O domus antiqua! Plasty Dan yr Allt o’r 16eg ganrif
Ymchwiliwyd i safle plasty o oes Elisabeth a oedd wedi cael ei ddymchwel ac a leolid yng
nghalon Dyffryn Tywi. Mae’r parcdir o amgylch y plasty yn dal yn hawdd iawn ei weld, er nad oes dim
o’r plasty ei hun ar ôl uwchben lefel y ddaear.
Roedd arolwg geoffisegol o’r ardal heb ddod i ddim casgliadau oherwydd sbwriel y gwaith
dymchwel ac adeiladu llwybr fferm. Beth bynnag, darganfu’r cloddiad ffos a allai fod yn hyn na’r
plasty. Roedd hi’n anodd cael tystiolaeth am yr hen dy, gyda dim ond ymyl wyneb palmentog ac ychydig
o rwbel y dymchwel yn dod i’r amlwg mewn un ffos.
Cofnodwyd tair wal ar eu sefyll yn ffurfio tair ystafell gyda tho arnynt ar derfyn gorllewinol
y safle. Ymddangosai eu bod yn perthyn i’r ffermdy o’r 19eg ganrif a godwyd ar ôl chwalu’r
plasty.
Is-lwythwch yr adroddiad llawn mewn ffurf PDF - yn agored
mewn ffenestr newydd, Saesneg yn unig.
|