Roedd yr adeilad hwn o’r 19eg ganrif o’r golwg yng nghornel hen berllan, ar fferm ar bwys y Dryslwyn,
wedi gweld dyddiau gwell. Er cael ei newid a’i drin bron y tu hwnt i gael ei adnabod, roedd yn dal ar
ei draed ac achubwyd ar y cyfle drwy brosiect Tywi Afon yr Oesoedd i’w adfer i’w hen ogoniant.
Roedd llawer o’r nodweddion gwreiddiol wedi goroesi, yn cynnwys muriau clom neu bridd
a chorneli crynion sy’n nodweddu’r rhanbarth. Awgryma ei leoliad yn y berllan a’i faint
mai storfa afalau ydoedd. Arweiniodd arolwg archaeolegol at luniadau manwl, cofnod ysgrifenedig a lluniau
o’r adeilad. Roedd y rhain yn cynnig gwell dealltwriaeth o sut codwyd ef ac roeddent felly o gymorth
gyda’r gwaith adfer.
Yn y gwaith hwnnw rhoddwyd to gwellt yn lle’r to haearn rhychiog, datgelwyd y llawr
coblog ac ailosodwyd y muriau cerrig a chlom. Mae’r paent coch trawiado l yn eich atgoffa am ffermdy
Kennixton, o Benrhyn Gwyr yn wreiddiol ond bellach yn Sain Ffagan, y credid ei fod yn amddiffyn yn erbyn ysbrydion
drwg.
Is-lwythwch yr adroddiad llawn mewn ffurf PDF
- yn agored mewn ffenestr newydd, Saesneg yn unig.
|