English

 

Di-ddaearu'r Gorffennol

Cloddiad yn aml yw’r profiad cyntaf mae rhywun yn ei gael o fyd anhygoel archaeoleg – safleoedd poeth a llychlyd, crafu cyson y tryweli syncronedig a’r awyr ddisgwylgar o ddarganfyddiad ar fin cael ei wneud...

Y Gwanwyn oedd hi pan ddechreuon ni ar yr ymchwiliad pythefnos yn Wernfawr, ty fferm anghyfannedd ger Penybanc, tu fas i Landeilo. Ddaeth y safle cyntaf i'n sylw pan ddechreuon ni gloddiadau cyn i’r bibell nwy enfawr cael ei hadeiladu yn 2007, a daethon ni o hyd i un neu ddau o ffyrnau ar gyfer sychu yd. Erbyn hyn, mae'r rhain, a oedd arfer bod yn bethau cyffredin iawn ar bwys ffermydd un tro, yn bethau sydd ddim yn cael eu gweld na darganfod yn aml iawn. Fe wnaeth cloddiad bach yn 2009 ddarganfod tystiolaeth o dân trychinebus a arweiniodd at losgi’r ffermdy, a’i gadael heb neb yn byw ynddi. Beth allwn ni ei ddarganfod am fywyd ar y ar y fferm wledig?