 |
Llyfryn mwyngloddio metelau 

Gydag ariannu ar y cyd gan Fenter Ysbryd y Mwynwyr a
Chadw, mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wedi cwblhau llyfryn rhad
ac am ddim sy’n cyflwyno hanes y diwydiant mwyngloddio plwm yn ucheldir
Ceredigion. Nod y llyfryn yw rhoi gwybod i gymunedau lleol, tirfeddianwyr
ac ymwelwyr i’r ardal, am dreftadaeth cloddio metelau sy’n
parhau yn yr ardal, yn cynnwys cyngor ynglyn ag amddiffyn a chadw safleoedd
mwyngloddio, gwybodaeth am fannau i ymweld â nhw, sefydliadau treftadaeth
fwyngloddio a ffynonellau o gyngor a chymorth pellach.
Is-lwythwch
y llyfryn mewn ffurf PDF. (Saesneg yn unig. Yn agor mewn ffenestr
newydd. Mae'r ffeil yn 3.7Mb o faint).
Cyswllt: Duncan
Schlee
|