Mwyngloddiau Metel 
Prosiect mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Archeolegol
Dyfed/Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru/Amgueddfa Genedlaethol Cymru yw
hwn gyda chyllid ychwanegol wedi’i ddarparu gan Plwm. Yn ystod 2009-10
crëwyd bron i 2000 o Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol yn deillio o
arolwg o safleoedd yng Ngheredigion gan Robert Protheroe Jones ym 1993
a chofnodion eraill a grëwyd ar gyfer rhai safleoedd yn Sir Gaerfyrddin
a Sir Benfro a arolygwyd yn 2010. Bydd y prosiect hwn yn parhau tan 2013
ac yn arwain at gyhoeddiad.
Cyswllt y Prosiect: Louise
Austin
|