Mae gan y meirw straeon i’w dweud wrthym o hyd. Cafodd cerrig beddau mewn un rhan o fynwent eglwys Llandeilo
eu cofnodi gan Sefydliad y Merched yn ystod y 1980au.
Beth bynnag roedd rhan ogleddol y fynwent yn dal heb ei chyffwrdd. Ac felly y bu i fyddin
o wirfoddolwyr lleol brwd fentro drwy’r mieri a’r danadl poethion i graffu’n ofalus ar bob
carreg fedd unigol a chofnodi’r manylion oedd arnynt.
Mae chwedlau rhyfeddol wedi cael eu dweud ac mae claddfeydd wedi eu harchwilio i ddatgelu
hanesion teuluoedd lleol. Mae ôl y tywydd yn gwaethygu ar rai o’r cerrig beddau ac felly bydd
ein harolwg yn gofnod gwerthfawr o’r beddargraffiadau hyn cyn iddynt gael eu colli’n llwyr.
SUT I WNEUD AROLWG O FYNWENT
Mae mynwentydd yn cynnig llwybr hygyrch dros ben i’r gorffennol; anaml y bydd ein hynafiaid
yn llefaru mor uniongyrchol â phan wnânt drwy eu cofebau i’r meirw. Os byddwch am astudio’ch
mynwent leol, holwch am ganiatâd perchennog y tir yn gyntaf a gweld a oes unrhyw gofnodion wedi’u
gwneud yn barod.
• Lluniwch gynllun bras o’r fynwent a phlotio’n fras safleoedd y cerrig
beddau.
• Rhowch rif unigryw ar bob cofeb, gan groesgyfeirio at eich cynllun.
• Os gallwch, cymerwch lun neu gwnewch fraslun o bob cofeb i gydfynd â’ch
taflenni cofnodi ar ôl eu llenwi.
Pan fyddwch wedi cwblhau’ch arolwg, sicrhewch eich bod yn gadael copi o’ch cofnodion
gyda’r eglwys neu’r capel, eich swyddfa gofnodion leol neu gyda’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol
lleol.
Is-lwythwch taflen cofnodi bedd
mewn ffurf PDF.
Is-lwythwch taflen fynegai i'r
beddau mewn ffurf PDF.
|