Capel Iago, 2011
|
Cynhaliwyd arolwg geoffisegol mewn dau gae yn gyfagos i fferm Capel Iago, ger Llanybydder, Sir Gaerfyrddin yn 2011. Mae enw’r lle yn awgrymu cyn gapel. Mae ywen hynafol yn sefyll yn y cae i’r gorllewin, ffynnon sanctaidd yr ochr draw i’r afon, ac enw’r cae i’r dwyrain yw ‘yr hen fynwent’. Mae cofnodion hynafiaethol yn cyfeirio at ddarganfod cistfeddau yn y cae hwn. Datguddiodd yr arolwg geoffisegol amrywiaeth o nodweddion archaeolegol, er ei bod yn aml yn anodd nodweddu unrhyw rai o’r rhain yn hyderus. Yn y cae i’r dwyrain, canfuwyd lloc petryalog posibl, er nad oedd modd penderfynu a oedd y lloc hwn o natur eglwysig neu amaethyddol. Gallai’r ywen ac olion mur adfeiliedig cyfagos awgrymu bod hen loc yn y cae i’r gorllewin. Erbyn hyn, mae lloc hwn wedi’i gladdu bron yn gyfan gwbl dan dir adeiledig, sy’n atal arolwg geoffisegol yn yr ardal honno.
Adroddiad Geoffiegol Capel Iago (mewn ffurf PDF - yn agored mewn ffenestr newydd)
|