English

 

Llys Brychan

Cartref o Rufain: Fila Rufeinig Llys Brychan

Brychan oedd arweinydd teyrnas ganoloesol gynnar Brycheiniog, sy’n cyfateb yn fras i ardal Sir Frycheiniog, gyda thiroedd yn ymestyn i lawr at Ddyffryn Tywi.

Bu i gloddiadau yn y 1960au cynnar ddatgelu Fila Rufeinig, plasty helaeth a mawreddog, wedi ei leoli uwchben gorlifdir Afon Tywi ryw ddwy filltir i’r dde o Langadog. Roedd arolwg geoffisegol yn 2009 nid yn unig yn cadarnhau olion y fila ond hefyd yn datgelu cyfres o ffosydd yn ffurfio tir caeedig o’i hamgylch.

Cloddiwyd tair ffos i werthuso maint, ansawdd a chymeriad y nodweddion hyn. Roedd prif ffos y tir caeedig o siâp V ac o oes y Rhufeiniaid, a chafwyd tri darn o grochenwaith Rhufeinig yn ei llenwad. Efallai bod y cerrig niferus a gafwyd yn llenwad uchaf y ffos yn cynrychioli clawdd wedi cwympo. Datgelwyd tystiolaeth am iard bosibl yn ogystal ag arwyddion o weithgaredd diwydiannol yn y tir caeedig.

Is-lwythwch yr adroddiad llawn mewn ffurf PDF - yn agored mewn ffenestr newydd, Saesneg yn unig.