Dyfrffordd Aberdaugleddau – Arolwg Porthladdoedd
a Harbwrs 2006-08 
Cydnabyddir arwyddocâd treftadaeth forwrol Dyfrffordd
Aberdaugleddau gan y ffaith iddi gael ei chofrestru yn dirlun o bwysigrwydd
hanesyddol rhagorol yng Nghymru. Mae dyfroedd dyfnion a chysgodol y dyffryn
a foddwyd yn ymestyn 20 km i mewn i’r tir. Mae’r angorfa gysgodol,
ragorol hon wedi’i chydnabod ers amser maith ac fe’i defnyddiwyd
yn fan crynhoi ar gyfer yr ymosodiad Eingl-Normanaidd ar Iwerddon, ac
yn fan glanio are gyfer ymosodiadau Owain Glyndwr a Harri Tudur, ac yn
lle cysgodol i angora Llynges Prydain yn y 18fed ganrif.
Er bod dwy o brif drefi/porthladdoedd Cymru yn y canol
oesoedd a chyfnodau diweddarach wedi’u lleoli yn rhannau uwch y
ddyfrffordd, sef Hwlffordd a Phenfro, ni wireddwyd potensial llawn y ddyfrffordd
oherwydd ei lleoliad ynysig a diffyg sylfaen poblogaeth cryf tan ddiwydianeiddio
diwedd y 17eg ganrif a’r 18fed ganrif. Byddai pysgota, masnachu
arfordirol ac adeiladu cychod ar raddfa fechan wedi digwydd yn y cilfachau
bach niferus; ond o blith y pentrefi, y tebygrwydd yw mai Dale ac Angle
yn unig, ymhell i’’r gorllewin ill dau, oedd ag economi forwrol
gref. Erbyn 1700, glo pyllau Landshipping, Cresswell, Hook a Llangwm oedd
y prif beth a allforiwyd o ddyfrffordd Aberdaugleddau. Datblygodd nifer
o geiau bychain i wasanaethu’r diwydiant hwn. Mae nifer o odynnau
calch ar hyd yr arfordir yn dystiolaeth i bwysigrwydd cynyddol masnach
yr arfordir. Yn wir, prin yw’r gilfach heb ei hodyn galch. Erbyn
diwedd y 18fed ganrif arweiniodd yr angen am dref yn agos at yr angorfeydd
dyfnion i wasanaethu llongau mawr a darparu porthladd ar gyfer pecynnau
Gwyddelig at sefydlu Aberdaugleddau. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach
sefydlwyd dociau’r llynges a thref Doc Penfro. Yn sgil y rheilffyrdd
ynghanol y 19eg ganrif, lleihau wnaeth y fasnach arfordirol, ond byddai
llongau bach yn parhau i alw yn Hwlffordd, Penfro a cheiau eraill ymhell
i’r 20fed ganrif, a daeth Aberdaugleddau a Neyland fel ei gilydd
yn borthladdoedd pysgota pwysig.
Ar hyn o bryd, cyfyngedig yn unig yw’r ddealltwriaeth
o botensial llawn amgylchedd morwrol hanesyddol yr ardal. Mae’r
gwaith a wnaed eisoes yn cynnwys Arolwg Arfordirol a ariannwyd gan Cadw
ac 'Archwiliad Hanesyddol Aberdaugleddau’ a gefnogwyd gan Awdurdod
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a gyhoeddwyd mewn cyfres o adroddiadau
o 1999-2003. Nododd hyn yn bennaf y safleoedd archaeolegol ar sail ffynonellau
mapiau hanesyddol (argraffiadau 1af ac 2il mapiau Ordinans) gydag arolwg
brysiog ar droed. Fodd bynnag, ni roddodd sylw i lawnder ehangder y prif
borthladdoedd a’r ceiau, na mapio nifer y safleoedd a’r nodweddion
a nodwyd nac asesu maint unrhyw botensial archaeolegol cysylltiedig.
Ni chafwyd unrhyw asesiad o botensial archaeolegol y
ddyfrffordd ei hun. Yn ôl gwybodaeth y Cofnodion Henebion Cenedlaethol
collwyd nifer o gychod yn yr aber, ond nid oes sicrwydd ynghylch presenoldeb
neu absenoldeb olion llongddrylliadau yn yr ardal. Gwyddys bod gwybodaeth
bellach i’w chael ar siartiau’r Morlys a’i bod ar gael
gan wahanol blymwyr hamdden a grwpiau plymio sy’n plymio yn yr ardal.
Bwriad y prosiect hwn yw datblygu dealltwriaeth o archaeoleg
forwrol y ddyfrffordd a photensial archaeolegol cysylltiedig ei phorthladdoedd
a’i harbwrs. Cyflawnir hyn drwy asesiadau ar ben y ddesg o ffynonellau
mapiau a siartiau hanesyddol sydd ar gael a chreu system fapio GIS a gaiff
ei hymgorffori yn y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol rhanbarthol.
Paratowyd adroddiad ynglyn â’r prosiect a
gefnogir gan dablau sy’n seiliedig ar Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol
a data eraill.
Cliciwch yma
am yr adroddiad mewn ffurf pdf. (12Mb - Yn agored mewn ffenestr newydd).
Cyswllt: Louise
Austin
|