Cartref > Amdanom Ni >

AROLWG O WEITHGAREDDAU’R YMDDIRIEDOLAETH YN YSTOD Y FLWYDDYN 2002-2003

Amcan hysbys yr Ymddiriedolaeth yw hybu addysg y cyhoedd mewn archaeoleg. Gwneir hynny drwy gynnal cloddiadau archaeolegol, gorchwylion gwylio ac arolygon; asesiadau a gwerthusiadau o dirweddau hanesyddol; ac arolygu a chofnodi adeiladau hanesyddol ac adeiladweithiau eraill. Lledaenir ffrwyth y gwaith hwnnw mewn amryw o ffyrdd – drwy gyfrwng adroddiadau, cyhoeddiadau, newyddlenni, taflenni, gwefan yr Ymddiriedolaeth a phaneli sy’n dehongli hanes ac archaeoleg leol, a thrwy ddarlithiau a chyflwyniadau yn y cyfryngau. Mae’r Ymddiriedolaeth wrthi’n ehangu ei gwaith gyda chymunedau i hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r hyn sydd o bwys yn lleol. Er bod yr Ymddiriedolaeth yn dal i weithredu’n bennaf yn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro, mae hi bellach yn ymgymryd hefyd â gweithgareddau maes mewn rhannau eraill o Gymru.

Fel un o’r pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol a sefydlwyd yng Nghymru yn ystod y 1970au, yr Ymddiriedolaeth sy’n cynnal y Cofnod rhanbarthol o Safleoedd a Henebion ar gyfer hen sir Dyfed, ac mae’n dal i gynghori’r tri awdurdod unedol, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ynghylch diogelu a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol. Darperir gwasanaethau hefyd i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac amrywiaeth o gyrff statudol ac anstatudol eraill. Ymgymerwyd â chyfanswm o fwy na 119 o wahanol brosiectau yn ystod y flwyddyn, ac mae llawer ohonynt yn dal i fynd yn eu blaen.

 

Ymchwil ac Ymchwiliadau Archaeolegol

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, fe ymgymerwyd ag amrywiaeth mawr o brosiectau yn ystod y flwyddyn. Yn eu plith yr oedd asesiadau o fygythiadau fel rhan o fentrau ledled Cymru a ariannwyd gan CADW: Henebion Cymru.

Fel rhan o’r Asesiad o Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol a ariannwyd gan Cadw, cwblhawyd y gwaith maes ar gyfer Sir Gaerfyrddin, a dechreuwyd gweithio ar ymweliadau â safleoedd yn ne Sir Benfro. Yn nwyrain Sir Gaerfyrddin, ymwelwyd â thros 600 o safleoedd ac fe ychwanegwyd 100 o safleoedd newydd at y Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol. Daliwyd i weithio hefyd ar yr arolwg, a ariannir gan Cadw, o Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd a chwblhawyd yr arolwg o gyflwr safleoedd yng Ngheredigion a gogledd Sir Benfro.

Ymgymerwyd â chyfnod cyntaf y gwaith maes ar gyfer yr Asesiad o Safleoedd Eglwysig Canoloesol Cynnar, a ariannir gan Cadw, a gwnaed ymchwil bellach ar 154 o safleoedd yn Sir Benfro gan ddod o hyd i dystiolaeth i darddiadau eglwysig o’r Oesoedd Canol cynnar. Gwnaed ymweliadau maes ag 88 o’r safleoedd hynny. Argymhellwyd cofrestru a/neu ymchwilio ymhellach i amryw o safleoedd.

Parhau wnaeth y prosiect Disgrifio Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol, a ariannir gan Cadw, a dechreuwyd gweithio ar Gyfrol 1 yr ardaloedd ‘Nodedig’ ar y gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol. Eleni, canolbwyntiodd y gwaith ar ardaloedd tirwedd Trefdraeth/Carn Ingli, Pen Caer a Maenorbyr.

Cwblhawyd y gwaith ar brosiect y Mwyngloddiau Metel Anfferws, a ariannir gan Cadw, drwy ymweld â naw safle arall. Bwydir yr asesiad hwn i’r gwaith sydd ar y gweill gan Asiantaeth yr Amgylchedd i reoli llygredd.

Yn ogystal, gwnaeth yr Ymddiriedolaeth Archwiliad o Adnoddau Archaeolegol ar gyfer de-orllewin Cymru gyda chymorth cyllid gan Cadw ac fe gynhaliodd, ar y cyd â Choleg y Drindod, seminar asesu ymchwil ranbarthol a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin. Amcan yr archwiliad a’r seminar oedd ychwanegu at ddatblygu fframwaith ymchwil archaeolegol i Gymru.

Bu’r cyllid a darparwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ar gyfer tynnu Awyrluniau yn fodd i dalu am sawl taith hedfan i gofnodi Henebion Cofrestredig yn Sir Benfro a gogledd Sir Gaerfyrddin.

Ymgymerodd yr Ymddiriedolaeth ag amrywiaeth o brosiectau i gleientiaid eraill – yn ddatblygwyr cyhoeddus a phreifat, awdurdodau unedol, asiantaethau’r llywodraeth, cyrff gwirfoddol, ac ymgynghorwyr. Gwnaed y mwyafrif ohonynt yn siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion. Yr oedd y prosiectau’n cynnwys asesiadau a gwerthusiadau archaeolegol wrth-ddesg cyn i benderfyniadau cynllunio gael eu gwneud, a gwaith cloddio, gwaith cofnodi adeiladau, ynghyd â goruchwylion gwylio a oedd yn aml yn amod caniatâd cynllunio.

Yn dilyn asesiad a gwerthusiad archaeolegol, gwnaed gwaith cloddio helaeth cyn i gyfleuster storio newydd ar gyfer Nwy Naturiol Hylifedig gael ei godi ar gyfer Petroplus yn Waterston, Aberdaugleddau. Ymchwiliwyd i sawl safle gan gynnwys ty crwn ac adeiladau cynhanesyddol a oedd o bosibl yn gysylltiedig â fferm ‘enghreifftiol’ ganoloesol ac ôl-ganoloesol Newton. Yn eu plith yr oedd adeiladwaith crwn y credid iddo fod yn golomendy, ac adeilad petryal a ddyddiai o bosibl o’r Oesoedd Canol. Hefyd yn ne Sir Benfro, gwnaed arolwg topograffig a geoffisegol yng Nghrug Brownslade, Castellmartin ar gyfer Ystadau Amddiffyn y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae daear mawr y moch daear yno’n bygwth y crug hwn o’r Oes Efydd, ynghyd â grwp o gloddiadau canoloesol cysylltiedig. Ym Mhen-llwyn ger Aberystwyth, gwnaed arolwg geoffisegol a chloddiwyd ffos ragbrofol ar gyfer Chapman Warren yn sgil datblygu cynlluniau ar gyfer parc diwydiannol.

Yr oedd sawl darn o waith maes yn gysylltiedig â chynlluniau ffyrdd. Yn eu plith yr oedd camau cychwynnol yr asesu cyn deuoli’r ffordd A40 Sanclêr-Abergwaun, a wnaed ar ran TACP. Cyrhaeddwyd y cyfnod adrodd ar y gwaith archaeolegol sy’n gysylltiedig â’r A477 Ffordd Osgoi Redberth-Sageston, a ariannwyd drwy Ove Arup Cyf, ac ymgymerwyd â gwaith cofnodi ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin ar y bont ffordd ym Mhont ar Twrch, Pumsaint, cyn iddi gael ei dymchwel.

Gwnaed gwaith pellach ar ran TACP yng Nghastell Caerfyrddin a chyflawnwyd goruchwylion gwylio yn ystod y gwaith a oedd yn gysylltiedig â’r Porthdy ac o fewn y Gorthwr Gwag lle cofnodwyd darnau o waith maen canoloesol adeg cloddio’r sylfeini i osod deciau pren newydd. Yng Nghaerfyrddin hefyd, gwnaed dau ddarn o gofnodi archaeolegol cyn-datblygu, y naill ar safle hen Fodurdy Lowndes yn Heol y Prior a’r llall cyn i ddatblygiad arfaethedig yn y ty bonedd o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif yn Starling Park gael ei weithredu. Ar ran Pembroke Design Cyfyngedig, fe gofnodwyd adeiladau yng Nghymhlyg Fferm y Gelli Aur cyn i Goleg Sir Gâr ddatblygu’r safle.

Gwnaed sawl arolwg ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi cyflawnwyd estyniad i’r arolwg a gawsai ei wneud gan yr Ymddiriedolaeth ym 1999, ac yn Stackpole, Sir Benfro, gwnaed arolwg llai o faint a gynhwysai ddigido mapiau cynnar, adnabod safleoedd archaeolegol a chreu cronfa ddata sy’n seiliedig ar GIS. Gwnaed arolwg mawr ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i’w fwydo i’r broses o ddatblygu cynllun cadwraeth ar gyfer Parc Dinefwr, Llandeilo. Yr oedd hynny’n cynnwys gwneud arolwg topograffig helaeth o ryw 34 hectar yng nghyffiniau’r Parc Ceirw. Ond efallai mai’r arolwg mwyaf trawiadol o’r cyfan oedd yr un geoffisegol a wnaed gyda chymorth Stratascan yn rhan orllewinol y Parc. Amheuwyd ers tro fod caer Rufeinig yno, ond tipyn o syndod oedd eglurder canlyniadau’r arolwg gan iddo gynnig tystiolaeth glir bod yno ddwy gaer Rufeinig y naill ar ben y llall, ffyrdd atynt, vicus, a baddondy, o bosibl. Mae cryn botensial i’r safle hwn esgor yn y dyfodol ar brosiect ymchwil amlwg iawn a fydd yn gysylltiedig â rhaglen o archaeoleg gyhoeddus.

Daliwyd i wneud gwaith ymchwil a chofnodi i Ymddiriedolaeth yr Hafod a Menter y Goedwig ar y dirwedd hanesyddol yn yr Hafod, Cymystwyth, gan gynnwys arolwg topograffig o Rodfa’r Arcêd Gothig a darn o dir ar ochr ddeheuol Afon Ystwyth. Gwnaed arolwg hefyd i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Dwr Cymru o’r crug crwn yn Fan Foel, Mynydd Du, lle mae’r adeiladweithiau cerrig sydd yn y golwg yn agored iawn i’w difrodi gan ymwelwyr erbyn hyn.

Yr oedd prosiectau y tu allan i’r rhanbarth yn cynnwys cloddiad achub yn Hendre Road, Pen-coed, Pen-y-bont ar Ogwr, ar ran Redrow Homes. Cafwyd hyd i dystiolaeth o dai allan a chrochenwaith a oedd yn ymwneud â fferm hanesyddol Cae’r-llysi. Yn Abertawe, gwnaeth yr Ymddiriedolaeth arolwg archaeolegol o gyflwr hen safle Yorkshire Imperial Metals yng Nglan-dwr ar ran Dinas a Sir Abertawe. Mae’r safle’n cynnwys gweddillion gweithfeydd copr yr Hafod a’r Morfa ac yn eu plith 10 o adeiladau ac adeiladweithiau rhestredig. Mewn mannau eraill yn ne Cymru, gwnaed asesiad ar ran Nuttalls Cyf. o effaith datblygiad ar yr olion diwydiannol ar safle hen Olchfa Lo Maesteg. Ym mhen arall Cymru, bu’r Ymddiriedolaeth yn ymwneud ag asesu darn o dir ar ochr ddeheuol Pen y Gogarth yn ymyl Gwesty Gogarth Abbey, Llandudno. Gwnaed y gwaith ar ran Beech Homes cyn i ddarn o dir wrth y traeth gael ei ddatblygu.



Addysg a chyhoeddi

Mae holl ymchwil ac ymchwiliadau archaeolegol yr Ymddiriedolaeth yn cyfrannu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol at feithrin yr ymwybyddiaeth o amgylchedd hanesyddol Cymru. Gan fod amryw o brosiectau a gweithgareddau’r Ymddiriedolaeth wedi’u hanelu’n benodol at hybu’r ymwybyddiaeth honno, mae’r Ymddiriedolaeth wedi dechrau gweithredu Strategaeth Allgymorth erbyn hyn. Mae honno nid yn unig yn cyfrannu at gyflawni amcanion elusennol sylfaenol yr Ymddiriedolaeth, sef addysgu’r cyhoedd mewn archaeoleg, ond hefyd yn chwarae rôl hanfodol wrth hybu’r amgylchedd hanesyddol fel un o’n hasedau pennaf. Yr oedd yr angen i wneud rhagor i dynnu sylw at werth yr amgylchedd hanesyddol a hybu ymwybyddiaeth helaethach o berchnogaeth ohoni yn thema ganolog dogfen ymgynghorol yr Adolygiad o’r Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ystod y flwyddyn.

 

Y Dreftadaeth Gymunedol

Elfen amlycaf y cynigion ar gyfer y strategaeth allgymorth oedd cydnabod yr angen i ddal i hybu a dehongli’r amgylchedd hanesyddol ar lefel y gymuned leol. Fel o’r blaen, cydweithiodd yr Ymddiriedolaeth â mentrau cymunedol megis Antur Cwm Taf a Thywi (ACTT) a Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro dros Fenter a Datblygu (PLANED – SPARC gynt). Mae’r Ymddiriedolaeth wedi ymwneud yn weithgar â phrosiect Bro Beca ar helynt y Beca, prosiect yr ymgymerir ag ef ar y cyd gan PLANED ac ACTT.

Agwedd sylfaenol ar y strategaeth allgymorth fu seilio archwiliadau o’r dreftadaeth gymunedol ar gynnwys y Cofnod rhanbarthol o Safleoedd a Henebion (CHA). Mae ymgynghori â chymunedau – er enghraifft, mewn digwyddiadau a drefnwyd gyda’r hwyr – wedi caniatáu llif dilyffethair o wybodaeth rhwng yr CAH a chymunedau lleol ac wedi bod yn fodd i dynnu sylw at y materion y credir eu bod o werth arbennig ar y lefel leol. Yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd nosweithiau cymunedol a/neu archwiliadau treftadaeth llwyddiannus ar gyfer Brechfa, Dyffryn Aman a Phont-rhyd-y-groes. Darparwyd cymorth hefyd i gymunedau i lunio ceisiadau i fenter Balchder Bro am gymorth grant. Fel rhan o’r cynllun hwnnw, gwnaed archwiliad cymunedol ar gyfer Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin. Yn ogystal â chynnal cyfarfodydd gyda’r hwyr, cyflenwyd gwybodaeth i Llanelli Foothold, Bynea a Menter Cwm Gwendraeth i’w helpu i ddatblygu prosiectau. Cychwynnwyd prosiect allgymorth mawr ar ran Pentir Pumlumon, mudiad datblygu cymunedol yng ngogledd-ddwyrain Ceredigion, gan ymgymryd ag archwiliadau treftadaeth a nosweithiau gyda’r hwyr i naw cymuned, sef Blaenrheidol, Pontarfynach, Ysbyty Ystwyth, Ystrad Fflur, Ystradmeurig, Lledrod, Llanilar, Trawsgoed a Melindwr. Bwydir y gweithgareddau hynny i’r broses o gynhyrchu 19 o baneli dehongli treftadaeth a thaflen dreftadaeth.

Dechreuwyd gweithio hefyd ar gynhyrchu Cronfa Ddata Allgymorth o unigolion a chyrff y mae gan yr Ymddiriedolaeth gysylltiadau allgymorth â hwy ar hyn o bryd, neu y mae angen i’r Ymddiriedolaeth feithrin cysylltiadau agosach â hwy a darparu gwybodaeth a chyngor iddynt.

Agwedd bwysig ar hybu a dehongli’r amgylchedd hanesyddol yw darparu paneli gwybodaeth. Cwblhawyd cryn waith i Gyngor Sir Caerfyrddin, gan gynnwys saith panel ar gyfer Ynys Dawela, pump ar gyfer Cwmaman a phaneli ar gyfer Mynydd y Betws, Cwmifor, Manordeilo a Chapel Bwlch y Rhiw ger Rhandirmwyn. Cwblhawyd panel hefyd ar gyfer Pentir Pumlumon wrth hen Bont y Mwynwyr – a adferwyd – ym Mhont-rhyd-y-groes. Mae gwaith wedi dechrau ar nifer dda o baneli eraill i Gyngor Sir Caerfyrddin ac i Bentir Pumlumon.


Darlithiau a Sgyrsiau

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, daliodd staff yr Ymddiriedolaeth i gyflwyno darlithiau a sgyrsiau i amrywiaeth mawr o gyrff, a chyflwynwyd papurau mewn amryw o gynadleddau, gan gynnwys amryw o gyfraniadau i Seminar Asesu Ymchwil ranbarthol a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin.

Yn ogystal, bu aelodau unigol o’r staff yn cynrychioli’r Ymddiriedolaeth yn uniongyrchol ac yn cyfrannu i weithgareddau nifer fawr o gyrff a grwpiau allanol ar y lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, megis Cyngor Archaeoleg Prydain: Cymru; Cymdeithas Swyddogion Archaeolegol Llywodraeth Leol (ALGAO), ei His-Bwyllgor Arforol a’i Phwyllgor Cymru; Sefydliad yr Archaeolegwyr Maes, Cymru; Panel Archaeoleg Ddiwydiannol Cymru; Pwyllgor BA Coleg y Drindod, Caerfyrddin; Pwyllgor Ymgynghorol Esgobaeth Tyddewi; Pwyllgor Ymgynghorol Adeiladwaith Eglwys Gadeiriol Tyddewi; y Gymdeithas Archaeoleg Eglwysi; Grwp Ymchwil ac Ymgynghorol Meysydd Tanio De Penfro; Fforwm Mynediad Lleol Aberteifi; Fforwm Mynediad Lleol Sir Gaerfyrddin; Grwp Gwaith Tir Llygredig Ceredigion; Grwp Peirianneg Arfordirol Bae Caerfyrddin; Fforwm Arfordirol Sir Benfro; Grwp Llywio Strategaeth Tirwedd De Ddwyrain Sir Gaerfyrddin; Gweithgor Ymgynghorol Castell Aberteifi; Grwp Llywio Balchder Bro ac amrywiol gymdeithasau a grwpiau hanes ac archaeoleg yn genedlaethol ac yn lleol.

 


Arddangosfeydd ac arddangosiadau

Darparodd yr Ymddiriedolaeth arddangosfeydd ac arddangosiadau ar yr Amgylchedd Hanesyddol mewn amryw o ddigwyddiadau cyhoeddus, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhyddewi lle’r arddangoswyd gwefan yr Ymddiriedolaeth ac, yn arbennig, y data ar Dirweddau Hanesyddol, ar gyfrifiadur. Defnyddiwyd yr Eisteddfod hefyd yn gyfle i lansio’r taflenni sydd wedi’u cynllunio i hyrwyddo gwefan y Tirweddau Hanesyddol. Paratowyd cyflwyniadau ac arddangosiadau hefyd ar gyfer Gwyl Llandeilo, Gwyl Grochenwaith Llandeilo, ffair yrfaoedd yng Nghaerfyrddin a drefnwyd gan Chwarae Teg, a’r Ffair Hanes Lleol yn Scolton Manor. Daeth yr Ymddiriedolaeth ac Amgueddfa Caerfyrddin ynghyd i gyflwyno diwrnod o weithgareddau a gwybodaeth fel rhan o Benwythnos Cenedlaethol Archaeoleg y CBA. Ymhlith y gweithgareddau yr oedd ‘sioe ffordd yr CHA’ a roes gyfle i bobl weld ar yr hyn a wyddom ni am eu hardal ac i gyfrannu o’u gwybodaeth hwy.

 


Adroddiadau a Chyhoeddiadau

Un o gyhoeddiadau nodedig y flwyddyn oedd Newyddlen gychwynnol yr Ymddiriedolaeth, a ariannwyd fel rhan o grant curadurol Cadw. Dosbarthwyd copïau ohoni i grwpiau, cymdeithasau, ysgolion a llyfrgelloedd lleol.

Yr oedd y cyhoeddiadau mewn cylchgronau academaidd yn cynnwys yr adroddiad terfynol ar y cloddio yn Great Castle Head yn Sir Benfro, a gyhoeddwyd yn Archaeologia Cambrensis, adroddiad ar y gwaith ym Mhriordy Pill yn Medieval Archaeology a chyfraniad i gyfrol y CBA Coastal Archaeology of Wales. Yn ogystal, ymddangosodd erthyglau ar gloddiadau’r Ymddiriedolaeth yn Eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin a Bryn Maen Caerau, Cellan yn Archaeology in Wales. Gwnaed dau gyfraniad gan aelodau o staff yr Ymddiriedolaeth i drafodion cynhadledd IFA Wales/Cymru ar Agenda Ymchwil i Archaeoleg Cymru, a gyhoeddwyd gan British Archaeological Reports.

 

 

Addysg a Chymorth Hyfforddi i Brifysgolion

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, fe secondiwyd Ken Murphy (y Prif Swyddog Archaeolegol, Gweithrediadau Maes) i gyfarwyddo’r gwaith o ddydd i ddydd ar gloddiad hyfforddi blynyddol Prifysgol Caerefrog yng Nghastell Henllys, ger Trefdraeth yn Sir Benfro. Eleni, bu rhyw 60 o hyfforddeion wrthi’n cloddio. Yn eu plith, unwaith eto, yr oedd myfyrwyr o lu o wahanol rannau o’r byd.

Daliodd yr Ymddiriedolaeth i gyfrannu i arolwg hyfforddi Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan. Bu i ymwneud yr Ymddiriedolaeth ag ef unwaith eto gynnwys cyflwyno’r myfyrwyr i ddefnyddio’r Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol a chymorth gyda hyfforddi o ran arolygu maes. Gwnaed cyflwyniad hefyd i gwrs MA Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ar Asesu Effeithiau ar yr Amgylchedd.

Daliwyd i gynnig cyfleoedd ar gyfer Lleoliadau Myfyrwyr yn swyddfeydd yr Ymddiriedolaeth. Yn ystod y flwyddyn, mae’r lleoliadau hynny wedi cynnwys myfyrwyr o gwrs MA mewn Twristiaeth Dreftadaeth yng Ngholeg y Drindod, y cwrs MA ar Reoli Treftadaeth ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan, a myfyrwyr chweched dosbarth o ysgolion uwchradd Tre-gib a Dyffryn Aman.


Y Wefan

Mae gwefan yr Ymddiriedolaeth wedi’i diweddaru a’i had-drefnu’n gyson drwy ychwanegu ati wybodaeth newydd am brosiectau cyfredol a ariannir gan Cadw a chan ddatblygwyr. Ychwanegiad o bwys, gyda chymorth cyllid gan Cadw, oedd manylion llawn y gwaith ar ddisgrifio nodweddion tair arall o’r Tirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Nodedig (Penrhyn Dewi, Preseli ac Ynys Skomer). I gyd-fynd â hynny, lluniwyd dwy daflen ar ardal Tyddewi ac ardal y Preseli.

Gwasanaethau Archaeolegol

Mae dwy elfen i’r Gwasanaethau Archaeolegol. Yn gyntaf, cynnal a datblygu Cofnod rhanbarthol yr Ymddiriedolaeth o Safleoedd a Henebion (CHA), a ariannir yn rhannol gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Yn ail, cynghori neu ddarparu Gwasanaethau Curadurol i awdurdodau unedol a chyrff statudol ac anstatudol eraill ynghylch diogelu a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol. Mae’r ddau wasanaeth yn cwmpasu tiriogaethau awdurdodau unedol Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin yn ogystal â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Daliodd pedwar o Awdurdodau Cynllunio Lleol y rhanbarth, sef Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Ceredigion i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer Cynghori ynghylch Cynllunio Archaeolegol (yn ogystal â’r cymorth grant gan Cadw). Mae’r Ymddiriedolaeth yn dal i fod yn ddiolchgar iawn i’r Awdurdodau Cynllunio am y cymorth hwn, a bydd yn sicrhau bod modd cynnal y lefel uchel o wasanaeth y mae’r Ymddiriedolaeth yn ei rhoi.

Yn ystod y flwyddyn, bu i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd yn Llywodraeth Cynulliad Cymru gychwyn Adolygiad o’r Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru. Gwahoddwyd Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth i gyflwyno papur mewn cynhadledd fawr a gynhaliwyd yng Nghwmaman i ragflaenu’r adolygiad, ac fe’i gwahoddwyd yn ddiweddarach i gymryd rhan mewn seminar a gynlluniwyd i fwydo i’r broses o baratoi dogfen ymgynghorol. Yr oedd cwmpas eang i’r ddogfen honno pan gyhoeddwyd hi, a chan y gall gael cryn effaith ar fentrau polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y dyfodol ym maes yr Amgylchedd Hanesyddol, fe gyflwynodd yr Ymddiriedolaeth sylwadau manwl arni.

Y Cofnod Rhanbarthol o Safleoedd a Henebion

Mae’r Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol yn gofnod ar bapur ac yn gronfa ddata gyfrifiadurol sy’n cynnwys manylion am safleoedd a henebion archaeolegol, darganfyddion, ac adeiladau a thirweddau hanesyddol. Daliodd y staff cofnodi i fwydo data newydd iddo, i wneud gwaith cynnal-a-chadw arferol arno a’i ddatblygu, ac i ymateb i ymholiadau mewnol ac allanol. Daliwyd i ychwanegu ‘digwyddiadau’ (cloddiadau, arolygon, asesiadau pen-desg) ato.

Ar ddiwedd y flwyddyn, cyfanswm y cofnodion unigol oedd 36,432. Nifer y rhai ychwanegol a grëwyd yn ystod y flwyddyn oedd 915. Mae’r cofnodion newydd hyn, a chyfoethogi’r cofnodion presennol, yn dal i fod yn ffrwyth prosiectau ymchwil ac ymchwiliadau’r Ymddiriedolaeth ei hun yn ogystal â rhai gan ffynonellau allanol. Mae cynllun amaeth-amgylcheddol Tir Gofal yn dal i fod yn ffynhonnell fawr newydd o wybodaeth. Ychwanegir cryn wybodaeth newydd hefyd o ganlyniad i strategaeth allgymorth gymunedol yr Ymddiriedolaeth.

Daliodd yr Ymddiriedolaeth i ymwneud â chyfnewid data creiddiol â phartneriaid eraill END (Cronfa Ddata Genedlaethol Estynedig Cymru). Cyfnewidir data ar ddwy lefel, sef ENDEX (y data a ddefnyddir gan y partneriaid at ddibenion rheoli) a CARN (y data a ddarperir i’r cyhoedd ar y rhyngrwyd ac y gellir eu cyrchu ar wefan y Comisiwn). Daliodd yr Ymddiriedolaeth i gyfrannu at ddatblygu Geirfa o Fathau o Safleoedd, sef geirfa genedlaethol ENDEX, sydd i’w defnyddio gan bartneriaid END.

Ar y cyd â phrif gronfeydd data’r CHA, mae System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), sy’n defnyddio meddalwedd MapInfo, yn dal i fod yn brif arf yr is-adran Rheoli Treftadaeth. Yn ystod y flwyddyn, ychwanegwyd meysydd newydd at gronfa ddata’r CAH i gofnodi pobl, digwyddiadau a oedd yn gysylltiedig â lleoedd, a dyddio gwyddonol.

Daliwyd i roi cymorth drwy grant curadurol Cadw i ddarparu gwybodaeth yn helaethach o’r CAH a datblygu gweithgareddau allgymorth. Darparwyd cymorth ychwanegol i’r CAH drwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Yr oedd y gwaith a wnaed fel rhan o’r trefniant hwn yn canolbwyntio ar ddarparu data i’r CAH a llunio disgrifiadau ar gyfer safleoedd sydd wedi’u cofnodi yn y Parc.

Ar y cyd ag Ymddiriedolaethau Archaeolegol eraill Cymru, lluniwyd Cyd-Ddatganiad CAH a amlinellai’r dyheadau ar gyfer CHAion Cymru at y dyfodol. Un o’r materion y tynnwyd sylw atynt oedd yr angen i ehangu rôl allgymorth yr CHAion ac i fynd i’r afael â materion tanariannu os bwriedir i’r CHAion dyfu’n Gofnodion cwbl ddatblygedig o’r Amgylchedd Hanesyddol. Yr oedd y datganiad strategol hwn yn arbennig o amserol yng ngoleuni’r Adolygiad o Amgylchedd Hanesyddol Cymru a gynhelir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

 

Gwasanaethau Curadurol: Cynllunio

Mae’r agwedd hon ar waith yr Ymddiriedolaeth yn ymwneud yn bennaf â thasgau rheoli datblygu, er bod rhai ymgynghoriadau ynghylch safleoedd archaeolegol yn dod o gyfeiriadau heblaw’r system gynllunio. Yn ystod y flwyddyn, rhoddwyd gwybod i’r Ymddiriedolaeth am 6,190 o geisiadau cynllunio (2001/2002: 4,692). Yr oedd angen gwerthuso manwl ar 534 ohonynt, a chymryd camau pellach mewn 189 o achosion, gan gynnwys cyflwyno argymhellion ynghylch asesiadau, gwerthusiadau, cloddiadau neu waith cofnodi cyn i’r datblygu ddigwydd, neu orchwylion gwylio yn ystod y datblygu.

Mewn ymateb i geisiadau, daliodd Swyddog Rheoli Datblygu yr Ymddiriedolaeth i lunio briffiadau, i gytuno ar fanylebau ac i wneud ymweliadau monitro. O ganlyniad i’r cyngor hwnnw, darperir rheolaeth archaeolegol ddigonol yn y mwyafrif llethol o achosion. Yr oedd gwaith achos o bwys yn cynnwys goblygiadau archaeolegol cyfleuster storio Nwy Naturiol Hylifedig newydd i Petroplus yn Waterston, Sir Benfro, a’r bwriad i ddatblygu pentref hamdden mawr i Bluestone yn ardal Eglwys Newton North, Sir Benfro, a’i holion canoloesol cysylltiedig. Cynhaliwyd Cyfarfod Archaeoleg Cynllunio am y tro cyntaf gan roi cyfle i swyddogion cynllunio a staff yr Ymddiriedolaeth arolygu gwaith sy’n mynd yn ei flaen.

Daliwyd i ddarparu gwybodaeth a chyngor ynghylch materion rheoli treftadaeth y tu allan i’r fframwaith cynllunio lleol mewn perthynas â choedwigaeth, trin safleoedd mwyngloddio metelau, safleoedd arfordirol a gweithrediadau amaethyddol. Gwelwyd cryn gynnydd yn nifer yr ymgynghoriadau mewn perthynas â’r Cynllun Grantiau Coetiroedd. Ystyriwyd 164 o geisiadau ynghyd â 32 lle’r oedd angen cyflwyno rhagor o sylwadau a chymryd rhai camau pellach. Daliodd yr Ymddiriedolaeth i roi gwybodaeth a chyngor rheoli manwl i Fenter y Goedwig ar gyfer gwaith coedwig a Chynlluniau Rheoli Coedwigoedd. Ymgymerwyd ag arolwg cyflwr, ynghyd ag argymhellion rheoli, o safleoedd yn ardal Coedwig Brechfa.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn dal i ymateb i ymgynghoriadau gan y diwydiannau gwasanaethu, gan gynnwys 22 o Gynlluniau Cyfleustodau. Yn anffodus, ni fu unrhyw welliant ynghylch ymgynghori’n uniongyrchol â chontractwyr Dwr Cymru. Darparwyd gwybodaeth ynghylch 41 o Hysbysiadau Dileu Perthi ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, daliodd yr Ymddiriedolaeth, ar gais Cadw, i gyflwyno’i sylwadau ar Geisiadau am Ganiatâd Henebion Cofrestredig.

 

Gwasanaethau Curadurol: Rheoli Treftadaeth

Darparwyd rhagor o ymgynghoriadau a cheisiadau am gyngor ar gyfer dogfennau cynllunio strategol a chynlluniau rheoli, gan gynnwys darparu sylwadau manwl ar ddatganiadau polisi yn y drafft o Gyd-Gynllun Datblygu Unedol Sir Benfro ac ar Gynllun Datblygu Unedol Cyngor Sir Caerfyrddin. Bu’r Ymddiriedolaeth yn ymwneud yn agos â datblygu cynllun rheoli integredig o Ystadau Hyfforddi’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Ne Penfro, a chyflwynodd wybodaeth a sylwadau ar ran y Drafft o Strategaeth Cyngor Sir Ceredigion ynghylch Archwilio Tir Llygredig.

Daliodd yr Ymddiriedolaeth hefyd i fewnbynnu i Grwp Peirianneg Arfordirol Bae Caerfyrddin a chyflwynwyd sylwadau ar amryw o faterion diogelu’r arfordir, gan gynnwys Cynllun Rheoli’r Traethlin ar gyfer Traeth y De yn Ninbych-y-pysgod. Rhoddwyd cyngor i Gyngor Cefn Gwlad Cymru ynghylch yr agweddau ar y cynigion i wneud Bae Ceredigion a Bae Caerfyrddin yn ymgeiswyr am gael bod yn Ardaloedd Arbennig o Ddiddordeb Cadwraethol o safbwynt yr amgylchedd hanesyddol. Daliodd yr Ymddiriedolaeth hefyd i fewnbynnu i’r agweddau sy’n ymwneud â hanes ac archaeoleg ar brosiect LANDMAP, a ariannir gan y Cyngor Cefn Gwlad ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi rhoi cyngor ac wedi ymateb i ymgynghoriadau ynghylch cynlluniau a mentrau eraill sy’n ymwneud â chefn gwlad, gan gynnwys y Fforymau Mynediad Lleol a sefydlwyd gan Gynghorau Sir Caerfyrddin a Cheredigion mewn ymateb i Ddeddf Hawliau Tramwy yng Nghefn Gwlad 2000, a Grwp Astudio Adeiladau Fferm Traddodiadol Sir Benfro, sydd wedi’i gynllunio i helpu ffermwyr i gadw a defnyddio adeiladau fferm traddodiadol. Cyflwynwyd cyngor hefyd i Lywodraeth Cynulliad Cymru i’w fwydo i Ddarpariaethau Tir sydd heb ei Droi a Darnau Tir Lled-naturiol y Gyfarwyddeb ar Asesu Effeithiau ar yr Amgylchedd. Mae detholiad o ddata o’r CAH wedi’u hymgorffori yn y GIS a ddefnyddir gan Adran Amaethyddiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru (WENDI), a gellir eu bwydo i amrywiaeth o gynlluniau a mentrau, gan gynnwys Farming Connect. Mae angen sefydlu protocol clir i bennu sut y mae’r wybodaeth i gael ei defnyddio, ac i sicrhau y caiff set briodol o ddata ei ddiweddaru’n gyson.

Daliodd yr Ymddiriedolaeth i gyflwyno cyngor i Bwyllgor Ymgynghorol Esgobaeth Tyddewi ar Hawlenni a’r Pwyllgor Ymgynghorol ar Adeiladwaith Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Bu i’r Ymddiriedolaeth hefyd ddarparu cymorth i Grwp Ymgynghorol Castell Aberteifi wrth i’r ymgyrch i gael Cyngor Sir Ceredigion brynu a diogelu’r safle ddatblygu.

Drwy Reolwr ei CHA, daliodd yr Ymddiriedolaeth i gymryd rhan yn y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy, sef cynllun gwirfoddol i roi gwybod am ddarganfyddion archaeolegol a’u cofnodi. Delir i hybu achos y cynllun hwn yn weithgar wrth glybiau lleol sy’n canfod metelau, ac wrth grwpiau hanes.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn dal i fod yn gyfrifol am ddarpariaethau’r amgylchedd hanesyddol yng Nghynllun Amaeth-Amgylcheddol Tir Gofal yn y rhanbarth. Yn ystod y flwyddyn, a chyda chymorth cyllid gan Cadw, cwblhaodd yr Ymddiriedolaeth waith ar ddarparu adroddiadau HE1 ar yr amgylchedd hanesyddol ar gyfer Blwyddyn 3 y cynllun. Bellach, mae cyfanswm o 467 o adroddiadau HE1 Blwyddyn 3 wedi’u llunio. Yn ystod y flwyddyn, hefyd, gwnaed 67 o ymweliadau (HE2) a ariannwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, a rhoddwyd cyngor i 11 o ddarpar ymgeiswyr cyn y cyfnod ymgeisio. Hefyd, fe drefnodd yr Ymddiriedolaeth ddiwrnod hyfforddi i swyddogion prosiect a oedd newydd eu recriwtio i’r Cyngor Cefn Gwlad i roi gwybodaeth iddynt am faterion rheoli mewn perthynas â safleoedd archaeolegol. Cyflwynodd yr Ymddiriedolaeth wybodaeth fanwl i adolygiad y Cyngor hwnnw o ddarpariaethau a phrosesau’r cynllun Tir Gofal o ran yr amgylchedd hanesyddol. Bu’r adolygiad hwnnw’n gyfle i leisio’r pryder mai gwael yw cynrychiolaeth yr amgylchedd hanesyddol yn y Cynlluniau Rheoli Fferm a gwblhawyd. Edrychir ymlaen â diddordeb at ganlyniad yr adolygiad.

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]