Cloddio Faen Foel 2004 - 2005 

Ymgymerwyd â’r prosiect hwn ar y cyd â
Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheinig ac fe’i hariannwyd yn rhannol
gan y Parc a chan Cadw. Amcan y prosiect oedd cofnodi a diogelu gweddillion
tomen gladdu o’r Oes Efydd yn Faen Foel ar y Mynydd Du, Sir Gaerfyrddin
(SN 8215 2234). Cafodd cyflwr yr heneb hwn ei gofnodi ym mis Mehefin 2002
fel rhan o’r prosiect Asesu Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol
a ariennid gan Cadw. Gwelwyd bod y garnedd wedi’i herydu’n
ddifrifol yn sgîl gwynt a glaw a chan fod ymwelwyr yn symud cerrig
er mwyn creu ‘carnedd i gerddwyr’.
Ymgymerwyd â gwaith cloddio rhannol ym mis Mehefin
2004. Ar ôl gwaredu’r glaswellt a’r ‘carnedd i
gerddwyr’, gwelwyd bod cylch o gerrig o oddeutu 11m o ddiamedr yn
diffinio’r heneb. Roedd y gist hon oddeutu 1m o hyd a 0.5m o led
ac yn cynnwys casgliad o esgyrn wedi’u hamlosgi, wrn pridd wedi
torri (llestr bwyd efallai) a nifer o arfau fflint. Darganfuwyd gweddillion
amlosgiad yn y cerrig gerllaw yn ogystal ynghyd â darnau o Wrn Colerog.
Mae’r crochenwaith yn cael ei warchod gan Phil Parkes ym Mhrifysgol
Caerdydd ar hyn o bryd. Ymwelodd Astrid Caseldine o Brifysgol Llanbedr
Pont Steffan â’r safle a chafodd samplau paleo-amgylcheddol
eu casglu.
Mae gweddillion yr heneb sydd wedi goroesi bellach wedi’u
diogelu gan fatiau terram a cheir cherrig a glaswellt drostynt.

Y gist yn Faen Foel yn ystod y gwaith cloddio
Ebrill 2005- Mawrth 2006 – Cynnydd wedi’r cloddio

Rimyn y Llestr Bwyd o’r gist ganol yn Fan Foel
O ganlyniad i archwilio’r asgwrn llosg a ddarganfuwyd
yn y gist ganol gan Ros Coard (Prifysgol Llambed) mae tri unigolyn wedi
nodi bod oedolyn, plentyn ifanc, o bosib dim mwy na 12 mlwydd oed, a baban
yn y gist. Hefyd ynddo cafwyd hyd i esgyrn llosg dau fochyn a chi o bosib.
Yn yr ail gorfflosgiad cafwyd hyd i weddillion dau unigolyn: oedolyn a
pherson ifanc.
Mae adroddiad ar y crochenwaith gan Alex Gibson (Prifysgol
Bradford) yn dynodi fod y crochenwaith sydd wedi dod o’r gist ganolog
yn Gynhwysydd Bwyd a bod y cynhwysydd o’r ail gorfflosgiad yn Wrn
Colerog.
O ganlyniad i ddadansoddi’r paill gan Astrid Caseldine
(Prifysgol Llambed) gwelwyd fod yna dusw o flodau’r erwain gyda’r
gladdedigaeth ganolog, sef tusw o flodau hufen a gwyn deniadol. Mae’r
astudiaeth o’r paill hefyd yn awgrymu fod y dirwedd sydd o amgylch
y garnedd yn rhostir a thir pori agored yn bennaf lle y cafodd y garnedd
ei hadeiladu. Hefyd mae yna dystiolaeth fod y rhostir wedi’i losgi
ar bwrpas, sydd efallai’n awgrymu fod y gweithgaredd hwnnw’n
gysylltiedig â chladdedigaethau.

Daethpwyd o hyd i baill blodau’r erwain gyda’r haenau
a losgwyd
Cafwyd pedwar dyddiad radiocarbon (dau o bob un o’r
gweddillion a losgwyd) diolch i grant a dderbyniwyd gan Amgueddfa Cymru
– Amgueddfa Genedlaethol Cymru (gweler y tabl isod).
Bellach mae adroddiadau eraill hefyd wedi’u derbyn:
ar y fflint gan Lawrence Barfield (Prifysgol Birmingham), a hefyd ar forffoleg
micro’r pridd gan Richard Macphail (Prifysgol Llundain).
Yn dilyn cwblhau’r adroddiadau arbenigol a darluniau
o’r arteffactau (a ymgymerwyd gan Amgueddfa Cymru – Amgueddfa
Genedlaethol Cymru) bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gwblhau i’w
gyhoeddi.
Lab Number |
Context |
RC Date BP |
Cal Date 68% prob |
Cal Date 95% prob |
GrA 29950 |
Primary Cremation |
3650+-40BP |
2130BC (16.1%) 2090BC
2050BC (52.1%) 1950BC |
2140BC (95.4%) 1910BC |
GrA 29963 |
Primary Cremation |
|
2120BC (5.7%) 2090BC
2040BC (62.5%) 1940BC |
2140BC (95.4%) 1890BC |
GrA 29945 |
Secondary Cremation |
3540+-40BP |
1940BC (39.5%) 1870BC
1850BC (28.7%) 1770BC |
1980BC (95.4%) 1750BC |
GrA 29949 |
Secondary Cremation |
3510+-40BP |
1890BC (68.2%) 1770BC |
1950BC (95.4%) 1730BC |
Y dyddiadau radiocarbon o Fan Foel

Golygfa Fan Foel o Landeusant
|

Y Cloddiad
|

Y Cwrbyn
|

Wrn Crochenwaith
|
Adroddiad
Fan Foel 2004 yn llawn mewn ffurf PDF yn Saesneg - 1.2Mb (yn agored mewn
fenetr newydd)
Cyswllt y Prosiect: Gwilym Hughes
|