Mae gwerthusiadau fel gweithrediadau archwilio yn
gyfle i brofi’r dyfroedd ac ennill gymaint o wybodaeth am y safle â phosibl gyda’r lleiaf
posibl o amharu arno.
Bum yn edrych ar le roedd bobl yn byw yn ystod gwahaniaeth amseri
yn y gorffennol:
Dan yr Allt - plasty o'r 16eg ganrif
Fe ymchwiliwyd safle plasty Elisabethaidd oedd wedi dymchwel yng nghanol dyffryn Tywi. Mae dal modd gweld
y parcdir o amgylch y plasty, er bod dim o'r plasty ei hun wedi goroesi uwchben lefel y ddaear.
Fila Rhufeinig Llys Brychan
Brychan oedd brenin Brycheiniog, gyda thir yn ymestyn i lawr at y Tywi. Fe wnaeth gwaith cloddio yn y 1960au
cynnar ddatgelu fila wedi'i leoli uwchben y man ble byddai’r afon Tywi yn gorlifo, tua dwy filltir i'r
de o Langadog. Fe fyddai hwn wedi bod yn adeilad Rhufeinig mawr ag ysblennydd yng Ngorllewin Cymru. Mae arolwg
geoffisegol yn 2009, nid yn unig yn dangos cynllun y fila ond, hefyd, yn datgelu cyfres o ffosydd wnaeth ffurfio
amgaead o'i amgylch. Cloddiwyd tair ffos er mwyn gweld os oedd posib dod o hyd i fwy o wybodaeth am y nodweddion
yma.
Dyffryn Ceidrych
Ymchwiliwyd i ddau safle - ty hir canoloesol ger Carn Goch, ar ochr y Mynydd Du, a siambr beddrod cyfagos
o Oes Neolithig (yr Oes Cerrig Newydd)
Roedd y ty hir wedi cael ei adeiladu o waliau cerrig, gyda thair ystafell wedi’u hadeiladu ar lefel
is ar waelod y bryn. Roedd y crochenwaith a gafwyd yn y ffosydd yn rhai hwyr-ganoloesol. Mae'r rhan fwyaf
o'r cerrig a ddefnyddiwyd ar gyfer yr adeiladau fel petai nhw wedi cael eu dwyn oddi ar y safle a’u
defnyddio i adeiladu waliau’r caeau!
Pan gliriwyd y siambr feddrod o laswellt hir a danadl, roeddech yn gallu gweld siambr hirsgwar, wedi'i wneud
o gerrig mawr cul, a adeiladwyd ar dwmpath bach o gerrig a thywarch - darnau o wair a phridd. Cofnodwyd llinellau
paralel cyfagos o gerrig, hefyd.
|