Gwella Cofrestri: Safleoedd Cynhanesyddol a Rhufeinig
Llai 
Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf mae ein gwybodaeth o brif
gategorïau safleoedd wedi elwa o brosiectau arolwg sy’n gysylltiedig
â bygythiad. Fodd bynnag, mae sawl categori y tu allan i’r
prosiectau hyn, ac er eu bod yn bwysig ar eu pennau eu hunain, at ei gilydd
mae nifer y safleoedd yn rhy fach i gyfiawnhau eu hasesu’n unigol.
Fe ymgymerwyd nifer o brosiectau yn ystod 2008-09 yn
cynnwys : Safleon Cyn-hanesyddol - Sir Gaerfyrddin; Safleon Di-filwrol
Rhufeining Dyfed; a Safleon Amddiffynol Canoloesol Llai. Fe ymwelwyd a
safleon dewisol ym mhob prosiect. Fe ychwanegwyd y data a gasclwyd yn
ystod yr ymweliadau i Cofrestr Amgylchyddol Hanesyddol Dyfed a pharatoiwyd
adroddiadau. Mae'r gwaith wedi dangos fod dim ond nifer bach iawn o safleon
Rhufeining a Chyn-hanesyddol sydd a phwysigrwydd cenedlaethol heb eu asesu
yn Ne-orllewin Cymru. Wedi dweud hyn, mae sawl safle wedi eu argymellu
am gofrestriad. Mae copiau o'r adroddion i'w cael i is-lwytho isod.
Yn ystod 2009-10 cafodd y safleoedd cynhanesyddol llai
yn Sir Benfro a Cheredigion eu hasesu. Ymwelwyd â thros 170 o safleoedd
yn Sir Benfro a chawsant eu cofnodi, gyda’r rhan fwyaf o’r
rhain ar Fynydd Preseli. Roedd llawer ohonynt yn safleoedd o ansawdd uchel
- cylchoedd cytiau, carnau, a systemau maes – a’r rhain yn
dal i fod mewn cyflwr da. Cafodd detholiad o safleoedd eu harolygu’n
fanwl. Mewn gwrthgyferbyniad â hyn, dim ond 30 o safleoedd a nodwyd
yng Ngheredigion a oedd yn haeddu cael ymweliad safle ac nid oedd y rhan
fwyaf o’r rhain o ansawdd uchel. Ceir adroddiadau llawn isod.

Tir caeedig crwn ar Dir Comin Carn Ingli a gofnodwyd yn arolwg 2009-10
Sir Benfro

Gweddillion posibl cwt crwn yng Ngharn Alw, Sir Benfro, 2009-10

Llwyfan ty posibl wedi’i gofnodi yn ystod arolwg Ceredigion 2009-10
yng Nghroes Fawr

Un o'r safleon gorau a gofrestrwyd yn ystod 2008-09 - gwaith pridd
amgaedig ger Llanwrda yn Sir Gar

Cofnodi cylch cytiau ar y Mynydd Du
Prosiect
Gwella Cofrestri 2009: Safleon Amddiffynol Canoloesol Llai (yn ffurf
PDF, yn agored mewn ffenestr newydd).
Prosiect
Gwella Cofrestri 2009: Gwaith Maes Safleon Cynhanesyddol - Sir Gar
(yn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd).
Prosiect
Gwella Cofrestri 2009: Safleon Di-Filwrol Rhufeinig Dyfed (yn ffurf
PDF, yn agored mewn ffenestr newydd).
Prosiect
Gwella Cofrestri 2010: Gwaith Maes Safleon Cynanesyddol Ceredigion
(2.2Mb mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd).
Prosiect
Gwella Cofrestri 2010: Gwaith Maes Safleon Cynhanesyddol Sir Benfro
(7.6Mb mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd).
Cyswllt: Frances Murphy
|