English

 

Beili Dyffryn

Tai i’r byw a’r meirw yn Nyffryn Ceidrych

Yn agos i’r Garn Goch, ar gwr y Mynydd Du, ymchwilwyd i weddillion ty hir o’r oesoedd canol a siambr gladdu Neolithig gyfagos o’r enw Cae’r Ganfa neu Gil y Ganfa. Roedd y ty hir yn adeilad cerrig sych, neu wedi’u cau â chlai, ac ynddo dair ystafell wedi ei godi ar lwyfan wedi’i lefelu. Mae crochenwaith o’r ffosydd gwerthuso yn awgrymu dyddiad o ddiwedd yr oesoedd canol. Mae’r rhan fwyaf o’r cerrig gwreiddiol wedi eu symud o’r safle i’w hailddefnyddio yn rhywle arall, mae’n ymddangos.

Pan gliriwyd y llystyfiant oddi ar y beddrod siambr roedd yn amlwg mai siambr betryal ydoedd, wedi ei ffurfio o gerrig culion hirion, ac wedi ei lleoli ar ochr ddwyreiniol tomen o gerrig rwbel dan dywarch. Cofnodwyd llinellau cyfochrog o gerrig i’r gogledd ogledd orllewin a’r gorllewin de orllewin o’r siambr.

Is-lwythwch yr adroddiad llawn mewn ffurf PDF - yn agored mewn ffenestr newydd, Saesneg yn unig.