English

 

Cofnodi Adeilad yn Lan

Yn dilyn ôl-troed enwog

Fis Gorffennaf diwethaf, bu’r ditectifs tai’n dilyn yn ôl-troed un o haneswyr mwyaf adeiladau Cymru. Ymwelodd Iorwerth Peate, bardd, ysgolhaig a sylfaenydd Amgueddfa Werin Cymru (Sain Ffagan, Caerdydd) â Lan yn ystod y 1930au wrth iddo ymchwilio ar gyfer ei lyfr “The Welsh House”.

Hon oedd yr astudiaeth gynhwysfawr gyntaf i dai Cymreig cynhenid (sef y rheiny’n perthyn i’r werin a adeiladwyd yn y dull lleol traddodiadol gan ddefnyddio deunyddiau lleol), ac mae’n parhau i fod yn destun allweddol i’w dealltwriaeth heddiw.

Ffenestr i’r gorffennol

Roedd Peate yn ystyried Lan yn un o’r enghreifftiau gorau o dy hir Cymreig; sef math cynnar o ffermdy lle bu pobl ac anifeiliaid yn byw o dan yr un to. Mae tystiolaeth archaeolegol yn awgrymu y gallai’r traddodiad hwn ddyddio’n ôl i’r ffermwyr cyntaf a goroesodd mewn rhannau uwch o Gymru tan y 19eg ganrif. Mae Lan yn un ymhlith lond llaw o adeiladau o’r math hwn sy’n parhau i fodoli heddiw.

Nid oes neb wedi byw yn Lan er 1966. Ers hynny, mae wedi’i ddiogelu fel ffenestr hynod ddiddorol i’r gorffennol; enghraifft brin sydd wedi goroesi o dy ag arddull cynnar, ac sy’n cynnig cipolwg ar fywydau ei gyn drigolion.

Treuliodd y ditectifs tai ddau ddiwrnod prysur yn Lan yn edrych ar y ty o’r top i’r gwaelod, yn cofnodi ei fanylion yn ysgrifenedig, drwy ei luniadu a thynnu lluniau ohono, heb golli dim.


Ty mwd a gwellt

Mae’n anodd credu heddiw i adeiladau gwellt a waliau mwd fod yn gyffredin ar un adeg yng nghwm Tywi!

Mae’r ffotograff cynnar hwn yn dangos Lan ar ei ffurf wreiddiol, yn ôl pob tebyg. Bu’r to gwellt a’r simnai gwiail yn nodweddion cyffredin mewn cyfnod pan gâi ffermdai a bythynnod y bobl dlawd eu gwneud o ddeunyddiau a oedd ar gael yn lleol.

Gwnaed y waliau o “clom” wedi’u cloddio o glai’r tir cyfagos. Walio â daear yw clom, lle y câi clai ei gymysgu â thywod neu raean a’i droedio gyda dwr a gwellt i ffurfio cymysgedd trwchus.

Yn llai gweladwy ond heb fod yn llai arwyddocaol oedd nenffyrch y to, gyda’u sylfeini wedi’u llifio yn parhau i fod yn weladwy o dan haenau mewnol y gwyngalch. Parau crwm o goed sy’n cynnal to adeilad yn hytrach na’r to’n cael ei gynnal ar y waliau yw nenffyrch. Mae presenoldeb y math hwn o nenfforch yn awgrymu gwreiddiau cynnar, rhywbryd rhwng y 17eg ganrif at ddechrau’r 19eg ganrif.

Etifeddiaeth ar gyfer y dyfodol

Cwblhaodd y dictectifs tai’r stori a ddechreuwyd gan Peate yn ôl yn y 1930au gan sicrhau y caiff cof am yr adeilad pwysig hwn a’i gyn drigolion ei warchod am flynyddoedd i ddod.

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a’r ditectifs tai yn ddiolchgar i’r perchennog am roi mynediad i’r adeilad prin a diddorol hwn.

Is-lwythwch yr adroddiad llawn mewn ffurf PDF - yn agored mewn ffenestr newydd, Saesneg yn unig.