Arfarnu Dyddiad Sylfaenol ar gyfer Monitro Canlyniadau
2006-07 
Un o ofynion y rhaglen amaeth-amgylchedd Tir-Gofal yw
sefydlu peirianwaith i fesur effeithiolrwydd cyffredinol y cynllun. Cafwyd
anawsterau sylweddol wrth fesur effaith y cynllun (canlyniadau) ar yr
amgylchedd hanesyddol.
Arfarnodd yr astudiaeth gwmpasu hon yr asesiadau sy’n
gysylltiedig â bygythiad a gynhaliwyd gan bedair Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Cymru dros y 15 mlynedd diwethaf. Asesodd yn benodol y prosiectau
sydd â phosibiliadau o ran darparu ffyrdd o fesur newidiadau yng
nghyflwr cofebion maes dros gyfnod o amser estynedig. Pennodd yr astudiaeth
y math o ddata a gasglwyd ar gyfer pob asesiad - disgrifiadau ysgrifenedig,
ansawdd y safle, gorchudd llystyfiant a lluniau, a defnyddioldeb pob asesiad
er mwyn monitro newid yn yr amgylchedd hanesyddol.
Adroddiad mewn ffurf
Adobe Acrobat, Saesneg yn unig - yn agored mewn ffenestr newydd
Cyswllt y Prosiect: Ken Murphy
|