English

 

Rhyfel yn y Dyffryn

Wrth gwrs, nid oes rhaid i’r gorffennol fod ymhell yn ôl iddo fod yn ddiddorol dros ben. Mae digwyddiadau’r gorffennol agos iawn lawn mor afaelgar ac mae eu huniongyrchedd yn ychwanegu at eu dwyster. Mae clywed hanesion gan y bobl oedd yn eu byw yn fraint arbennig, gan eu bod yn rhoi synnwyr gwirioneddol o’r gorffennol.

Yn Llandeilo mae Miss Elizabeth Aileen Stephens yn byw a bu mor garedig â chytuno i rannu ei hatgofion â ni am fywyd yn y dref a soniodd wrthym am ddewrder ei thad yn y ffosydd yn y rhyfel byd cyntaf.

Yn ei ddyddiadur rhyfeddol, cawn wybod fod y Sarsiant W.O.Stephens wedi cael ei anafu ym 1915 ym Mrwydr Loos yng Ngogledd Ffrainc. Mae Miss Stephens yn dweud yr hanes - “Cafodd ei anafu wrth achub swyddog yn Loos yng nghanol yr holl fwd a’r gwaed, er ei fod wedi ei anafu ei hun, ac o ganlyniad dyfarnwyd iddo’r Fedal Ymddygiad Rhagorol.” Daeth yn ôl ar long i Brydain i’w nyrsio ym Mirmingham cyn dychwelyd i Landeilo. Mae’r dyfyniad ar gyfer y Fedal yn darllen “Am ddewrder amlwg. Er cael ei anafu yn ystod yr ymosodiad, daliodd ati i arwain ei ddynion tan y bu’n rhaid iddo roi’r gorau iddi oherwydd blinder, wedi cael ei anafu eto yn ffos ail linell y gelyn”.

Wrth gwrs, nid yw hanes bob amser ynghylch campau dewr ac arwriaeth. Weithiau manylion mwy rhyfedd y gorffennol sy’n dal y sylw. Dywedodd Miss Stephens y chwedl annisgwyl braidd hon wrthym am brofiad Gwartheg Gwynion Parc Dinefwr yn yr Ail Ryfel Byd; “Mae fy mrawd yn cofio i’r gwartheg gael eu paentio… am y bydden nhw wedi cael eu gweld yn wyn, yn sefyll ma’s yn y tywyllwch, ac felly dyna eu cuddliwio. Yna roedden nhw’n ymosod ar ei gilydd … doedden nhw ddim yn adnabod ei gilydd!”

Ymysg yr atgofion eraill am Landeilo yn yr Ail Ryfel Byd yr oedd defnyddio Ty Newton fel ysbyty, ble oedd mam Miss Stephens yn nyrs gyda’r Groes Goch yn gofalu am filwyr wedi’u hanafu. Roedd cytiau Nissen duon wedi eu codi gan yr Americaniaid, ac er na chawsant eu defnyddio erioed fel ysbytai, buont yn llety dros dro i deuluoedd a gollodd eu cartrefi yn ystod y cyrchoedd bomio ar Abertawe.