Cartref > Amdanom Ni >

AROLWG O WEITHGAREDDAU'R YMDDIRIEDOLAETH YN YSTOD Y FLWYDDYN 2004-2005

Amcan hysbys yr Ymddiriedolaeth yw hybu addysg y cyhoedd mewn archaeoleg. Gwneir hynny drwy gynnal cloddiadau archaeolegol, gorchwylion gwylio ac arolygon; asesiadau a gwerthusiadau o dirweddau hanesyddol; ac arolygu a chofnodi adeiladau hanesyddol ac adeiladweithiau eraill. Lledaenir ffrwyth y gwaith mewn amryw o ffyrdd – drwy gyfrwng adroddiadau, cyhoeddiadau, newyddlenni, taflenni, gwefan yr Ymddiriedolaeth a phaneli sy’n dehongli hanes ac archaeoleg leol, a thrwy ddarlithiau a chyflwyniadau yn y cyfryngau. Mae’r Ymddiriedolaeth yn dal i ehangu ei gwaith gyda chymunedau i hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r hyn sydd o bwys yn lleol. Er bod yr Ymddiriedolaeth yn dal i weithredu’n bennaf yn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro, mae hi bellach yn ymgymryd hefyd â gweithgareddau maes mewn rhannau eraill o Gymru.

Fel un o’r pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol a sefydlwyd yng Nghymru yn ystod y 1970au, yr Ymddiriedolaeth sy’n cynnal y Cofnod rhanbarthol o Safleoedd a Henebion (CHA) ar gyfer hen sir Dyfed, ac mae’n dal i gynghori’r tri awdurdod unedol, sef siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro, ynghylch diogelu a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol. Darperir gwasanaethau hefyd i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac amrywiaeth o gyrff statudol ac anstatudol eraill. Maes o bwys yng ngweithgarwch yr Ymddiriedolaeth erbyn hyn yw darparu cyngor i gynllun amaeth-amgylcheddol Tir Gofal. Ymgymerwyd â chyfanswm o 129 o brosiectau gwahanol yn ystod y flwyddyn, ac mae llawer ohonynt yn dal i fynd yn eu blaen.

Ymchwil ac Ymchwiliadau

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, fe ymgymerwyd ag amrywiaeth mawr o brosiectau yn ystod y flwyddyn. Yn eu plith yr oedd asesiadau o fygythiadau fel rhan o fentrau ledled Cymru a ariannwyd gan CADW: Henebion Cymru. Fel rhan o’r Asesiad o Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol, a ariannir gan Cadw, cwblhawyd adroddiad ar y gwaith maes yn Sir Benfro ac fe symudodd y gwaith maes i dde Ceredigion.

Yn dilyn cwblhau’r Asesiad, a ariannwyd gan Cadw, o Safleoedd Eglwysig Canoloesol Cynnar, dechreuwyd gweithio ar asesu Meini Cerfiedig Canoloesol Cynnar sydd mewn Perygl. Yr amcan oedd tynnu sylw at y gwaith posibl a fyddai’n sicrhau dyfodol tymor-hir henebion sy’n wynebu problemau arbennig.

Am y tro cyntaf, cyfrannodd yr Ymddiriedolaeth hefyd i ddau brosiect pellach a ariannir gan Cadw ledled Cymru. Yr oedd y flwyddyn gyntaf o’r Asesiad o Lociau Amddiffynedig Cynhanesyddol yn waith pen-desg, ac mae’r asesiad o 1079 o safleoedd wedi’i gofnodi ar y Cofnod Rhanbarthol o Safleoedd a Henebion ar hyn o bryd. Prosiect cysylltiedig oedd cam cyntaf y rhaglen ymchwilio i grwp o Lociau Petryal ag Ôl Cnydau y sylwyd arnynt ar awyrluniau o dde Ceredigion a gogledd Sir Benfro. Ymgymerwyd â’r prosiect hwn, a ariannir gan Cadw, gyda chymorth Prifysgol Caerefrog, ac yr oedd yn cynnwys gwneud arolwg geoffisegol a thopograffig o safleoedd wyth lloc.

Yr ail brosiect Cymru-gyfan newydd oedd asesu’r dystiolaeth o’r Fyddin Rufeinig, gan gynnwys Caerau, Ficysau a Ffyrdd. Astudiodd blwyddyn gyntaf yr arolwg hwn lwybrau hysbys y ffyrdd Rhufeinig ledled de-orllewin Cymru a gwnaed arolwg geoffisegol o ran o’r gaer a’r ficws yn Llanymddyfri.

Yn dilyn darganfod llwybr pren yn Llangynfelyn, ger Tal-y-bont, ariannodd Cadw gloddiad achub o ran ohono a fygythiwyd gan broses o barhau i ddraenio’r tir. Cafwyd cymorth pellach gan Brifysgol Birmingham. Awgrymodd y dadansoddiad dendrocronolegol ddyddiad rhwng diwedd yr 11eg ganrif a dechrau’r 12fed ganrif OC ar gyfer adeiladu’r llwybr. Ond yr oedd y llwybr yn gorwedd dros ddyddodion diwydiannol helaeth sef, o bosibl, sgil-gynhyrchion mwyndoddi plwm mewn cyfnod cynharach.

Cloddio’r llwybr pren yn Llangynfelyn

Cloddio’r llwybr pren yn Llangynfelyn

Bu i Cadw, ynghyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, hefyd ariannu cloddio crug crwn yn Fan Foel ar gopa’r Mynydd Du – safle yr oedd difrod gan ymwelwyr ac erydiad yn fygythiad iddo. Mewn cistfaen claddu cyflawn yng nghanol yr heneb yr oedd Llestr Fwyd gyfan o’r Oes Efydd a sawl arteffact o gallestr sy’n gysylltiedig ag amlosgiadau.

Ymgymerodd yr Ymddiriedolaeth ag amrywiaeth o brosiectau i gleientiaid eraill – yn ddatblygwyr cyhoeddus a phreifat, awdurdodau unedol, asiantaethau’r llywodraeth, cyrff gwirfoddol ac ymgynghorwyr. Gwnaed y mwyafrif ohonynt yn siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion. Yr oedd y prosiectau’n cynnwys cloddiadau, gwaith cofnodi adeiladau, a gorchwylion gwylio a oedd yn aml yn amod caniatâd cynllunio. Mae rhestr lawn o’r prosiectau i’w gweld yn Atodiad C.

Y prosiect mwyaf yr ymgymerwyd ag ef yn ystod y flwyddyn cyn i ddatblygiad mawr gael ei weithredu oedd hen Burfa Olew Esso ger Aberdaugleddau. Fe’i cynhaliwyd ar ran RPS Group Ccc cyn i’r safle gael ei ailddatblygu ar gyfer terfynell i nwy naturiol hylifedig. Dangosodd gwerthusiad cychwynnol y bu yno gymhlyg diwydiannol a oedd yn gysylltiedig â dyddiadau radiocarbon o’r Oesoedd Canol cynnar. Erbyn diwedd y flwyddyn, yr oedd y prosiect wedi troi’n gloddiad mawr a chafwyd hyd i dystiolaeth o sychwyr grawn ac o weithio metelau, ac mewn rhan arall o’r datblygiad, cafwyd palaeosianel a oedd yn gysylltiedig â phren a mawn, ac iddi ddyddiad radiocarbon o ganol yr Oes Efydd.

Ymgymerwyd â chloddiad llai ei faint, ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn y fynwent ganoloesol gynnar ym Mae Longoar gerllaw. Mae’r safle’n wynebu bygythiad cyson oherwydd erydu’r glannau, ac amcan yr ymchwiliad oedd asesu maint y cymhlyg er mwyn datblygu cynllun rheoli integredig ar gyfer y safle.

Gwnaed sawl asesiad a gwerthusiad archaeolegol pen-desg cyn i benderfyniadau cynllunio gael eu gwneud. Yn eu plith yr oedd gwerthusiad maes yn Hen Ysgol Ramadeg Caerfyrddin ar gyfer partneriaeth Regan Norris. Yr oedd yr ysgol ar ymyl dde-ddwyreiniol y dref Rufeinig a chafwyd tystiolaeth bosibl o fur cyffin Priordy Sant Ioan yno. Ym Mhwll-hai, Ceredigion gwnaed asesiad pen-desg ar gyfer Eatonfield Holdings fel cam cyntaf ymchwiliad mewn cysylltiad â chynnig i ailddatblygu rhan helaeth o ganol tref Aberteifi.
Cynhaliwyd prosiectau cofnodi adeiladau ar sawl safle yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys Gwaith Haearn Stepaside a Chastell Arberth yn Sir Benfro. Gwnaed y ddau ddarn o waith ar ran Cyngor Sir Penfro cyn i unrhyw gyfnerthu pellach ddigwydd ar yr adeiladwaith sydd wedi goroesi.

Ymhlith arolygon cyffredinol eraill a wnaed dros Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yr oedd parhau i Fonitro Arfordir Rhynglanwol Sir Benfro, arolwg ar droed o Goedlannau Pengelli a Phenpedwast ac arolwg o’r tir uwchlaw Harbwr Wdig ar ôl tân sylweddol yno. Yr oedd y gwaith ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnwys astudiaeth pen-desg o Gwar Herbert, darn o dir ar y Mynydd Du lle’r arferid cloddio am garreg galch.

Yr oedd sawl darn o waith maes yn gysylltiedig â chynlluniau ffyrdd. Yn eu plith, yr oedd asesu llwybrau newydd arfaethedig yr A477 o Sanclêr i Ros-goch ar gyfer W S Atkins, a chwblhau asesiad a gwerthusiad ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin cyn i Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol Porth Tywyn gael ei hadeiladu. Cynhaliwyd gorchwyl gwylio ar gyfer Parsons Brinkerhoff ar ddarn newydd arall o’r A477 rhwng Nash a Bangeston. Cafwyd hyd i dystiolaeth o aelwyd ganoloesol gynnar.

Y prosiect mwyaf y tu allan i’r rhanbarth oedd gwneud arolwg o’r llwybrau cerdded hanesyddol yn Piercefield, Cas-gwent ar ran Ardal o Harddwch Naturiol Arbennig Dyffryn Gwy. Yr oedd hynny’n cynnwys digido hen fapiau AO a gwneud arolwg ar droed o’r dirwedd bictwrésg o ddiwedd y 18fed ganrif.

Yr oedd prosiectau mewn rhannau eraill o Gymru yn cynnwys asesiadau cyn-penderfynu yng Nghastell Llandochau Fach ym Mro Morgannwg ar gyfer Peter Jenkins Penseiri ac yn Pengam Green, Bae Caerdydd ar gyfer Wyn Thomas Gordon Lewis, a gwerthusiad cyn i ffordd osgoi gael ei hadeiladu yn Four Crosses, Y Trallwng ar gyfer Cyngor Sir Powys.

Arolygu’r llwybrau cerdded hanesyddol uwchlaw Afon Gwy yn Piercefield

Arolygu’r llwybrau cerdded hanesyddol uwchlaw Afon Gwy yn Piercefield

 

Addysgu a chyhoeddi

Mae holl ymchwil ac ymchwiliadau archaeolegol yr Ymddiriedolaeth yn cyfrannu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol at feithrin ymwybyddiaeth o amgylchedd hanesyddol Cymru. Er hynny, mae amryw o brosiectau a gweithgareddau’r Ymddiriedolaeth wedi’u hanelu’n benodol at hybu’r ymwybyddiaeth honno. Mae Strategaeth Allgymorth yr Ymddiriedolaeth yn dal i gyfrannu at gyflawni amcan elusennol sylfaenol yr Ymddiriedolaeth, sef addysgu’r cyhoedd mewn archaeoleg, a’i rôl wrth hybu’r amgylchedd hanesyddol fel un o asedau pennaf Cymru.

Y Dreftadaeth Gymunedol

Mae’r Ymddiriedolaeth yn dal i gydnabod yr angen i hyrwyddo a dehongli’r amgylchedd hanesyddol ar lefel y gymuned leol. Fel o’r blaen, cydweithiodd yr Ymddiriedolaeth â mentrau cymunedol megis Antur Cwm Taf a Thywi (ACTT) a Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro dros Fenter a Datblygu (PLANED –SPARC gynt). Paratowyd a dosbarthwyd Taflen Treftadaeth Gymunedol sy’n tynnu sylw at y gwasanaethau y mae’r Ymddiriedolaeth yn eu darparu i helpu cymunedau i gynnal mentrau treftadaeth.

Cwblhawyd sawl archwiliad o dreftadaeth cymunedau ar sail cynnwys y Cofnod rhanbarthol o Safleoedd a Henebion (CHA) ac ymgynghori â’r cymunedau. Yn eu plith yr oedd prosiectau ar gyfer Cyngor Cymuned Llandre, ar gyfer Balchder Bro yn Llangadog ac ar gyfer Symud Ymlaen yn Llangeler. Gwnaed cyflwyniad ym mis Chwefror i lansio cynnig i ddatblygu Cynllun Dehongli Treftadaeth Tref Llandeilo ar ran Cyngor Tref Llandeilo Fawr. Gwnaed gwaith ar raglen ymchwil y câi ei ffrwyth ei fwydo i’r broses o lunio testun 13 o daflenni am lwybrau cerdded a gâi eu paratoi gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae darparu paneli dehongli treftadaeth, a baratowyd gan yr Ymddiriedolaeth, yn dal i fod yn agwedd bwysig ar hyrwyddo’r amgylchedd hanesyddol yn y rhanbarth. Cwblhawyd y gwaith ar baneli ar gyfer Cil-y-cwm, Talacharn, Llangennech a Chapel Ty Isha Road (oll ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin), pedwar panel ar gyfer Llanddeusant (Balchder Bro), tri ar gyfer Castell Arberth (Cyngor Sir Penfro) ac un ar gyfer Pencader (Grwp Adfywio Pencader).

Dechreuwyd gweithio hefyd ar baneli ar gyfer Parc Coetir Mynydd Mawr, Llanfynydd, Llanybydder, Cenarth a Llwybrau Cerdded Treftadaeth Aman a Llwchwr (Cyngor Sir Caerfyrddin), Llantrisant (Cyngor Tref Llantrisant) a Bedd Taliesin (Cyngor Cefn Gwlad Cymru).

Darlithiau a Sgyrsiau

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, daliodd staff yr Ymddiriedolaeth i gyflwyno darlithiau a sgyrsiau i amrywiaeth mawr o gyrff, a chyflwynwyd papurau mewn amryw o weithdai a seminarau. Ym mis Tachwedd 2004, trefnodd yr Ymddiriedolaeth ysgol undydd yn Hwlffordd ar y cyd â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro i roi crynodeb o’r gwaith archaeolegol diweddar yn Sir Benfro. Cyflwynodd sawl aelod o staff yr Ymddiriedolaeth bapurau a chafwyd cynulleidfa dda o 120. Y bwriad, bellach, yw ei droi’n ddigwyddiad blynyddol. Cyflwynwyd papur ar ffrwyth yr Asesiad o Eglwysi Canoloesol Cynnar a ariannwyd gan Cadw, i gynhadledd a gynhaliwyd ym Mangor ar eglwysi Celtaidd o’r Oesoedd Canol cynnar.

Yn ogystal, bu aelodau unigol o’r staff yn cynrychioli’r Ymddiriedolaeth yn uniongyrchol ac yn cyfrannu i weithgareddau nifer fawr o gyrff a grwpiau allanol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol, megis: Cymdeithas Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Cyngor Archaeoleg Prydain, Cymru; Cymdeithas Swyddogion Archaeolegol Llywodraeth Leol (ALGAO), ei His-Bwyllgor Arforol a’i Phwyllgor Cymru; Pwyllgor Sefydliadau Archaeolegol Cofrestredig Sefydliad yr Archaeolegwyr Maes; Panel Archaeoleg Ddiwydiannol Cymru; Grwp Amgylchedd Hanesyddol Cymru; Pwyllgor Ymgynghorol Esgobaeth Tyddewi; Pwyllgor Ymgynghorol Adeiladwaith Eglwys Gadeiriol Tyddewi; y Gymdeithas Archaeoleg Eglwysi; Grwp Ymchwil ac Ymgynghorol Meysydd Tanio De Sir Benfro; Grwp Peirianneg Arfordirol Bae Caerfyrddin; Fforwm Arfordirol Sir Benfro; Partneriaeth Arfordirol ac Arforol Cymru; Grwp Ymgynghorol Castell Aberteifi; Grwp Llywio Balchder Bro; Grwp Llywio Ymlaen Dyffryn Tywi; Pwyllgor Gwaith Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin; ac amrywiol gymdeithasau a grwpiau hanes ac archaeolegol.

Arddangosfeydd, arddangosiadau a diwrnodau agored

Ochr yn ochr â’r cloddio yn Llangynfelyn cynhaliwyd rhaglen helaeth o allgymorth yno. Trefnwyd i bob ysgol gynradd leol, a’r Clwb Archaeolegwyr Ifanc o Aberystwyth, ymweld â’r cloddiad. Denodd diwrnod agored cyhoeddus rai cannoedd o ymwelwyr lleol. Cafodd y cloddiad sylw helaeth hefyd yn y cyfryngau ac fe’i dangoswyd ar y newyddion ar y teledu a’r radio ac yn y wasg.

Plant ysgol adeg eu hymweliad â’r cloddiadau yn Llangynfelyn

Plant ysgol adeg eu hymweliad â’r cloddiadau yn Llangynfelyn

Darparodd yr Ymddiriedolaeth arddangosfeydd ac arddangosiadau ar yr Amgylchedd Hanesyddol mewn amryw o ddigwyddiadau cyhoeddus eraill, gan gynnwys Gwyl Llandeilo, Ffair Yrfaoedd Prifysgol Llanbedr Pont Steffan a Ffair Yrfaoedd Llanelli a drefnwyd gan Gyrfa Cymru.

Unwaith eto, daeth yr Ymddiriedolaeth ac Amgueddfa Caerfyrddin ynghyd i gyflwyno diwrnod o weithgareddau a gwybodaeth fel rhan o Benwythnos Cenedlaethol Archaeoleg y CBA ym mis Gorffennaf 2004. Ymhlith y gweithgareddau yr oedd grwp ail-greu canoloesol, ‘Sioe Ffordd’ gan yr CAH ac amrywiaeth o weithgareddau i blant. Arweiniodd Archaeolegydd Parc Cenedlaethol Penfro deithiau tywys archaeolegol o gwmpas Penmaendewi ac archaeoleg y Maes Tanio Gorllewinol, Castellmartin.

Adroddiadau a Chyhoeddiadau

Cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth lyfryn poblogaidd ar ran Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dan y teitl ‘Y Mynydd Du - 7000 o flynyddoedd o hanes’.

Cyfrannodd yr Ymddiriedolaeth sawl tro i amrywiol gylchgronau academaidd, gan gynnwys adroddiad interim ar ganlyniadau’r cloddio yn Fan Foel i’r Carmarthenshire Antiquary ac ar ganlyniadau’r Asesiad o Safleoedd Eglwysig Canoloesol Canol yn Church Archaeology.

Yng Ngorffennaf 2004 fe gynhyrchwyd trydedd Newyddlen yr Ymddiriedolaeth, a ariannwyd fel rhan o grant curadurol Cadw, ac fe’i dosbarthwyd yn rhad ac am ddim i lyfrgelloedd ac unigolion a sefydliadau eraill ledled y rhanbarth.

Addysg a Chymorth Hyfforddi i Brifysgolion

Bu dau aelod o’r staff ynghlwm wrth gloddiad hyfforddi blynyddol Prifysgol Caerefrog yng Nghastell Henllys a Fferm Henllys, ger Trefdraeth, Sir Benfro. Unwaith eto, daeth hyfforddeion a myfyrwyr o bob rhan o Brydain, a llawer o wahanol rannau eraill o’r byd, yno i gloddio. Bu cloddiad yr Ymddiriedolaeth yn Llangynfelyn yn gyfle i hyfforddi 20 myfyriwr o Sefydliad Archaeoleg a’r Henfyd ym Mhrifysgol Birmingham.

Daliwyd i ddarparu cyfleoedd i leoliadau myfyrwyr yn swyddfeydd yr Ymddiriedolaeth. Yn ystod y flwyddyn, bu i’r lleoliadau hynny gynnwys myfyrwyr o amryw o ysgolion a cholegau lleol.

Y Wefan

Mae gwefan yr Ymddiriedolaeth yn dal i ddatblygu ac fe ychwanegir yn gyson ati. Datblygiad arloesol yn ystod y flwyddyn oedd ‘dyddiadur cloddio’, a roddai’r wybodaeth ddiweddaraf yn ddyddiol, ynghyd â ffotograffau, o gloddiad yr Ymddiriedolaeth yn Llangynfelyn. Bu’n llwyddiant aruthrol a gwelwyd cryn gynnydd yn nifer yr ymwelwyr â’r wefan tra oedd y dyddiadur hwnnw i’w weld arni.

Mae maint y wybodaeth ar y wefan am y gwaith ar y tirweddau hanesyddol yn dal i dyfu, ac mae’r gwaith ar ddisgrifio nodweddion Tirwedd Hanesyddol Uwchdir Ceredigion yn ymddangos am y tro cyntaf gyda chymorth cyllid gan Cadw. Ochr yn ochr â hynny lluniwyd taflen i hysbysebu’r wefan.

Gwasanaethau Archaeolegol

Mae dwy elfen i’r Gwasanaethau Archaeolegol. Yn gyntaf, cynnal a datblygu Cofnod rhanbarthol yr Ymddiriedolaeth o Safleoedd a Henebion (CHA), a ariannir yn rhannol gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Yn ail, cynghori neu ddarparu Gwasanaethau Curadurol i awdurdodau unedol a chyrff statudol ac anstatudol eraill ynghylch diogelu a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol. Mae’r ddau wasanaeth yn cwmpasu tiriogaethau awdurdodau unedol Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin yn ogystal â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gan gynnwys lwfansau gorbenion, y grant gan Cadw ar gyfer Gwasanaethau Curadurol oedd £128,671 (2003/2004: £123,438). Y grant sylfaenol a ddarparwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i’r Cofnod rhanbarthol o Safleoedd a Henebion oedd £27,500 eleni eto.

Mae’r Ymddiriedolwyr yn falch iawn o ddweud bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro bellach yn darparu cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer cynghori ynglyn â’r Amgylchedd Hanesyddol o ran rheoli a hyrwyddo archaeoleg Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Yn ystod y flwyddyn, cyfanswm y cymorth hwnnw oedd £30,168 a bu’n fodd i gyflogi Archaeolegydd i’r Parc.

Daliwyd i roi cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer darparu Cyngor ynghylch Cynllunio Archaeolegol (yn ogystal â’r cymorth grant gan Cadw) gan bedwar o Awdurdodau Cynllunio Lleol y rhanbarth: Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Ceredigion. Cyfanswm y cymorth hwnnw oedd £11,350. Mae’r Ymddiriedolaeth yn dal i fod yn ddiolchgar iawn i’r Awdurdodau Cynllunio am y cymorth hwn - cymorth a fydd yn sicrhau bod modd cynnal y lefel uchel o wasanaeth a roir gan yr Ymddiriedolaeth.

Bu i Cadw hefyd roi grant o £40,392 ar gyfer cyfraniad yr Ymddiriedolaeth i ddarpariaethau amgylchedd-hanesyddol Cynllun Amaeth- Amgylcheddol Tir Gofal Cymru-gyfan. Darparwyd rhagor o gyllid gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru i dalu cost ymweld â detholiad o’r ffermydd sy’n perthyn i’r cynllun.

Gwirfoddolwyr wrthi'n gweithio gydag Archaeolegydd Parc Cenedlaethol Penfro i symud carnedd ymweld yng Ngharn Ingli

Gwirfoddolwyr wrthi’n gweithio gydag Archaeolegydd Parc Cenedlaethol Penfro i symud carnedd ymweld yng Ngharn Ingli

Y Cofnod Rhanbarthol o Safleoedd a Henebion

Mae’r Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol yn gofnod ar bapur ac yn gronfa ddata ddigidol sy’n cynnwys manylion safleoedd archaeolegol a henebion, darganfyddion, ac adeiladau a thirweddau hanesyddol. Daliodd y staff cofnodi i fwydo data newydd iddo, gwneud gwaith cynnal arferol a gwaith datblygu arno, ac ymateb i ymholiadau mewnol ac allanol. Parhawyd â’r broses o ychwanegu ‘digwyddiadau’ (cloddiadau, arolygon, asesiadau pen-desg) at y Cofnod ar hyd y flwyddyn.

Ar ddiwedd y flwyddyn, cyfanswm y cofnodion unigol oedd 39,147. Nifer y cofnodion ychwanegol a grëwyd yn ystod y flwyddyn oedd 783. Cafwyd llawer o’r cofnodion newydd hyn, ac ychwanegiadau at y cofnodion presennol, o brosiectau ymchwil ac ymchwiliadau’r Ymddiriedolaeth ei hun yn ogystal ag o ffynonellau allanol. Mae cynllun amaeth- amgylcheddol Tir Gofal yn dal i fod yn ffynhonnell fawr newydd o wybodaeth.

Cafwyd cytundeb rhwng Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru ac Oxford Arch Digital i ddatblygu llwyfan meddalwedd newydd ar gyfer yr CHAion. Bydd y system newydd hon, a elwir yn TOAD HMS (The Oxford Arch Digital Heritage Management System), yn trawsffurfio’r ffordd y rheolir y cofnod ac yn hwyluso llawer iawn ar fynediad y cyhoedd i’r data creiddiol drwy wefan yr Ymddiriedolaeth. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi sefydlu Cronfa Ddynodedig o £25,000 i dalu cost y fenter hon. Mae cymorth o £3,660 hefyd wedi’i ddarparu drwy gyfrwng Grant Datblygu Busnes gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Daliodd yr Ymddiriedolaeth i ymwneud â chyfnewid data creiddiol â phartneriaid eraill END (Cronfa Ddata Genedlaethol Estynedig Cymru). Delir i gyfnewid data ar ddwy lefel: ENDEX (y data a ddefnyddir gan y partneriaid at ddibenion rheoli) a CARN (y data a ddarperir i’r cyhoedd ar y rhyngrwyd drwy wefan y Comisiwn Brenhinol). Mae’r gwaith ar godi’r CAH i’r meincnodau lefel-gyntaf a bennwyd gan ALGAO ac English Heritage ar gyfer Cofnodion yr Amgylchedd Hanesyddol bron â chael ei gwblhau.

Mae System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), sy’n defnyddio meddalwedd MapInfo, yn dal i fod yn brif arf yr is-adran Rheoli Treftadaeth, a hynny ar y cyd â phrif gronfeydd data’r CHA.

Daliwyd i roi cymorth drwy grant curadurol Cadw i ddarparu gwybodaeth yn helaethach o’r CAH a datblygu gweithgareddau allgymorth. Darparwyd cymorth ychwanegol i’r CAH gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Daliodd y gwaith a wnaed fel rhan o’r trefniant hwn i ganolbwyntio ar ddarparu data i’r CAH a llunio disgrifiadau o’r safleoedd a gofnodwyd yn y Parc.

Daliodd yr Ymddiriedolaeth i fynychu cyfarfodydd â’i phartneriaid i weithio at y cyrchnodau a amlinellwyd yn y Fframwaith Strategol ar gyfer Cofnodion sy’n Ymwneud ag Amgylchedd Hanesyddol Cymru. Mae un o’r cyrchnodau’n ymwneud â pherchnogaeth CHAion a’u diogeledd tymor-hir. Mae’r Ymddiriedolaeth a’i phartneriaid wrthi’n ymchwilio i’r posibilrwydd o sefydlu ymddiriedolaethau gwahanol i bob CHA, a phob un o Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru yn gweithredu fel unig ymddiriedolwr corfforaethol Ymddiriedolaeth ei CHA.

Gwasanaethau Curadurol: Cynllunio

Mae’r agwedd hon ar waith yr Ymddiriedolaeth yn ymwneud yn bennaf â thasgau rheoli datblygu, er bod rhai ymgynghoriadau ynghylch safleoedd archaeolegol yn dod o fannau sydd y tu allan i’r system gynllunio. Yn ystod y flwyddyn, rhoddwyd gwybod i’r Ymddiriedolaeth am 7,023 o geisiadau cynllunio (2003/2004: 6,930). Yr oedd angen gwerthuso manwl ar 1,546 ohonynt, a chymryd camau pellach mewn 230 o achosion, gan gynnwys cyflwyno argymhellion ynghylch asesiadau, gwerthusiadau, cloddiadau neu waith cofnodi cyn i’r datblygu ddigwydd, neu orchwylion gwylio yn ystod y datblygu. Ar dri achlysur, argymhellwyd gwrthod am resymau archaeolegol.

Mewn ymateb i geisiadau, daliodd Archaeolegydd Cynllunio’r Ymddiriedolaeth i lunio briffiau, i gytuno ar fanylebau ac i wneud ymweliadau monitro. O ganlyniad i’r cyngor hwnnw, darperir rheolaeth archaeolegol ddigonol yn y mwyafrif llethol o achosion erbyn hyn.

Yr oedd gwaith achos o bwys yn cynnwys nodi goblygiadau archaeolegol cynnig i adeiladu datblygiad preswyl a ffordd osgoi yn Monkton, Sir Benfro, pentref hamdden arfaethedig Bluestone yn Canaston Bridge, Arberth a datblygiad mawr, a gynhwysai siopau a thai, yn Aberteifi. Mae’r gwaith achos newydd wedi cynnwys datblygu’r derfynell Nwy Naturiol Hylifedig yn Herbrandston, Aberdaugleddau. Mater cynllunio o bwys yw’r cynnydd amlwg yn nifer y ceisiadau i godi ffermydd gwynt yn y rhanbarth. Mae’r Ymddiriedolaeth yn poeni am na chytunwyd hyd yn hyn ar fethodoleg i asesu effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol y cynlluniau hynny ar dirweddau hanesyddol sydd heb eu cofrestru.

Daliwyd i ddarparu gwybodaeth a chyngor ynghylch materion rheoli treftadaeth y tu allan i’r fframwaith cynllunio lleol mewn perthynas â choedwigaeth, trin safleoedd mwyngloddio metelau, safleoedd arfordirol a gweithrediadau amaethyddol. Cafwyd amryw byd o ymgynghoriadau unwaith eto ynghylch Cynllun Grantiau’r Coetiroedd. Ystyriwyd 88 o geisiadau ynghyd â 29 lle’r oedd gofyn cyflwyno sylwadau pellach a pheth gweithredu pellach. Daliodd yr Ymddiriedolaeth i roi gwybodaeth a chyngor rheoli manwl i’r Fenter Goedwigaeth ar gyfer gwaith coedwig a Chynlluniau Rheoli Coedwigoedd.
Ymatebodd yr Ymddiriedolaeth hefyd i ymgynghoriadau gan ddiwydiannau gwasanaethu, gan gynnwys 48 o gynlluniau gan Dwr Cymru/Welsh Water yn unig. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi ymwneud yn weithgar â darparu cyngor ynglyn â’r cynnig i adeiladu prif bibell fawr newydd gan Transco o Aberdaugleddau i Aberdulais. Gan fod y llwybr arfaethedig yn 120km o hyd a bod iddo led gweithio o 50m, dyma un o’r datblygiadau mwyaf yn y rhanbarth yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Darparwyd gwybodaeth am 9 o Hysbysiadau Dileu Perthi ar gyfer siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, daliodd yr Ymddiriedolaeth, ar gais Cadw, i gyflwyno’i sylwadau ar Geisiadau am Ganiatâd Henebion Cofrestredig.

Gwasanaethau Curadurol: Rheoli Treftadaeth

Gan ddilyn ymlaen o’r Adolygiad o’r Amgylchedd Hanesyddol, bu Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth yn bresennol yng nghyfarfod cychwynnol Grwp yr Amgylchedd Hanesyddol, sef grwp ymgynghorol a sefydlwyd gan y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon i gynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch camau a fydd o les i amgylchedd hanesyddol Cymru ac yn ei hyrwyddo.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn dal i ymateb i ymgynghoriadau ynghylch amrywiaeth o faterion sy’n berthnasol i’r amgylchedd hanesyddol. Yn eu plith, yn ystod y flwyddyn, yr oedd y drafft cyntaf o’r Strategaeth Amgylcheddol ar gyfer Cymru, ymgynghoriad ledled y wlad ynghylch gwarchod Amgylchedd Hanesyddol y Môr a’r Adolygiad o’r Eithriadau Eglwysig.

Ar lefel fwy lleol, mae’r Ymddiriedolaeth wedi ymwneud yn weithgar â Phartneriaeth Tirwedd Ymlaen Dyffryn Tywi sy’n ceisio datblygu prosiect cadwraeth fawr ar gyfer tirwedd Dyffryn Tywi.

Un o dasgau cyntaf Archaeolegydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro oedd datblygu strategaeth ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol y Parc. Mae’r gwaith wedi dechrau ar raglen o weithio ar Henebion Cofrestredig yn y Parc, gyda chymorth gwirfoddolwyr lleol, gan gynnwys tynnu carnedd ymweld ym mryngaer Carn Ingli ac atgyweirio gwrthglawdd crug Crow Back, sef crug o’r Oes Efydd, a chaer bentir Flimston Bay o’r Oes Haearn. Mae drafft o gynlluniau rheoli hefyd wedi’i lunio ar gyfer yr henebion cofrestredig ar faes tanio milwrol Castellmartin.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn dal i roi cyngor i Bwyllgor Ymgynghorol Esgobaeth Tyddewi ynghylch hawlenni a’r Pwyllgor Ymgynghorol ar Adeiladwaith Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Cynhaliwyd trafodaethau gyda’r Pwyllgor cyntaf ynghylch gwella’r gweithdrefnau er mwyn rhoi sylw llawn i faterion archaeolegol fel rhan o’r broses o drafod hawlenni. Cafodd siart llif ar gyfer Archaeoleg a’r Broses Hawlenni ei fabwysiadu’n ffurfiol.

Daliodd yr Ymddiriedolaeth i gyfranogi yn y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy, sef cynllun gwirfoddol i roi gwybod am ddarganfyddion archaeolegol a’u cofnodi.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn dal i fod yn gyfrifol am ddarpariaethau’r amgylchedd hanesyddol yng nghynllun amaethyddol ac amgylcheddol Tir Gofal yn y rhanbarth. Yn ystod y flwyddyn, a chyda chymorth cyllid gan Cadw, rhoes yr Ymddiriedolaeth gyngor i 297 o ymgynghoriadau fel rhan o’r broses o lunio adroddiad ar yr amgylchedd hanesyddol (HE1). Bellach, mae amryw o ffermydd yn cyrraedd pwynt pum-mlynedd eu cytundebau. Mewn llawer achos, bydd cyfle iddynt ddod â pharseli ychwanegol o dir i mewn i’r cynllun. Bydd hynny’n golygu llunio rhagor o adroddiadau HE1.

Yn ystod y flwyddyn, hefyd, gwnaed 66 o ymweliadau a ariannwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Lluniwyd adroddiadau (HE2) llawn ar gyfer 53 o’r ymweliadau hynny â ffermydd. Gwnaed gweddill y 13 o ymweliadau mewn ymateb i gais am argymhellion ar faterion penodol.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn dal i ddarparu cymorth hyfforddi i swyddogion prosiect y Cyngor Cefn Gwlad i’w helpu i roi gwybodaeth am faterion rheoli ynghylch safleoedd archaeolegol.

Erbyn hyn, mae detholiad o’r data o’r CAH wedi’i ymgorffori yn ‘Rhyngwyneb Data Amgylcheddol Cymru (WENDI)’ Llywodraeth Cynulliad Cymru. Caiff hyn ei fwydo gan yr Adran Amaethyddiaeth i’r broses o benderfynu ar ddarpariaethau’r Gyfarwyddeb Asesu Effaith Amgylcheddol ynghylch Tir heb ei Amaethu ac Ardaloedd Lled-Naturiol. Yn ystod y flwyddyn, fe ymgynghorwyd â’r Ymddiriedolaeth sawl tro ynglyn â’r fenter hon. Caiff data WENDI hefyd eu bwydo i’r cynllun amaeth-amgylcheddol newydd ar lefel mynediad, Tir Cynnal, a gyflwynir yn 2006.

Yn Chwefror 2004, cynhaliodd yr Ymddiriedolaeth seminar i undebau’r ffermwyr, dan y teitl Ffermio a’r Amgylchedd Hanesyddol. Ynddi, cafwyd trafodaeth eang ar rôl ffermio o ran rheoli a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol a’r effaith y mae amrywiol gynlluniau amaeth-amgylcheddol, gan gynnwys Tir Gofal a Thir Cynnal, yn debyg o’i chael yn y dyfodol.

Fferm anghyfannedd yng Ngheredigion. Fe ymwelwyd â hi fel rhan o'r cynllun Tir Gofal

Fferm anghyfannedd yng Ngheredigion. Fe ymwelwyd â hi fel rhan o’r cynllun Tir Gofal


 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]