Castell Arberth, Sir Benfro 2003-2004
Yn ystod Gorffennaf-Awst 2003, ymgymerwyd â gwerthusiad archaeolegol am bedair wythnos ar ran Cyngor Sir Penfro, ar fynedfa Castell Arberth, o fewn ward allanol y castell ganoloesol. Darganfuwyd o leiaf 3 o gladdedigaethau dynol ymestynnol, yn gorwedd ar echelin dwyrain-gorllewin, dau ohonynt wedi’u gosod ar ben ei gilydd, gyda’r potensial i o leiaf un arall ar ffurf nod pridd ac un tebyg o ran mesur a siâp. Beddau syml oeddynt, wedi’u cloddio yn y pridd. Ar gyfartaledd dim ond 0.20 metr oeddynt o dan yr wyneb. Mae’r ardal hon yn gorwedd union i’r gorllewin o dir oedd yn destun gwerthusiad a wnaed yn ystod 2001-2, pan ddarganfuwyd o leiaf 20 o feddau tebyg. Mae’n debyg bod y claddedigaethau yn rhan o fynwent llawer yn fwy. Mae beddau sy’n rhyngdorri yn awgrymu bod y fynwent wedi cael ei defnyddio am gyfnod sylweddol o amser. Mae crochenwaith a dyddiad radio-carbon yn arddangos dyddiad o ddiwedd y 12fed ganrif – 13eg ganrif ar gyfer y claddedigaethau. Mae crochenwaith o feddau sydd wedi’u cloddio yn 2003 yn awgrymu eu bod yn debyg iawn i ddyddiad o’r 13eg ganrif. Mae yna awgrym efallai bod y fynwent yn dynodi lleoliad blaenorol yr eglwys, cyn iddi gael ei rhoi ar ei safle bresennol 180m i’r gorllewin - efallai yng nghanol y 13eg ganrif pan adeiladwyd ward mewnol y castell mewn carreg a phan y creuwyd y ward allanol o bosib. Yn ogystal, mae Cyngor Sir Penfro wedi ymgymryd â gwaith cofnodi
ar strwythur y castell cyn i raglen atgyfnerthu gael ei dechrau. Hyd yn
hyn mae wedi canolbwyntio ar Dwr y De-orllewin, lle ddarganfuwyd nifer
o nodweddion newydd gan gynnwys dwy ffenestr, tystiolaeth o ‘garderobe’
(neu dy bach), wedi’u corbelu, allan rhwng y twr a’r mur deheuol,
a’r mur cerdded, wrth glirio’r tyfiant oddi yno. Mae cymeriad
y nodweddion adeiledig eraill yn ymddangos eu bod yn cadarnhau bod y gwrthglawdd
mawr siâp triongl i’r de o’r castell yn amddiffynfa
“hanner lleuad” o flynyddoedd y Rhyfel Cartref, a bod y Neuadd
Fawr yn adeilad sy’n gyfoesol ag amddiffynfeydd y castell. Cyswllt y project: Ken Murphy Ludlow N, 2003 ‘The Castle and Lordship of Narberth’,
Pembs. Historian Vol. 12, 5-43.
|