English

 

Cofnodi Cloddiau

 

Mae patrymau’r caeau a’r cloddiau yn rhoi cymeriad pendant i Ddyffryn Tywi, ond pam maent yn amrywio gymaint ar draws y dirwedd? Ac a allwn ddysgu pa mor hen ydynt wrth edrych ar yr adeiladwaith a’r rhywogaethau sy’n tyfu ynddynt? Dyma dim ond dau o’r cwestiynau a oedd yn cael eu holi gan yr arolwg cofnodi cloddiau.

Ymysg y nodweddion i gadw llygad amdanynt oedd coed a llwyni ffrwythau neu rai addurnol, a allai nodi gardd neu dir caeedig i fwthyn. Efallai y bydd y gwaith adeiladu ar gloddiau a ffosydd yn cynnig cliwiau am eu dyddiad a’u diben. Gellir dod o hyd i gliwiau eraill o ran dyddio cloddiau mewn enwau lleoedd ar fapiau’r degwm, nifer y rhywogaethau sydd ynddynt a’u perthynas â nodweddion eraill ar y dirwedd.

Mae pobl a gymerai ran yn Chwilota’r Tywi! wedi cynnal arolwg o’r cloddiau o amgylch Felindre ar bwys Llangadog. Yno mae’r caeau stribedi agored nodweddiadol o’r Oesoedd Canol wedi cael eu cadw ble mae’r stribedi yn cael eu cyfuno a’u hamgáu gan ffin i gadw’r da byw mewn.

 

SUT I GAEL HELFA CLODDIAU

Gall cloddiau a ffiniau caeau ddweud llawer iawn wrthym am y dirwedd a sut mae wedi esblygu dros amser. Os ydych am astudio cloddiau sicrhewch yn gyntaf fod gyda chi ganiatâd perchennog y tir a is-lwythwch ein taflenni cofnodi a’n nodiadau sydd ar waelod y dudalen yma.

Cliwiau i’w gweld

• Goed ffrwythau fel afalau, eirin neu eirin hir neu gall rhywogaethau addurnol fel coed prifet, bocs neu dresi aur arwyddo gardd neu amgaead ar gyfer bwthyn.

• Gall rhywogaethau neilltuol sy’n cael eu hailadrodd yn y clawdd fod yn arwydd o batrwm plannu.
• A yw ffyrdd/rheilffyrdd yn ymddangos eu bod yn ‘torri ar draws’ ffiniau caeau? Gall dyddiadau ffyrdd tyrpeg a rheilffyrdd gynnig cronoleg.

• Gall enwau caeau ar fap y degwm ddangos y defnydd ar dir a chynnig cliwiau eraill am ddyddiad patrwm y cae.

• A yw ffiniau caeau eraill yn parchu neu’n dod i ben ar ffin? Gall hyn fod yn arwydd o ffin o gryn arwyddocâd a hynafiaeth.

• A oes coed safonol yno? Coed yw’r rhain a adewir i dyfu’n naturiol am 80 – 100 mlynedd tan y gellir eu cynaeafu a’u defnyddio ar gyfer pren. Roedd pren yn werthfawr dros ben. Cyn y 19eg ganrif efallai y byddent wedi eu tocio – eu torri ar uchder o tua 2-3 metr. Gall coed wedi’u tocio roi cnwd porthiant pwysig – ‘gwair deiliog’.

• Beth yw adeiladwaith y ffin gorfforol (h.y. clawdd neu ffos) a sut mae’n cymharu â’r rhai cyfagos?

Peidiwch ag anghofio rhoi copi o’ch cofnodion yn y CAH lleol, gan y byddant yn ychwanegu at y corff o wybodaeth
ar gyfer eich ardal leol.

 

Is-lwythwch dogfennau mewn ffurf PDF - i gyd yn agored mewn ffenestri newydd, Saesneg yn unig.


Hanes Cloddiau

Hyffordio Cofnodi Cloddiau

Taflen Cofnodi Cloddiau