Mynwentydd o’r Oesoedd Canol Cynnar - Porth Clew
2008-09 
Yn ystod yr haf fe wnaeth gwirfoddolwyr dan oruchwyliaeth
staff yr Ymddiriedolaeth ymchwilio i gapel a mynwent ganoloesol ym Mhorth
Clew. Efallai bod olion adfail y capel yn dyddio’n ôl i’r
13eg ganrif, ond nid yw ei gysegriad yn hysbys, ac nid oes ffynonellau
dogfennol defnyddiol yn ymwneud â’r capel. Mae arolwg geoffisegol
yn dangos y capel yn sefyll mewn lloc wedi’i gylchynu gan ffos,
er nad oes tystiolaeth ohono ar y wyneb, ac mae llociau eraill gerllaw.
Mae ffynnon ‘sanctaidd’ yng nghornel y cae lle mae’r
capel.
Ymchwiliwyd i nifer o feddau mewn pedair ffos i’r
gorllewin o’r capel. Roedd rhai ohonynt yn ‘gistfeddau hir’
– sef beddau wedi’u leinio â llechfeini – sydd
bron yn sicr yn dyddio i’r cyfnod canoloesol cynnar, ond nid oedd
modd pennu maint y fynwent, gan fod pob un o’r pedair ffos yn cynnwys
beddau. Roedd y lloc o amgylch y capel yn gymhleth ac o fwy nag un cyfnod.
Canfuwyd crochenwaith yn dyddio o’r 12fed i’r 15fed ganrif
yn llenwadau uchaf ffosydd y lloc, ond nid oedd crochenwaith yn is i lawr,
hynny o bosibl yn dynodi mai cynhanesyddol yw cyfnodau cynharach y lloc.
Yn ystod haf 2009, ymgymerwyd ag ail dymor o gloddio.
Ymddangosodd fod tir caeedig â ffosydd dwbl o amgylch y capel yn
torri ar draws beddau cistfaen. Mae’n bosibl bod hyn awgrymu bod
y fynwent heb ei hamgylchynu’n wreiddiol. Cloddiwyd rhannau o ddau
adeilad; tua dwyrain y capel, roedd rhan o adeilad waliau cerrig wedi’i
therasu yn y tir, claddfeydd blaendoredig a thir caeedig y ffos ddwbl;
mewn mannau eraill awgrymodd adeilad pren fod mwy nag un cyfnod o gyfanheddu
ar y safle. Mae’n bosibl bod trefn ffosydd tua gogledd-orllewin
y capel yn amlygu terfyn i ardal yr anheddiad. Gwelwyd bod dyddiau radiogarbonaidd
o bedair claddedigaeth yn dyddio o’r 6ed-7fed canrif, gyda phumed
dyddiad ychydig yn ddiweddarach.
Caiff adroddiad llawn ar y cloddio ei lunio yn ystod
2010-11.
Cadw ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro
a ariannodd y prosiect.
Adroddiad Cloddiad
Porth Clew 2008 mewn ffurf PDF (yn agored mewn ffenestr newydd).
Adroddiad Dyddiadu
Radiocarbon Porth Clew mewn ffurf PDF (yn agored mewn ffenestr newydd).
Adroddiad Porthclew
2009 mewn ffurf PDF (yn agored mewn ffenestr newydd).
Dyddiadur
Cloddio Porth Clew 2008
Dyddiadur Cloddio Capel Porthclew
2009
Cyswllt y prosiect: Duncan
Schlee

Y Cloddiad yn 2009

Arolwg geoffisegol Porth Clew yn dangos lleoliad ffosydd y cloddiad.

Hayley Nicholls a Gareth Nicholls yn cloddio cistfedd ym Mhorth Clew.

Dangos ymwelwyr rhownd y safle ym Mrhorth Clew.
|