Pa mor aml y byddwch yn edrych ar yr adeiladau o’ch amgylch? Hynny yw, edrych o ddifrif? Cânt
eu hanwybyddu mor aml, yn ddim ond cefnlen i’n bywydau prysur, yn gyfarwydd, yn gyson ond prin yn cael
ail edrychiad.
Ond cymerwch eiliad i gael golwg fanylach ac efallai y cewch eich synnu. Uwchben wyneb amhersonol
y siop gall fod adeilad o gymeriad. Bydd manylion pensaernïol diddorol yn dod yn amlwg i’r llygad
chwilfrydig. Gellir gweld newid o ran defnydd, arddull a hynt a helynt.
Gall adeiladau gynnig cyfoeth o wybodaeth am eu bod yn ddrych i’r gymdeithas a’u
cododd ac a’u defnyddiodd. Maent yn dweud wrthym am y bobl oedd yn byw, gweithio ac addoli ynddynt –
am eu blaenoriaethau a’u dyheadau.
Casglwyd cofnodion gwerthfawr gan ein ditectifs tai wrth iddynt fynd drwy’r strydoedd
yn nodi’r manylion am adeiladau hen a newydd, fel math o gyfrifiad adeiladau.
SUT I FOD YN DDITECTIF TAI
Dim ond llyfr nodiadau a phensil sydd eisau i ddechrau, er bod camera’n ddefnyddiol
os oes gyda chi un. Dechreuwch drwy edrych ar y lle rydych chi’n byw ynddo – beth allwch chi ei
ganfod am sut codwyd ef yn y lle cyntaf ac a ydyw wedi newid gydag amser? Cofiwch ofyn am ganiatâd perchennog
y tir neu’r ty os byddwch yn mynd ar eiddo preifat.
• Deunyddiau adeiladu – a allwch weld o beth mae wedi cael ei adeiladu? A yw’r deunyddiau
yn lleol neu a ydynt wedi eu cludo o bell?
• A oes ganddo nodweddion tebyg i adeiladau eraill gerllaw?
• Gall edrych ar ffynonellau hanesyddol helpu i sefydlu ei oedran – a yw’n ymddangos
ar argraffiad cyntaf map yr Arolwg Ordnans?
• A allwch ei adnabod ar ffurflenni’r cyfrifiad neu mewn cyfeirlyfr masnachwyr?
• Drwy wneud arolwg allanol cyflym ar nifer o adeiladau mewn ardal fechan byddwch yn dechrau cael
teimlad ynghylch yr arddulliau a’r dulliau adeiladu
gwahanol.
Peidiwch ag anghofio rhoi copi o’ch cofnodion yn y
CAH lleol, gan y byddant yn ychwanegu at y corff o
wybodaeth am eich ardal leol.
Is-lwythwch ein taflenni cofnodi a nodiadau canllawiad. (Mewn ffurf PDF - i gyd yn agored
mewn ffenestri newydd, Saesneg yn unig).
Canllawiad Cofnodi Adeiladau
Nodiadau Taflen Cofnodi Adeiladau
Taflen Cofnodi Adeiladau
|