Cartref > Amdanom Ni >

AROLWG O WEITHGAREDDAU'R YMDDIRIEDOLAETH YN YSTOD Y FLWYDDYN 2003-2004

Amcan hysbys yr Ymddiriedolaeth yw hybu addysg y cyhoedd mewn archaeoleg. Gwneir hynny drwy gynnal cloddiadau archaeolegol, gorchwylion gwylio ac arolygon; asesiadau a gwerthusiadau o dirweddau hanesyddol; ac arolygu a chofnodi adeiladau hanesyddol ac adeiladweithiau eraill. Lledaenir ffrwyth y gwaith hwnnw mewn amryw o ffyrdd - drwy gyfrwng adroddiadau, cyhoeddiadau, newyddlenni, taflenni, gwefan yr Ymddiriedolaeth a phaneli sy'n dehongli hanes ac archaeoleg leol, a thrwy ddarlithiau a chyflwyniadau yn y cyfryngau. Mae'r Ymddiriedolaeth wrthi'n ehangu ei gwaith gyda chymunedau i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r hyn sydd o bwys yn lleol. Er bod yr Ymddiriedolaeth yn dal i weithredu'n bennaf yn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro, mae hi bellach yn ymgymryd hefyd gweithgareddau maes mewn rhannau eraill o Gymru.

Fel un o'r pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol a sefydlwyd yng Nghymru yn ystod y 1970au, yr Ymddiriedolaeth sy'n cynnal y Cofnod rhanbarthol o Safleoedd a Henebion (CHA) ar gyfer hen sir Dyfed, ac mae'n dal i gynghori'r tri awdurdod unedol, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ynghylch diogelu a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol. Darperir gwasanaethau hefyd i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac amrywiaeth o gyrff statudol ac anstatudol eraill. Erbyn hyn, maes o gryn bwys yng ngweithgarwch yr Ymddiriedolaeth yw darparu cyngor i gynllun amaeth-amgylcheddol Tir Gofal. Ymgymerwyd chyfanswm o fwy na 215 o wahanol brosiectau yn ystod y flwyddyn, ac mae llawer ohonynt yn dal i fynd yn eu blaen.

 

Ymchwil ac Ymchwiliadau

Archaeolegol Fel yn y blynyddoedd blaenorol, fe ymgymerwyd ag amrywiaeth mawr o brosiectau yn ystod y flwyddyn. Yn eu plith yr oedd asesiadau o fygythiadau fel rhan o fentrau ledled Cymru a ariannwyd gan Cadw: Henebion Cymru. Fel rhan o'r Asesiad o Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol, a ariannir gan Cadw, fe gwblhawyd y gwaith maes ar gyfer Sir Benfro a dechreuwyd diweddaru'r gronfa ddata a llunio adroddiad. Cyhoeddwyd adroddiad ar yr arolwg o Sir Gaerfyrddin yn y Carmarthenshire Antiquary.

Beddrod siambr y Maen Crog a gofnodwyd yn ystod yr asesiad o safleoedd angladdol a defodol yn Sir Benfro

Hon hefyd oedd blwyddyn olaf asesiad hirfaith, sef yr Asesiad o Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd, gan i'r arolwg o gyflwr safleoedd yn ne Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin gael ei gwblhau. Gwnaed gwaith pellach ar gyfraniad yr Ymddiriedolaeth i'r monograff Cymru-gyfan ar gyfer y prosiect hwn.

Cwblhawyd yr Asesiad o Safleoedd Eglwysig o'r Oesoedd Canol Cynnar, a ariannwyd gan Cadw, a gwnaed ymchwil bellach i 108 o safleoedd yn Sir Gaerfyrddin a 61 o safleoedd yng Ngheredigion lle cafwyd tystiolaeth bod iddynt darddiad eglwysig o'r Oesoedd Canol cynnar. Argymhellwyd cofrestru a/neu ymchwilio ymhellach i amryw o'r safleoedd. Hefyd, aeth yr Ymddiriedolaeth ati i asesu a chynyddu'r cofnodion o ddarganfyddion a gwasgariadau lithig yn y Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol fel rhan o'r asesiad, a ariannir gan Cadw, o'r dystiolaeth am Aneddiadau Anamddiffynnol Cynhanesyddol.

Parhau wnaeth y prosiect Disgrifio Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol, a ariannir gan Cadw. Eleni, canolbwyntiodd y gwaith ar yr ardaloedd tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yn Nre-fach Felindre a rhan isaf Dyffryn Teifi.

Cyflawnwyd dau brosiect cofnodi brys gyda chyllid o gyllideb wrth-gefn oddi wrth Cadw, sef cofnodi twmpath llosg o'r Oes Efydd ym Mhwllauduon, ger Tregaron, a chofnodi a chloddio sampl o flwch neu danc pren cynhanesyddol a thracffordd pren canoloesol gerllaw yn Llancynfelin, ger Tal-y-bont.

Lluniwyd adroddiad i'w gyhoeddi ar gyfer yr arolwg o'r diwydiant gweithio haearn cynnar yn Siroedd Caerfyrddin a Phenfro, a ariannwyd gan Cadw yn ystod 2001/2002.

Ymgymerodd yr Ymddiriedolaeth ag amrywiaeth o brosiectau i gleientiaid eraill - yn ddatblygwyr cyhoeddus a phreifat, awdurdodau unedol, asiantaethau'r llywodraeth, cyrff gwirfoddol, ac ymgynghorwyr. Gwnaed y mwyafrif ohonynt o fewn tiriogaeth siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion. Yr oedd y prosiectau'n cynnwys asesiadau a gwerthusiadau archaeolegol wrth-ddesg cyn i benderfyniadau cynllunio gael eu gwneud, a gwaith cofnodi adeiladau ynghyd gorchwylion gwylio a oedd yn aml yn amod caniatd cynllunio.

Buwyd yn cloddio yn nhri o gestyll mawr de-orllewin Cymru. Yr oedd parhad y rhaglen o gyfnerthu a gwella yng Nghastell Caerfyrddin yn cynnwys cloddio ar raddfa fawr ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin ar y darn tir o flaen y porth. Yr oedd y tir yn cynnwys gweddillion pont sarn sylweddol o gerrig a groesai ffos y castell. Canfu'r cloddio sawl cam yn yr adeiladu. Gwnaed cloddiadau llai yng Nghastell Arberth ar ran Cyngor Sir Penfro ac yng Nghastell Aberteifi ar ran Cyngor Sir Ceredigion.

Gwnaed gwaith cloddio mawr hefyd yng Nghwm Meudwy, Llandysul, cyn i Awdurdod Datblygu Cymru godi parc busnes newydd yno. Archwiliwyd dau safle cynhanesyddol, y naill yn lloc palisd ynghyd thyllau, tyllau pyst, crochenwaith Neolithig a dyddiadau radiocarbon a amrywiai o'r oes Neolithig gynnar i'r Oes Haearn, a'r llall yn cynnwys tair ffos gron y credir mai gweddillion crugiau crwn o'r Oes Efydd ydynt, ond bod y tir yno wedi'i droi drostynt.

Ken Murphy wrthi'n mynd pharti ysgol ar daith o amgylch y cloddiadau yng Nghwm Meudwy, Llandysul

Yn dilyn y cloddio mawr cyn i gyfleuster storio Nwy Naturiol Hylifedig newydd i Petroplus yn Waterston, Aberdaugleddau, gael ei godi, dechreuwyd gweithio ar y rhaglen l-gloddio o ddadansoddi ac adrodd. Cysylltwyd dyddiadau o'r Oes Efydd samplau o'r sercol a gafwyd o'r ty crwn a gawsai ei gloddio, a chysylltwyd dyddiad o'r Oesoedd Canol cynnar dwy odyn sychu yd a ragddyddiai golomendy crwn.

Gwnaed sawl cloddiad llai ei faint yn Sir Benfro o dan amrywiaeth o amgylchiadau. Enghraifft anarferol oedd hwnnw yn Nhy Cregyn Cilwendeg, adeilad gardd o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar dir Ystd Cilwendeg yng ngogledd-ddwyrain Sir Benfro. Y bwriad oedd i ffrwyth y cyfuniad o gloddio ac arolygu'r adeilad gael ei fwydo i'r rhaglen adfer sydd ar y gweill gan y Temple Trust.

Y cloddio yng Ngroto Cregyn Cilwendeg

Yn ne Sir Benfro, gwnaed gwaith pellach, gan gynnwys gwerthusiad maes, yng Nghrug Brownslade, Castellmartin, ar gyfer Ystadau Amddiffyn y Weinyddiaeth Amddiffyn. Caiff y crug hwn o'r Oes Efydd, ynghyd grwp o gladdiadau mewn pridd, ei fygwth ar hyn o bryd gan set fawr moch daear. Mae dyddiadau radiocarbon o sawl un o'r claddiadau'n rhoi dyddiad o'r Oesoedd Canol cynnar. Dangosodd cloddiad bach ar ran Anthony Phillips yn Hayguard Lane, Hwlffordd, botensial archaeolegol y safle. Y gobaith yw y bydd modd diogelu'r dyddodion canoloesol sydd wedi goroesi yno tra codir chwe thy newydd. Yn olaf, gwnaed cloddiad bach ar ochr ogleddol Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar ran Deon Tyddewi.

Yr oedd sawl darn o waith maes yn gysylltiedig chynlluniau ffyrdd. Yn eu plith, yr oedd cwblhau'r asesiad cyn i ffordd yr A40 o Sanclr i Abergwaun gael ei deuoli, sef gwaith a wnaed ar ran TACP. Gwnaed gwaith cofnodi ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin ar y bont ffordd ym Mhont-ar-Twrch, Pumsaint, cyn ac wrth iddi gael ei dymchwel. Dechreuwyd gweithio hefyd i Gyngor Sir Caerfyrddin ar asesiad a gwerthusiad cyn i Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol Porth Tywyn ddechrau cael ei hadeiladu.

Gwnaed arolwg ar ran Ystadau Amddiffyn y Weinyddiaeth Amddiffyn o gyflwr pob safle ar Faes Tanio Castellmartin a chyflwynwyd y canlyniadau ar ffurf cronfa ddata a system gwybodaeth ddaearyddol. Gwnaed Arolwg Rhynglanwol o amgylch arfordir Sir Benfro ar ran Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro cyn i raglen i fonitro adnodd amgylcheddol hanesyddol yr arfordir ac, yn benodol, y dyddodion mawn arfordirol a chynhanesyddol, gael ei rhoi ar waith. Yn y cyfamser, gwnaed arolygon topograffig i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol o'r ardd goetir yn Colby Lodge, Sir Benfro, o'r Geuffordd Hir ym Mwyngloddiau Aur Dolau Cothi ac i Ymddiriedolaeth Benlle'r-gaer o ardd furiog ar Ystd Penllergare, Abertawe.

Yr oedd prosiectau eraill y tu allan i'r rhanbarth yn cynnwys monitro tymor-hir, ar ran Nuttalls Cyf, ar y broses o symud tomenni gwastraff enfawr ac o'r gwaith tirlunio sy'n gysylltiedig Chynllun Adfer Tir Golchfa Maesteg. Yng ngogledd Cymru, gwnaed asesiad ar ran Partneriaeth Ottley cyn i Ganol Dinas Bangor gael ei ailddatblygu. Yn dilyn hynny, fe gofnodwyd adeiladau gorsaf yr heddlu a llys yr ynadon cyn iddynt gael eu dymchwel. Gwnaed asesiad pellach hefyd i Beech Homes ar dir wrth ymyl Plas yr Esgob yng Ngogarth, Llandudno.

 

Addysgu a chyhoeddi

Mae holl ymchwil ac ymchwiliadau archaeolegol yr Ymddiriedolaeth yn cyfrannu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol at feithrin yr ymwybyddiaeth o amgylchedd hanesyddol Cymru. Er hynny, mae amryw o brosiectau a gweithgareddau'r Ymddiriedolaeth wedi'u hanelu'n benodol at hybu'r ymwybyddiaeth honno. Mae Strategaeth Allgymorth yr Ymddiriedolaeth yn dal i gyfrannu at gyflawni amcan elusennol sylfaenol yr Ymddiriedolaeth, sef addysgu'r cyhoedd mewn archaeoleg, a'i rl wrth hybu'r amgylchedd hanesyddol fel un o'n hasedau pennaf.

Y Dreftadaeth Gymunedol

Mae'r Ymddiriedolaeth yn dal i gydnabod bod angen hybu a dehongli'r amgylchedd hanesyddol ar lefel y gymuned leol. Fel o'r blaen, cydweithiodd yr Ymddiriedolaeth mentrau cymunedol megis Antur Cwm Taf a Thywi (ACTT) a Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro dros Fenter a Datblygu (PLANED - SPARC gynt).

Agwedd sylfaenol ar y strategaeth allgymorth fu seilio archwiliadau o'r dreftadaeth gymunedol ar gynnwys y Cofnod rhanbarthol o Safleoedd a Henebion (CHA). Mae ymgynghori chymunedau - er enghraifft, mewn digwyddiadau a gynhelir gyda'r hwyr - wedi hwyluso llif dilyffethair o wybodaeth rhwng yr CAH a chymunedau lleol ac wedi bod yn fodd i dynnu sylw at y materion y credir eu bod o werth arbennig ar y lefel leol. Yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd nosweithiau cymunedol a/neu archwiliadau treftadaeth llwyddiannus i Fforwm Cymunedol y Bynie, Cyngor Cymuned Gors-las, Cyngor Dyffryn Aman a Chyngor Tref Llandeilo. Dechreuwyd gweithio ar brosiectau i Gyngor Cymuned Llandre, i Balchder Bro yn Llangadog ac i Symud Ymlaen yn Llangeler. Cwblhawyd y gwaith ar yr archwiliadau o dreftadaeth naw cymuned yng ngogledd-ddwyrain Ceredigion ar ran Pentir Pumlumon a bwydwyd ffrwyth y gwaith i'r broses o gynhyrchu 19 o baneli dehongli treftadaeth.

Y cyfarfod yn Llandeilo ynghylch treftadaeth y gymuned

Mae darparu'r paneli dehongli hyn yn agwedd bwysig ar hyrwyddo'r amgylchedd hanesyddol. Yn ogystal 'r 19 panel i Bentir Pumlumon, fe gwblhawyd y gwaith ar baneli ar gyfer y Bynie (Fforwm Cymunedol y Bynie), Pencader (Grwp Adfywio Pencader), Slash Pond, Broad Haven (Ymddiriedolaeth Ddatblygu Gymunedol Broad Haven) a Llandysul (Cyngor Cymuned Llandysul). Dechreuwyd gweithio hefyd ar amryw byd o baneli eraill i Gyngor Sir Caerfyrddin (Cil-y-cwm a Thalacharn), i Falchder Bro (Llanddeusant) ac i Gyngor Sir Penfro (Castell Arberth).

Darlithiau a Sgyrsiau

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, daliodd staff yr Ymddiriedolaeth i gyflwyno darlithiau a sgyrsiau i amrywiaeth mawr o gyrff, a chyflwynwyd papurau mewn amryw o weithdai a seminarau. Yn Chwefror 2004, trefnodd yr Ymddiriedolaeth ysgol undydd yng Nglanyfferi ar ran Cymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin i roi crynodeb o'r gwaith archaeolegol yn Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar. Cyflwynwyd papurau gan sawl aelod o staff yr Ymddiriedolaeth.

Yn ogystal, bu aelodau unigol o'r staff yn cynrychioli'r Ymddiriedolaeth yn uniongyrchol ac yn cyfrannu i weithgareddau nifer fawr o gyrff a grwpiau allanol ar y lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, megis: Cyngor Archaeoleg Prydain: Cymru; Cymdeithas Swyddogion Archaeolegol Llywodraeth Leol (ALGAO), ei His-Bwyllgor Arforol a'i Phwyllgor Cymru; Sefydliad yr Archaeolegwyr Maes, Cymru; Panel Archaeoleg Ddiwydiannol Cymru; Fforwm yr Amgylchedd Hanesyddol; Pwyllgor BA Coleg y Drindod, Caerfyrddin; Pwyllgor Ymgynghorol Adeiladwaith Eglwys Gadeiriol Tyddewi; y Gymdeithas Archaeoleg Eglwysi; Grw^ p Ymchwil a Chynghori Meysydd Tanio De Sir Benfro; Grw^ p Peirianneg Arfordirol Bae Caerfyrddin; Fforwm Arfordirol Sir Benfro; Grw^ p Ymgynghorol Castell Aberteifi; Grw^ p Llywio Balchder Bro; Grw^ p Llywio Ymlaen Dyffryn Tywi ac amrywiol gymdeithasau a grwpiau hanes ac archaeoleg yn genedlaethol ac yn lleol.

Arddangosfeydd, arddangosiadau a diwrnodau agored

Ochr yn ochr 'r cloddiadau uchel-eu-proffil a wnaed gan yr Ymddiriedolaeth yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd diwrnodau agored a chynhyrchwyd datganiadau i'r wasg a thaflenni newyddion er mwyn i'r cyhoedd gael cyfrannu o gyffro'r darganfyddiadau archaeolegol. Cynhyrchwyd pum bwletin i roi newyddion am y cloddio yng Nghastell Caerfyrddin a bu'r rheiny'n rhan o raglen ddehongli a gynhwysai banel gwybodaeth, teithiau tywys, cyfweliadau 'r cyfryngau a diwrnod agored i gyd-fynd Phenwythnos Cenedlaethol Archaeoleg. Hefyd, cafodd taflen newyddion ar y cloddio yng Nghastell Aberteifi ei chynhyrchu, a'i dosbarthu yn ystod y ddau ddiwrnod agored a gynhaliwyd ar y safle. Daeth dros 300 o bobl leol i'r diwrnod agored a gynhaliwyd ar ddiwedd y cloddio yng Nghwm Meudwy, Llandysul, a hynny ar l ymweliadau gan bum ysgol leol a Chymdeithas Hanes Llandysul. Denodd pob un o'r cloddiadau hyn sylw helaeth yn y cyfryngau gan ymddangos ar y newyddion ar y teledu a'r radio ac yn y wasg.

Darparodd yr Ymddiriedolaeth arddangosfeydd ac arddangosiadau ar yr Amgylchedd Hanesyddol mewn amryw o ddigwyddiadau cyhoeddus eraill, gan gynnwys y ffair yrfaoedd yng Nghaerfyrddin a drefnwyd gan Chwarae Teg, dau ddiwrnod o Ffair Hanes Lleol ym Maenor Scolton, a Ffair Hanes Lleol ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, a gawsai ei drefnu gan Fforwm Hanes Lleol Ceredigion. Unwaith eto, daeth yr Ymddiriedolaeth ac Amgueddfa Caerfyrddin ynghyd i gyflwyno diwrnod o weithgareddau a gwybodaeth fel rhan o Benwythnos Cenedlaethol Archaeoleg y CBA yng Ngorffennaf 2003. Bu i'r gweithgareddau gynnwys arddangosiad gan yr CAH a ffug-bwll cloddio. Bu hwnnw'n llwyddiant mawr ymhlith y plant gan iddo fod yn fodd iddynt faeddu eu dwylo ar archaeoleg 'go-iawn'. Darparodd yr Ymddiriedolaeth gymorth hefyd fel rhan o'r Time Team's Big Dig.

Adroddiadau a Chyhoeddiadau

Uchafbwynt y flwyddyn oedd cyhoeddi, fel Britannia Monograph, yr adroddiad ar y cloddiadau yng Nghaerfyrddin Rufeinig rhwng 1978 a 1993 gan Heather James. Mae'r adroddiad sylweddol hwnnw'n deyrnged i'r gwaith caled sydd wedi'i wneud gan Heather a'i thm dros y blynyddoedd. Lansiwyd y cyhoeddiad yn ffurfiol yn Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin ym mis Ionawr 2004.

Gwnaeth yr Ymddiriedolaeth sawl cyfraniad i gyfrol ddiweddaraf y Carmarthenshire Antiquary, gan gynnwys adroddiadau interim ar yr arolwg o Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol yn Sir Gaerfyrddin, darganfod Caer Rufeinig ym Mharc Dinefwr, Llandeilo, a'r cofnodi archaeolegol tymor-hir yng Nghastell Caerfyrddin. Gwnaed dau gyfraniad hefyd i'r arolwg o Archaeoleg Uwchdiroedd Cymru a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Yng Ngorffennaf 2003 fe gynhyrchwyd ail Newyddlen yr Ymddiriedolaeth, a ariannwyd fel rhan o grant curadurol Cadw, ac fe'i dosbarthwyd yn rhad ac am ddim i lyfrgelloedd ac unigolion a sefydliadau eraill ledled y rhanbarth.

Addysg a Chymorth Hyfforddi i Brifysgolion

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, fe secondiwyd Ken Murphy (y Prif Swyddog Archaeolegol, Gweithrediadau Maes) i gyfarwyddo'r gwaith o ddydd i ddydd ar gloddiad hyfforddi blynyddol Prifysgol Caerefrog yng Nghastell Henllys ger Trefdraeth yn Sir Benfro. Eleni, bu rhyw 60 o hyfforddeion wrthi'n cloddio. Yn eu plith, unwaith eto, yr oedd myfyrwyr o lu o wahanol rannau o'r byd. Daliodd yr Ymddiriedolaeth i gyfrannu i arolwg hyfforddi Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan. Bu i ymwneud yr Ymddiriedolaeth ag ef unwaith eto gynnwys cyflwyno'r myfyrwyr i ddefnyddio'r Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol a chymorth gyda hyfforddi o ran arolygu maes. Daliwyd i gynnig cyfleoedd ar gyfer lleoliadau myfyrwyr yn swyddfeydd yr Ymddiriedolaeth. Yn ystod y flwyddyn, bu i'r lleoliadau gynnwys myfyrwyr o amryw o ysgolion a cholegau lleol. Ar y cyd Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin, cynhaliodd yr Ymddiriedolaeth hefyd ddiwrnod o hyfforddiant mewn-swydd mewn hanes i gyflwyno'r cymorth y gall yr amgueddfa a'r CAH ei roi i athrawon hanes sy'n gweithio yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Y Wefan

Ailwampiwyd gwefan yr Ymddiriedolaeth yn llwyr yn ystod y flwyddyn gan ddarparu llawer mwy o wybodaeth, gan gynnwys Adolygiad Blynyddol yr Ymddiriedolaeth, newyddlen yr Ymddiriedolaeth a gwybodaeth am lu o brosiectau ychwanegol a ariannir gan ddatblygwyr a Cadw. Mae hyd a lled a safon y wybodaeth am y gwaith ar dirweddau hanesyddol yn arbennig o drawiadol gan fod y gwaith sy'n disgrifio nodweddion Tirwedd Hanesyddol Aberdaugleddau yn ymddangos am y tro cyntaf, diolch i gymorth ariannol gan Cadw. Yn ogystal, lluniwyd taflen i hysbysebu'r wefan.

Gwasanaethau Archaeolegol

Mae dwy elfen i'r Gwasanaethau Archaeolegol. Yn gyntaf, cynnal a datblygu Cofnod rhanbarthol yr Ymddiriedolaeth o Safleoedd a Henebion (CHA), a ariannir yn rhannol gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Yn ail, cynghori neu ddarparu Gwasanaethau Curadurol i awdurdodau unedol a chyrff statudol ac anstatudol eraill ynghylch diogelu a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol. Mae'r ddau wasanaeth yn cwmpasu tiriogaethau awdurdodau unedol Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin yn ogystal Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gan gynnwys lwfansau gorbenion, grant Cadw ar gyfer Gwasanaethau Curadurol oedd 123,438 (2002/2003: 119,620). Cafwyd cynnydd bach yng ngrant Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru i'r Cofnod rhanbarthol o Safleoedd a Henebion, sef 27,500 (o'i gymharu 27,000 y flwyddyn gynt).

Daliwyd i roi cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer darparu Cyngor ynghylch Cynllunio Archaeolegol (yn ogystal 'r cymorth grant gan Cadw) gan bedwar o Awdurdodau Cynllunio Lleol y rhanbarth, sef Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Ceredigion. Cyfanswm y cymorth hwnnw oedd 11,020. Mae'r Ymddiriedolaeth yn dal i fod yn ddiolchgar iawn i'r Awdurdodau Cynllunio am y cymorth hwn - cymorth a fydd yn sicrhau bod modd cynnal y lefel uchel o wasanaeth a roir gan yr Ymddiriedolaeth. Yn ystod y flwyddyn, bu i'r Ymddiriedolaeth gynnal Cyfarfod Archaeoleg: Cynllunio a fu'n gyfle i swyddogion cynllunio a staff yr Ymddiriedolaeth adolygu'r gwaith sy'n mynd yn ei flaen.

Bu i Cadw hefyd roi grant o 42,959 ar gyfer cyfraniad yr Ymddiriedolaeth i ddarpariaethau amgylchedd-hanesyddol Cynllun Amaeth- Amgylcheddol Tir Gofal Cymru-gyfan. Yn ogystal, darparodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru 55,020 i dalu cost ymweld detholiad o ffermydd.

Y Cofnod Rhanbarthol o Safleoedd a Henebion

Mae'r Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol yn gofnod ar bapur ac yn gronfa ddata gyfrifiadurol sy'n cynnwys manylion safleoedd a henebion archaeolegol, darganfyddion, ac adeiladau a thirweddau hanesyddol. Daliodd y staff cofnodi i fwydo data newydd iddo, gwneud gwaith cynnal arferol a gwaith datblygu arno, ac ymateb i ymholiadau mewnol ac allanol. Aeth y broses o ychwanegu 'digwyddiadau' (cloddiadau, arolygon, asesiadau pen-desg) at y Cofnod yn ei blaen ar hyd y flwyddyn.

Ar ddiwedd y flwyddyn, cyfanswm y cofnodion unigol oedd 38,364. Nifer y cofnodion ychwanegol a grwyd yn ystod y flwyddyn oedd 1,932. Mae'r cofnodion newydd hyn, a chyfoethogi'r cofnodion presennol, yn dal i fod yn ffrwyth prosiectau ymchwil ac ymchwiliadau'r Ymddiriedolaeth ei hun yn ogystal ag yn ffrwyth ffynonellau allanol. Ffynhonnell fawr newydd o wybodaeth, o hyd, yw cynllun amaeth- amgylcheddol Tir Gofal. Ychwanegir cryn wybodaeth newydd hefyd yn sgil archwiliadau'r Ymddiriedolaeth o dreftadaeth cymunedau.

Daliodd yr Ymddiriedolaeth i ymwneud chyfnewid data creiddiol phartneriaid eraill END (Cronfa Ddata Genedlaethol Estynedig Cymru). Delir i gyfnewid data ar ddwy lefel, sef ENDEX (data a ddefnyddir gan y partneriaid at ddibenion rheoli) a CARN (data sydd ar gael i'r cyhoedd ar y rhyngrwyd drwy wefan y Comisiwn Brenhinol). Cyfrannodd yr Ymddiriedolaeth at gwblhau Geirfa o Fathau o Safleoedd, sef geirfa genedlaethol ENDEX, sydd i'w defnyddio gan bartneriaid yr END. Mae ymrwymiad hefyd wedi'i wneud i godi'r CAH i Lefel Gyntaf y meincnodau a bennwyd gan ALGAO ac English Heritage ar gyfer Cofnodion am yr Amgylchedd Hanesyddol.

Swyddfa CAH yr Ymddiriedolaeth

Ar y cyd phrif gronfeydd data'r CHA, mae System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), sy'n defnyddio meddalwedd MapInfo, yn dal i fod yn brif arf yr is-adran Rheoli Treftadaeth.

Daliwyd i roi cymorth drwy grant curadurol Cadw i ddarparu gwybodaeth yn helaethach o'r CAH a datblygu gweithgareddau allgymorth. Darparwyd cymorth ychwanegol i'r CAH drwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Yr oedd y gwaith a wnaed fel rhan o'r trefniant hwn yn canolbwyntio ar ddarparu data i'r CAH a llunio disgrifiadau ar gyfer y safleoedd sydd wedi'u cofnodi yn y Parc.

Yr oedd i faterion sy'n ymwneud Chofnodion yr Amgylchedd Hanesyddol le amlwg yn yr Arolwg o Amgylchedd Hanesyddol Cymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. O ganlyniad, mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio gyda'i phartneriaid ar sefydlu Fframwaith Strategol ar gyfer Cofnodion sy'n Ymwneud ag Amgylchedd Hanesyddol Cymru. Un o'r materion a godwyd gan yr Arolwg oedd perchnogaeth CHAion a'u diogelwch tymor-hir. Caiff y cwestiwn hwn sylw hefyd gan yr Ymddiriedolaeth a'i phartneriaid. Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd wedi bod wrthi'n ystyried y dewisiadau ar gyfer cael llwyfan cyfrifiadurol digidol newydd i'r CAH a fydd yn fodd i gael mynediad ar-lein i'r cofnod.

Gwasanaethau Curadurol: Cynllunio

Mae'r agwedd hon ar waith yr Ymddiriedolaeth yn ymwneud yn bennaf thasgau rheoli datblygu, er bod rhai ymgynghoriadau ynghylch safleoedd archaeolegol yn dod o gyfeiriadau heblaw'r system gynllunio. Yn ystod y flwyddyn, rhoddwyd gwybod i'r Ymddiriedolaeth am 6,930 o geisiadau cynllunio (2002/2003: 6,190). Yr oedd angen gwerthuso manwl ar 698 ohonynt, a chymryd camau pellach mewn 228 o achosion, gan gynnwys cyflwyno argymhellion ynghylch asesiadau, gwerthusiadau neu waith cofnodi cyn i'r datblygu ddigwydd, neu orchwylion gwylio yn ystod y datblygu.

Mewn ymateb i geisiadau, daliodd Swyddog Rheoli Datblygu yr Ymddiriedolaeth i lunio briffiau, i gytuno ar fanylebau ac i wneud ymweliadau monitro. O ganlyniad i'r cyngor hwn, darperir rheolaeth archaeolegol ddigonol yn y mwyafrif llethol o achosion.

Yr oedd gwaith achos o bwys yn cynnwys nodi goblygiadau archaeolegol cynnig i godi datblygiad preswyl ar Fferm Priory, Monkton, datblygiad graddfa-fawr yn Aberteifi, a dymchwel hen Fragdy Buckley's yn Llanelli. Yn dilyn rhaglen helaeth o werthuso archaeolegol ar gyfer y pentref hamdden i Bluestone yng nghyffiniau Eglwys Gogledd Newton, argymhellwyd cysylltu amod wrth unrhyw ganiatd cynllunio lle'r oedd angen lleddfiad archaeolegol, gan gynnwys diogelu yn y fan a'r lle a diogelu drwy gofnod wahanol ddarnau tir sy'n cynnwys yr olion archaeolegol sydd wedi goroesi.

Daliwyd i ddarparu gwybodaeth a chyngor ynghylch materion rheoli treftadaeth y tu allan i'r fframwaith cynllunio lleol mewn perthynas choedwigaeth, trin safleoedd mwyngloddio metelau, safleoedd arfordirol a gweithrediadau amaethyddol. Cafwyd amryw byd o ymgynghoriadau unwaith eto ynghylch Cynllun Grantiau'r Coetiroedd. Ystyriwyd 117 o geisiadau ynghyd 28 lle'r oedd gofyn cyflwyno sylwadau pellach a pheth gweithredu pellach. Daliodd yr Ymddiriedolaeth i roi gwybodaeth a chyngor rheoli manwl i'r Fenter Coedwigaeth ar gyfer gwaith coedwig a Chynlluniau Rheoli Coedwigoedd. Bu i'r Ymddiriedolaeth hefyd ddarparu gwybodaeth a chyngor rheoli fel rhan o gynllun peilot i'r Comisiwn Coedwigaeth ar gyfer datblygu Cynlluniau Rheoli Coetiroedd.

Ymatebodd yr Ymddiriedolaeth hefyd i ymgynghoriadau gan ddiwydiannau gwasanaethu gan gynnwys 20 o Gynlluniau Cyfleustodau. Darparwyd gwybodaeth am 12 o Hysbysiadau Dileu Perthi ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, daliodd yr Ymddiriedolaeth, ar gais Cadw, i gyflwyno'i sylwadau ar Geisiadau am Ganiatd Henebion Cofrestredig.

Gwasanaethau Curadurol: Rheoli Treftadaeth

Gan ddilyn ymlaen o'r Adolygiad o'r Amgylchedd Hanesyddol, rhoddodd yr Ymddiriedolaeth ei sylwadau manwl i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar eu hymgynghoriad ynghylch Diogelu Asedau Hanesyddol yng Nghymru.

Mae'r Ymddiriedolaeth wedi bod yn awyddus i bwysleisio parhad y gydnabyddiaeth i'r dreftadaeth ddiwylliannol mewn unrhyw raglenni rheoli arfordirol integredig a bu'r staff mewn amryw byd o gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn i dynnu sylw at fuddiannau'r amgylchedd hanesyddol. Daliodd yr Ymddiriedolaeth i ddarparu mewnbwn i reoli Ystadau Hyfforddi y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Ne Sir Benfro drwy'r Grwp Cynghori a'r Tm Gweithredu Rheolaeth.

Yn ystod y Flwyddyn, bu modd i'r Ymddiriedolaeth ddod i gytundeb Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ynghylch darparu gwasanaeth llawer helaethach i gynghori ynghylch Rheoli Treftadaeth. Bydd hynny'n fodd yn ystod 2004/2005 i benodi Archaeolegydd y Parc, a gaiff ei gyflogi gan yr Ymddiriedolaeth.

Cyfrannodd yr Ymddiriedolaeth i'r ymgynghori ynghylch Cefn Gwlad Agored o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, ac ynghylch Strategaeth Cefn Gwlad Sir Gaerfyrddin ac i DEFRA ar yr Ymgynghoriad ynghylch cael Compendiwm o Safonau Organig. Yn ystod y flwyddyn, cafwyd ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel rhan o ddarpariaethau'r Gyfarwyddeb ar Asesu Effeithiau Amgylcheddol ar Dir Heb ei Drin a Darnau Tir Lled-Naturiol.

Daliodd yr Ymddiriedolaeth i roi cyngor i Bwyllgor Ymgynghorol Esgobaeth Tyddewi ynghylch hawlenni a'r Pwyllgor Ymgynghorol ar Adeiladwaith Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Mynychwyd cyfarfodydd i ymdrin yn benodol 'r cynigion ar gyfer Prosiect Clwysty Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Yn ystod y flwyddyn, dechreuodd yr Ymddiriedolaeth weithio ar Arolwg o Dref Hanesyddol Caerfyrddin gyda chymorth Cyngor Sir Caerfyrddin. Bydd rhan fawr o'r gwaith hwnnw'n golygu cynyddu'r CAH ar gyfer y dref, a datblygu System Wybodaeth Ddaearyddol i ganiatu cyflwyno cyngor manwl ynghylch rheoli'r amgylchedd hanesyddol. Yn ystod y flwyddyn, fe gynhyrchwyd adroddiad cychwynnol sy'n rhoi gorolwg o'r datblygiad hanesyddol ac adnodd archaeolegol Caerfyrddin.

Daliodd yr Ymddiriedolaeth i gyfranogi yn y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy, sef cynllun gwirfoddol i roi gwybod am ddarganfyddion archaeolegol a'u cofnodi.

Bwyell Neolithig o Drelech, Sir Gaerfyrddin a gofnodwyd fel rhan o'r cynllun Hynafiaethau Cludadwy

Tir Gofal

Mae'r Ymddiriedolaeth yn dal i fod yn gyfrifol am ddarpariaethau'r amgylchedd hanesyddol yng Nghynllun Amaeth-Amgylcheddol Tir Gofal yn y rhanbarth. Yn ystod y flwyddyn, a chyda chymorth cyllid gan Cadw, rhoes yr Ymddiriedolaeth wybodaeth i 323 o ymgynghoriadau fel rhan o'r broses o gyflwyno adroddiadau ar yr amgylchedd hanesyddol (HE1). Yn ystod y flwyddyn, hefyd, gwnaed 85 o ymweliadau a ariannwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Lluniwyd adroddiadau HE2 llawn ar 54 o'r ymweliadau hynny. Gwnaed gweddill y 31 o ymweliadau mewn ymateb i gais am argymhellion ar faterion penodol ynghylch rheoli'r amgylchedd hanesyddol. Rhoddwyd cyngor i 8 o ddarpar ymgeiswyr cyn y cyfnod ymgeisio.

Rhoddodd yr Ymddiriedolaeth gymorth ar gyfer diwrnod hyfforddi i swyddogion prosiect y Cyngor Cefn Gwlad yn Harlech i'w helpu i roi gwybodaeth am faterion rheoli ynghylch safleoedd archaeolegol. Yn dilyn arolwg y Cyngor Cefn Gwlad o ddarpariaethau a phrosesau cynllun Tir Gofal o ran yr amgylchedd hanesyddol, mae'r Ymddiriedolaeth wedi helpu i weithredu'r gweithdrefnau adrodd newydd. Y gobaith yw y bydd canlyniadau'r arolwg yn sicrhau y caiff yr amgylchedd hanesyddol ei gynrychioli'n helaethach yn y Cynlluniau Rheoli Ffermydd a gwblheir. O ganlyniad i'r newidiadau yn fformat y cytundebau rheoli ffermydd, mae staff yr Ymddiriedolaeth wedi diwygio'r ffordd y paratoir yr adroddiadau ar yr amgylchedd hanesyddol. Unwaith eto, dylai hyn sicrhau helaethach cynrychiolaeth i'r amgylchedd hanesyddol yn y cytundebau terfynol.

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]