Priordy Pill, Aberdaugleddau, Sir Benfro
O ganlyniad i gofnodion, arolwg geoffisegol a gorchwyl gwaith ym Mhriordy
Pill, sef ty Tironaidd a sefydlwyd ger Aberdaugleddau yn niwedd y 12fed
ganrif, cynyddodd ein gwybodaeth yn sylweddol am safle nas deallir yn
dda. Er bod y priordy, a oedd yn gangen o Abaty Llandudoch, yn ymddangos
fel petai o faint cymedrol roedd iddo gynllun cwfeiniol llawn, yn seiliedig
ar eglwys groesffurf.
Dim ond y bwa cangell a rhannau o’r transept deheuol sydd ar ôl bellach;
fodd bynnag, datgelwyd transept gogleddol y wal ogleddol yn ystod datgloddio
pibellau carthion a datgelwyd llinellau waliau canol yr eglwys a’r canghellau,
adeilad ar wahân, ysbyty o bosibl, fel anomaleddau geoffisegol.
Addaswyd yr adeiladau cwfeiniol yn ddetholus fel anheddau teuluol trwy’r
unfed ganrif ar bymtheg i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae olion
ffabrig y canoloesoedd yn parhau o hyd.
Wrth ddatgloddio’r pibellau carthion datgelwyd 31 o feddi, roedd pob
un yn perthyn i’r priordy ac yn cynnwys gweddillion ysgerbydau dynol mewn
cyflwr da ac yn amrywio o ran graddau eu cyflawnrwydd, ond bu ymyrraeth
ddiweddarach a dim ond un ohonynt oedd ag unrhyw dystiolaeth o arch.
Cyswllt prosiect: Ken Murphy
Ludlow N 2003 ‘Pill Priory, 1996-1998: Recent Work
at a Tironian House in Pembrokeshire’, Medieval Archaeology 46
Cafodd y prosiect gymorth grant gan Cadw: Welsh Historic Monuments
|