cymry, fwy na thebyg cymrwyd
rheolaeth o Gastell Nanhyfer gan y Cymry. Erbyn 1156 roedd hyn yn golygu
bod yr Arglwydd Rhys yn rheoli’r castell. Ar ôl 1158 dychwelodd
Rhys y rhan fwyaf o’r tiroedd a gipiwyd at eu harglwyddi Normanaidd,
er iddo ail-gipio llawer ohonynt yn y 1160au. Yn 1171, ar ôl dod
i gytundeb gyda Harri ll, cafodd gadw ei diroedd teuluol yn y Deheubarth,
ond dychwelodd diroedd eraill i’w harglwyddi Normanaidd. Erbyn 1171
mae’n debygol y cafodd perchnogaeth y castell ei throsglwyddo i
William FitzMartin (mab Robert), a briododd Angharad, merch yr Arglwydd
Rhys, fwy na thebyg yn yr 1170au neu’r 1180au. Yn dilyn marwolaeth
Harri II, ym 1191 cipiodd yr Arglwydd Rhys Gastell Nanhyfer oddi wrth
ei fab yng nghyfraith. Wedyn bu cyfnod o gyfnewid rheolaeth y castell
yn ôl ac ymlaen rhwng yr Arglwydd Rhys a dau o’i feibion (Hywel
Sais a Maelgwn ap Rhys), cyn marwolaeth yr Arglwydd Rhys ym 1197. Ym 1204
ail-gipiodd lluoedd Eingl-Normanaidd ogledd Sir Benfro gan gynnwys Nanhyfer.
Fodd bynnag, cofnodir i Hywel Sais ddinistrio Castell Nanhyfer yn 1195
i’w atal rhag syrthio i ddwylo Eingl-normanaidd. Mae’n debygol
y cafodd castell a bwrdeistref newydd eu sefydlu yn Nhrefdraeth erbyn
1204 ac nid oes unrhyw gofnod y cafodd castell Nanhyfer fyth ei ailadeiladu.
Yr Arglwydd Rhys oedd yr arweinydd Cymreig pwysicaf yn
ne Cymru o 1156 i 1194. Drwy adeiladu ei gastell yn Aberteifi yn 1171,
ef oedd y tywysog Cymreig cyntaf i adeiladu gan ddefnyddio carreg a morter.
Mae’n debygol bod y traddodiad o adeiladu cestyll gwaith maen yng
Nghymru a welir mewn cestyll diweddarach, megis Dolwyddelan a Dolbadarn
a adeiladwyd gan dywysogion Gwynedd, wedi dechrau gydag Arglwydd Rhys
yn Neheubarth (gorllewin Cymru). Dim ond ychydig olion o waith y 12fed
ganrif, os o gwbl, sy’n aros ym mhrif gestyll yr Arglwydd Rhys yn
Ninefwr neu Aberteifi, gan iddynt ddioddef gan waith adeiladu helaeth
yn ddiweddarach.
|