Ffotograffiau Cofnod Amgylchedd Hanesyddol 2006-2007
Ar hyn o bryd mae gan yr Ymddiriedolaeth gasgliad mawr
o ffotograffau mewn amrywiol fformatau yn ymwneud â chyn brosiectau
Cadw. Rhaid i’r holl ffotograffau hyn gael eu rhoi mewn catalog
a’u hintegreiddio i mewn i’r HER gyda chopïau digidol
yn cael eu cadw yn y Cofnod o Gofadeiliau Cenedlaethol. Mae hyn yn unol
â’r dyheadau a fynegwyd yn y Fframwaith Strategol ar gyfer
Cofnodion sy’n ymwneud ag Amgylchedd Hanesyddol Cymru. Bydd y gwaith
o roi rhan o’r casgliad o ffotograffau ar ffurf ddigidol hefyd yn
ei gwneud yn haws i’r cyhoedd eu gweld dros y We yn dilyn gosod
y llwyfan meddalwedd newydd TOAD HER yn ei le.
Yn ystod cam cyntaf y prosiect hwn mae’r Ymddiriedolaeth
wedi canolbwyntio ar tua 1000 o Ffotograffau Awyr a Thir HLC a dynnwyd
dros y pum mlynedd diwethaf. Sleidiau lliw a negatifau print lliw yw’r
rhan fwyaf o’r rhain.
Yn ystod 2007 sganiwyd tua 750 o negatifau lluniau awyr
maint canolig. Mae’r lluniau hyn yn dyddio at ei gilydd o ddiwedd
y 1970au a dechrau’r 1980au ac yn y rhan fwyaf o achosion y rhain
yw’r unig ddelweddau y gwyddys amdanynt o safleoedd ôl cnydau.
Cafodd y gwaith digiteiddio ei wneud yn fewnol a hynny
i’r safon a nodir gan RCAHMW ac ynghlwm wrthynt ceir y data meta
a’r wybodaeth gatalog briodol. Yn ogystal â’r meysydd
a gynigiwyd gan y RCAHMW mae’r meysydd ychwanegol yn cynnwys rhif
HER PRN, NGR, dyddiad y ffotograff, awdur y ffotograff a’r mudiad
o lle y gwnaeth darddu.
Cyswllt y Prosiect: Duncan
Schlee
|