Llyfryn Poblogaidd Tref Caerfyrddin 2006 
Argraffwyd y llyfryn hwn wedi i arolwg hanesyddol manwl
o dref Caerfyrddin gael ei wneud a ymgymerwyd gan yr Ymddiriedolaeth ar
ran Cyngor Sir Caerfyrddin a Cadw. Y nod oedd cynnig fframwaith ar gyfer
datblygiad cynaliadwy o fewn amgylchedd hanesyddol y dref, a hefyd er
mwyn cynorthwyo i ddiogelu dyfodol y dreftadaeth archaeolegol a hanesyddol
na welir ei debyg yn unman arall.
Mae’r llyfryn dwyieithog yn tynnu sylw at dreftadaeth
archaeolegol Caerfyrddin sydd mor gyfoethog. Mae’r teitl yn adlewyrchu’r
ffaith fod pobl wedi bod yn byw yng Nghaerfyrddin ers i’r Rhufeiniaid
ei meddiannu ar ddechrau’r 2il ganrif AD. Mae’r llyfryn yn
disgrifio twf y ddau anheddiad canoloesol yr Hen Gaerfyrddin a’r
Gaerfyrddin Newydd rhwng AD 1100 a 1500 a’r ehangu a welwyd wedi’r
Oesoedd Canol yn 1500.
Mae’r llyfryn hefyd yn dangos sut y gellir defnyddio
dogfennau a mapiau hanesyddol, tystiolaeth archaeolegol a’r cynllun
stryd modern er mwyn gwella’r hyn rydym yn ei wybod am Gaerfyrddin
yn y gorffennol. Mae hefyd yn ymddwyn fel rhyw fath o grynodeb hanesyddol
o’r arolwg mwy manwl ac mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddarganfyddiadau
archaeolegol diweddar yn y dref.
Mae’r llyfryn wedi derbyn cymorth grant gan Gyngor
Sir Caerfyrddin a Cadw. Mae’n cynnwys nifer o ddarluniau lliw, yn
cynnwys lluniau hanesyddol a ail-grewyd gan Neil Ludlow a ffotograffau
gwreiddiol gan Ray Edgar.

Clawr blaen llyfryn Caerfyrddin

Argraff yr arlunydd Neil Ludlow o Gaerfyrddin fel yr ymddangosai o bosib
yng nghanol yr 1400au
Cyswllt y Prosiect: Ken Murphy
|