 |
SAFLEOEDD MILWROL YR UGEINFED GANRIF 
Ar y cyd â Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, mae’r pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol
yn cynnal arolwg o safleoedd milwrol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. Mae blwyddyn gyntaf y prosiect hwn bron â
dod i ben, felly mae’r Newyddlen hon yn ymroddedig i’r prosiect hwn, gan adolygu’r gwaith a gwblhawyd
a rhoi cipolwg ar waith yn y dyfodol.
Mae safleoedd milwrol yn dystiolaeth o hanes terfysglyd y Deyrnas Unedig yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Mae gan Gymru nifer o olion milwrol o wrthdaro rhyngwladol yn ystod yr ugeinfed ganrif: Y Rhyfel Byd Cyntaf, Yr Ail
Ryfel Byd a’r Rhyfel Oer. Yn wahanol i leoedd eraill yn Ewrop, ni chyffyrddwyd y safleoedd hyn gan ddifrod goresgyniad
a rhyfel, ond dymchwelwyd llawer ohonynt drwy gynlluniau clirio ac mae rhagor ohonynt wedi diflannu o ganlyniad i
ddatblygu a gwella amaethyddol. Wrth i safleoedd milwrol yr ugeinfed ganrif symud o fyd y cof i archaeoleg a hanes,
mae’n hanfodol y cânt eu cofnodi ac y caiff yr enghreifftiau gorau eu hamddiffyn a’u cadw yn yr
un modd ag yr ydym yn trin bryngaerau o’r Oes Haearn a chestyll canoloesol. Bydd yr arolwg yn asesu’r
hyn sydd wedi goroesi ac yn gwneud argymhellion ar gyfer amddiffyn strwythurau allweddol sy’n weddill yn statudol.
Meysydd Awyr
Yn ystod 2011-12, archwiliwyd meysydd awyr, sef y safleoedd milwrol mwyaf a mwyaf soffistigedig
a sefydlwyd, yn ne-orllewin Cymru fel rhan o brosiect Cymru gyfan a gynhaliwyd gan y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol
yng Nghymru. Adeiladwyd erodromau cynnar ar gyfer awyrlongau ac awyrennau arnofio, sef rhan o Wasanaeth Awyr y Llynges
Frenhinol (RNAS), ym 1914-18 yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cynhaliwyd rhaglen ehangu meysydd awyr dan y Llu Awyr Brenhinol
(RAF) yn y 1920au a 30au, ond yn ystod yr Ail Ryfel Byd (1939-45) y cynyddodd nifer a chymhlethdod meysydd awyr, gan
adeiladu tua 34 ohonynt yng Nghymru, yr oedd tua 18 ohonynt yn ne-orllewin Cymru. Lleihaodd nifer y meysydd awyr yn
sylweddol ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gyda’r rhai a oroesodd yn arbenigo mewn hyfforddi neu, fel Breudeth
ger Tyddewi, yn cael eu cyfarparu i letya Awyrennau Bomio V yn ystod y Rhyfel Oer (1946-89).
Yn ystod 2012-13, caiff cyfleusterau gwasgaredig meysydd awyr eu harchwilio, gan gynnwys safleoedd
gwrthawyrennau, deniadau bomio, storfeydd tanwydd a gorsafoedd cyfathrebu.
|
Roedd yr Awyrendy Pothellog hwn ym Maes Awyr Breudeth hefyd yn hyfforddwr
gynyddiaeth, ag offer a rigiau y tu mewn iddo i efelychu amodau brwydro. |
|
Twr rheoli neu swyddfa wylio ym Maes Awyr Caeriw. Adferwyd y dyluniad anarferol
hwn gan grwp brwdfrydig lleol ac mae bellach ar agor i’r cyhoedd. |
|
Doc Penfro oedd y ganolfan awyrennau môr mwyaf yn y byd. Roedd awyrennau
môr Sunderland a oedd yn gweithredu o’r fan hon yn hedfan patrolau rhagchwilio am longau tanfor
ac yn achub criwiau o longau a drawyd gan dorpidos yn ystod rhyfel yr Iwerydd. Mae’r llun hwn o’r
awyr o 1943 yn dangos dau awyrendy unigryw ar gyfer awyrennau môr a guddliwiwyd i edrych yn debyg i dai
teras, ynghyd â nifer o awyrennau môr Sunderland yn yr iard longau. Ffotograff trwy garedigrwydd
John Evans. |
|
Graffiti wedi'i gerfio ar goeden yn Llandyfái gan swyddogion y Llu
Awyr Brenhinol a oedd wedi'u lleoli gerllaw yn Noc Penfro yn ystod yr Ail Ryfel Byd |
|
Adeilad Cyfeirleoli Amledd Uchel (a gafodd y llysenw Huff-Duff) ym maes awyr
Angle. Ei ddiben oedd arwain awyrennau i lanio ym maes awyr Angle trwy ddarparu signalau radio i awyrennau
weld ble'r oeddent |
Safleoedd Milwrol yr Ugeinfed Ganrif - Meysydd
Awyr (mewn ffurf PDF - yn agored mewn ffenestr newydd)
Safleoedd Damweiniau Awyrennau
Ar y cyd â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, bu'r pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru yn archwilio
safleoedd damweiniau awyrennau milwrol, gan ganolbwyntio ar y safleoedd hynny sy'n debygol o fod ag olion o hyd.
Yn Nyfed, nodwyd tua 80 o safleoedd i ddechrau ond, yn dilyn ymchwil bellach, cwtogwyd y rhestr hon i hanner dwsin
o safleoedd yn unig. Ymwelwyd â'r safleoedd hyn i asesu beth sydd ar y ddaear o hyd.
|
Safle damwain awyren filwrol Fairey Battle yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar Fynydd
y Preseli. Wrth lwc, ni chafodd y criw ei anafu |
Adroddiad Damweiniau Awyrennau Milwrol 2012-13 (PDF - Saesneg yn unig
- yn agored mewn ffenestr newydd)
|