Abaty Hendy-gwyn
Abaty Hendy-gwyn ar ôl iddo gael
ei atgyfnerthu
Abaty Hendy-gwyn oedd prif dþ'r Sistersiaid
yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd ym 1143 gan symud i'r safle presennol ym 1151.
Daeth yn fam i lawer o chwaer eglwysi yng Nghymru ac Iwerddon trwy gydol
y 12fed ganrif a'r 13eg ganrif. Fodd bynnag, y mae hefyd yn un o safleoedd
'coll' Cymru, gan mai'r cwbl sydd ar ôl o'r olion uwchlaw'r ddaear yw
ychydig o waliau sydd wedi'u hymgorffori i fod yn rhan o'r ardd ôl-ganoloesol.
Mae'r llynnoedd, y ffosydd, a nodweddion dðr eraill ynghyd â llwyfannau
adeiladu yn bwysicach gan mai'r rhain a ddefnyddid gan yr abaty ac yn
ddiweddarach gan y gweithfeydd haearn; y cyfan o'u hôl a welir yn y dirwedd
o gwmpas yw clawdd pridd.
Cloddiwyd safle'r abaty yn 1836 ac eto, yn
ehangach, o dan oruchwyliaeth Ernest Collier yn ystod y 1920egau pan ddarganfuwyd
y rhan fwyaf o gynllun yr eglwys. Cyfarwyddwyd cyfres o brosiectau yn
y 1900au gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, ac arweiniodd hyn at lunio cynllun llawr
o weddillion yr eglwys. Mae adroddiad ar ganlyniadau'r gwaith yn cael
ei baratoi i'w gyhoeddi ar hyn o bryd
Cyswllt prosiect: Ken Murphy
|