Cartref > Amdanom Ni >

AROLWG O WEITHGAREDDAU'R YMDDIRIEDOLAETH YN YSTOD Y FLWYDDYN 2005-2006

Amcan hysbys yr Ymddiriedolaeth yw hybu addysg y cyhoedd mewn archaeoleg. Ei datganiad o fwriad yw ‘…i wella dealltwriaeth, amddiffyn a hyrwyddo’r amgylchedd hanesyddol…’ ac mae’n cynnal ymrwymiad rhanbarthol cryf i dde-orllewin Cymru. Gwneir hynny drwy gynnal cloddiadau archaeolegol, gorchwylion gwylio ac arolygon; asesiadau a gwerthusiadau o dirweddau hanesyddol; ac arolygu a chofnodi adeiladau hanesyddol ac adeiladweithiau eraill. Lledaenir ffrwyth y gwaith hwnnw mewn amryw o ffyrdd - drwy gyfrwng adroddiadau, cyhoeddiadau, newyddlenni, taflenni, gwefan yr Ymddiriedolaeth a phaneli sy’n dehongli hanes ac archaeoleg leol, a thrwy ddarlithiau a chyflwyniadau yn y cyfryngau. Mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithio’n aml gyda chymunedau i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r hyn sydd o bwys yn lleol. Er bod yr Ymddiriedolaeth yn dal i weithredu’n bennaf yn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro, mae hi bellach yn ymgymryd hefyd â gweithgareddau maes mewn rhannau eraill o Gymru.

Fel un o’r pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol a sefydlwyd yng Nghymru yn ystod y 1970au, yr Ymddiriedolaeth sy’n cynnal y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) ar gyfer hen sir Dyfed, ac mae’n dal i gynghori’r tri awdurdod unedol, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ynghylch diogelu a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol. Mae’n cynnig gwasanaethau hefyd i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac amrywiaeth o gyrff statudol ac anstatudol eraill. Erbyn hyn, maes o gryn bwys yng ngweithgarwch yr Ymddiriedolaeth yw darparu cyngor i gynllun amaeth-amgylcheddol Tir Gofal a chynlluniau amaeth-amgylcheddol eraill. Ymgymerwyd â chyfanswm o 160 o brosiectau gwahanol yn ystod y flwyddyn, llawer ohonynt yn dal i fynd rhagddynt.

Ymchwil ac Ymchwiliadau

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, fe ymgymerwyd ag amrywiaeth mawr o brosiectau yn ystod y flwyddyn. Yn eu plith yr oedd asesiadau o fygythiadau fel rhan o fentrau ledled Cymru a ariannwyd gan Cadw: Henebion Cymru.

Daeth cyfnod gwaith maes yr Asesiad o Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol, a ariennir gan Cadw, i ben wrth gwblhau’r arolwg o 220 o safleoedd yng ngogledd Ceredigion. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae’r arolwg hwn wedi asesu 1850 o henebion maes ac wedi arwain at argymell cofrestru 260 ohonynt. Ychwanegwyd manylion 300 o safleoedd newydd at y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol.

Cylch carn Dôl y Gamfa, Ceredigion: hen safle nas cofrestrwyd cyn hyn, o'r Oes Efydd

Cylch carn Dôl y Gamfa, Ceredigion: hen safle nas cofrestrwyd cyn hyn, o’r Oes Efydd

Yn y cyfamser, dechreuwyd cyfnod gwaith maes rhaglen asesu henebion arall a ariennir gan Cadw gydag ymweliadau â 203 o Glostiroedd Amddiffynnol Cynhanesyddol yng Ngheredigion.

Prosiect cysylltiedig yw’r rhaglen barhaus o ymchwilio i grwp o Glostiroedd Hirsgwâr ag iddynt Olion Cnydau o welwyd o ffotograffau o’r awyr yn ne Ceredigion a gogledd Sir Benfro. Mae’r prosiect hwn sy’n derbyn cymorth grant Cadw yn cael ei gynnal gyda chefnogaeth Prifysgol Caerefrog. Cynhwysodd arolwg geoffisegol a thopograffaidd ar 5 safle glostiroedd eraill a chloddiad rhannol y clostir hirsgwar a’r rhandy cysylltiedig yn Nhroed-y-rhiw ger Aberteifi.

Cloddio’r tracffordd pren yn Llangynfelyn

Cefnogodd y rhaglen sy’n derbyn cymorth grant Cadw waith cloddio mewn dau safle pellach hefyd: yr ail dymor o gloddio yn nhracffordd pren Llangynfelyn, ger Tal-y-bont a gwaith ar fynwent gistiau ganoloesol gynnar yn West Angle, Sir Benfro. Unwaith eto, gwnaed y gwaith yn Llangynfelyn ar y cyd â Phrifysgol Birmingham. Ym Mehefin 2005, canolbwyntiodd y cloddio ar y gwaddodion diwydiannol o dan ben deheuol y tracffordd lle roedd tystiolaeth o weithfa smeltio plwm. Cafodd prosiect West Angle gefnogaeth gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a chafodd staff yr Ymddiriedolaeth gymorth myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd. Canolbwyntiodd y gwaith ar asesu’r bygythiad i’r fynwent o erydu arfordirol.

Parhaodd gwaith ar ddau brosiect arall sy’n derbyn cymorth grant Cadw: asesiad o Feini Cerfluniedig Canoloesol sydd mewn Perygl sy’n ceisio sicrhau dyfodol hirdymor henebion sy’n wynebu problemau arbennig a’r Asesiad o Gaerau, Vici a Ffyrdd Rhufeinig. Cynhwysodd ail flwyddyn y prosiect hwn arolwg geoffisegol o fewn ardaloedd vicus y caerau yn Nhrawscoed a Llanio yng Ngheredigion.

Yn olaf darparodd Cadw gymorth grant tuag at ddadansoddiad ôl-gloddio canlyniadau cloddio crug Oes Efydd yn Fan Foel ar y Mynydd Du, Sir Gaerfyrddin. Datblygiad arbennig o gyffrous oedd darganfod paill erwain o safle’r gwaddodion amlosgi, sy’n awgrymu blodeugedau 4000-flwydd oed mewn cysylltiad â’r claddedigaethau.
Ymgymerodd yr Ymddiriedolaeth â phrosiectau ar ran amrywiaeth o gleientiaid eraill – datblygwyr cyhoeddus a phreifat, awdurdodau unedol, asiantaethau’r llywodraeth, cyrff gwirfoddol ac ymgynghorwyr. Gwnaed y mwyafrif o’r rhain o fewn siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion. Roedd y prosiectau’n cynnwys cloddio, gwaith cofnodi adeiladau, a gorchwylion gwylio a oedd yn aml yn un o amodau caniatâd cynllunio. Mae’r crynodeb sy’n dilyn yn rhoi detholiad yn unig o’r prosiectau arwyddocaol gan roi awgrym o ystod y gwaith a wnaed. Mae rhestr lawn o’r holl brosiectau o’r fath, gan gynnwys y cleientiaid, i’w gweld yn Atodiad C.

Dechreuodd y flwyddyn gyda chwblhau cloddiad mawr a gynhaliwyd cyn ailddatblygu cyn Burfa Olew Esso ger Aberdaugleddau yn derfynfa nwy naturiol hylifedig. Cofnododd y gwaith hwn dystiolaeth o safle diwydiannol mawr gan gynnwys o leiaf bedair odyn sychu yd a dwy ffwrnais smeltio haearn gyda tharddiadau canoloesol cynnar posibl.

Yn gynnar yn yr haf cynhaliodd yr Ymddiriedolaeth raglen o gloddio yn y Gaer Rufeinig a ganfuwyd yn ddiweddar ym Mharc Dinefwr, Llandeilo ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cynhaliwyd y cloddio proffil uchel hwn fel rhan o raglen fawr o adfer y Parc sy’n cael ei chynnal gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chynigiodd gyfle am gyfranogiad sylweddol gan y gymuned (a drafodir ar Dudalen 5). O safbwynt archaeolegol, rhoddodd cwblhau’r arolwg geoffisegol a’r cloddio wybodaeth arwyddocaol am ddiwyg a chymeriad y ddwy gaer olynol a fu ar y safle.

Gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn cloddio'r Gaer Rufeinig yn Llandeilo ym Mharc Dinefwr

Gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn cloddio’r Gaer Rufeinig yn Llandeilo ym Mharc Dinefwr

Cynhaliwyd sawl asesiad a gwerthusiad archaeolegol wrth y ddesg cyn i benderfyniadau cynllunio gael eu cymryd. Roedd y rhain yn cynnwys gwerthusiadau cyn datblygiadau tai arfaethedig yn Fferm Priory, Monkton, Sir Benfro ac ym Mlaenporth, Ceredigion a chyn maes parcio arfaethedig yn Foley House, Hwlffordd. Canfu arolwg geoffisegol ym Mryn Hir, Dinbych-y-pysgod dystiolaeth o weithgarwch wrth ymyl clostir Oes Efydd, y bydd angen ei brofi drwy gloddio ffosydd arbrofol.

Cynhaliwyd prosiectau cofnodi adeiladau mewn sawl man yn ystod y flwyddyn gan gynnwys cwblhau’r arolwg cyn cydategu pellach yr adeiladwaith sy’n goroesi yng Nghastell Arberth a Gweithfeydd Dur Stepaside. Hefyd gwnaed gwaith ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o fewn yr Ystafell Billiards yn Nhy Newton, Parc Dinefwr cyn ei hadnewyddu ac yn y cyn ffermdy ar Ynys Sgomer cyn i Gyngor Cefn Gwlad Cymru ei drosi’n llety i ymwelwyr.

Cynhaliwyd arolygon cyffredinol eraill ar ran Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gan gynnwys parhad Monitro Arfordirol Rhynglanwol Sir Benfro, ac arolwg ffotograffaidd ym Maes Awyr Dale a chofnodi adeiladau ym Mhorth-gain cyn eu cydategu. Hefyd gwnaed arolwg helaeth ar ran Cyngor Sir Gaerfyrddin o’r gerddi wrth ymyl yr Amgueddfa Sirol ym Mhlas yr Esgob, Abergwili.

Y prosiect mwyaf y tu allan i’r rhanbarth oedd gwerthusiad a ddatblygodd yn gloddiad bach yn Nhalgarth, Powys. Dangosodd y gwaith, a wnaed cyn adeiladu ffordd osgoi, dystiolaeth o weithgarwch anheddiad Rhufeinig-Prydeinig.

Ymhlith y prosiectau mewn mannau eraill yng Nghymru roedd dau werthusiad cyn-penderfynu yng Nghastell-nedd; y naill yn gyn weithfa plât tun ar safle Ffatri Diwhurst, a’r ail ar ddarn o dir wrth ymyl Capel St Margaret. Cynhaliwyd cyfres o asesiadau hefyd yn Heol y Farteg, Blaenafon yn archwilio effaith bosibl tai newydd ar dirlun hanesyddol cofrestredig.

Roedd dau brosiect arall yn golygu ymchwil dopograffaidd a dogfennol ar goetiroedd a pharcdiroedd hanesyddol yn y Kymin, Coed Beaulieu, Sir Fynwy ac yng Nghwm Uchaf ‘Penllergare’, Abertawe.

Addysgu a chyhoeddi

Mae holl ymchwil ac ymchwiliadau archaeolegol yr Ymddiriedolaeth yn cyfrannu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol at feithrin yr ymwybyddiaeth o amgylchedd hanesyddol Cymru. Er hynny, mae amryw o brosiectau a gweithgareddau’r Ymddiriedolaeth wedi’u hanelu’n benodol at hybu’r ymwybyddiaeth hon. Mae Strategaeth Allgymorth yr Ymddiriedolaeth yn dal i gyfrannu at gyflawni amcan elusennol sylfaenol yr Ymddiriedolaeth, sef addysgu’r cyhoedd mewn archaeoleg, a’i rôl wrth hybu’r amgylchedd hanesyddol fel un o’n hasedau pennaf.

 

Y Dreftadaeth Gymunedol

Mae’r Ymddiriedolaeth yn dal i gydnabod bod angen hybu a dehongli’r amgylchedd hanesyddol ar lefel y gymuned leol. Mae ‘Archaeoleg Gymunedol’ neu ‘Archaeoleg i Bawb’ yn dod yn fwyfwy pwysig ar draws Prydain, gan gydnabod y gall y proffesiwn wneud cyfraniad mawr at nifer o agendâu economaidd a chymdeithasol cyfredol gan gynnwys cynhwysiant cymdeithasol, iechyd ac addysg y cyhoedd, twristiaeth ac adfywio economaidd. Mae gan y sector gyfle hefyd i fanteisio ar y proffil uchel yn y cyfryngau mae archaeoleg yn ei fwynhau ar hyn o bryd.

Cynigiodd y cloddiad yng Nghaer Rufeinig Llandeilo, Parc Dinefwr ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyfle delfrydol i sefydlu un prosiect archaeoleg gymunedol o’r fath. Roedd y gwaith yn caniatáu cyfranogiad nifer fawr o wirfoddolwyr ac roedd ganddo broffil cyhoeddus uchel gan gynnwys dau ddiwrnod agored cyhoeddus a fynychwyd yn dda. Hefyd cafodd y cloddiad sylw digyffelyb gan y cyfryngau, gan ymddangos ar ‘Big Roman Dig’ y Time Team a sawl bwletin newyddion teledu a radio.

Cynhaliwyd Diwrnodau Agored Cyhoeddus yn ystod cloddiadau’r Ymddiriedolaeth yn West Angle ac yn Llangynfelyn hefyd. Sicrhaodd lleoliad cloddiad West Angle, wrth ymyl traeth gwyliau poblogaidd, fod llif gyson o ymwelwyr yn chwilio am newyddion diweddaraf am gynnydd y cloddiad.

Staff, myfyrwyr ac ymwelwyr yng nghloddfa West Angle

Staff, myfyrwyr ac ymwelwyr yng nghloddfa West Angle

Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, parhaodd yr Ymddiriedolaeth i gydweithredu â mentrau cymunedol ac yn arbennig â Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro dros Fenter a Datblygu (PLANED). Mae’r Ymddiriedolaeth wedi rhoi cefnogaeth a hyfforddiant Swyddog Treftadaeth PLANED sydd newydd ei benodi a hefyd darparodd gefnogaeth i chwe grwp cymunedol a seilir yn Sir Benfro a gyflwynwyd i’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol. Y bwriad yw darparu cymorth parhaus ar gyfer prosiectau cymunedol yn y dyfodol. Caiff yr Ymddiriedolaeth ei chynrychioli hefyd ar grwp llywio’r Prosiect Treftadaeth Gymunedol Rhyngwladol a gydlynir gan PLANED, gan weithio gyda sawl partner Ewropeaidd i rannu arferion gorau ar gyfer prosiectau treftadaeth yn y gymuned sy’n dathlu arwahanrwydd lleol.

Mae darparu paneli dehongli, a baratoir gan yr Ymddiriedolaeth, yn dal yn agwedd bwysig ar hyrwyddo’r amgylchedd hanesyddol. Cwblhawyd gwaith ar saith panel ar gyfer Parc Coetir Mynydd Mawr, un ar gyfer Llanfynydd ac un ar gyfer Llanybydder (oll ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin), un ar gyfer Llantrisant (Cyngor Tref Llantrisant), un ar gyfer Bedd Taliesin (CCGC), ac un ar gyfer Llanddarog (Menter Cwm Gwendraeth).

Dechreuodd gwaith ar ddeuddeg panel ar gyfer Llwybrau Treftadaeth Aman a Llwchwr (a noddir ar y cyd gan Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Castell-nedd Port Talbot), a pharhaodd gwaith ar ddau ar gyfer Cenarth, a thri ar gyfer Saron (oll ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin). Hefyd dechreuodd gwaith ar Lwybr Treftadaeth Llandeilo, sy’n cynnwys cynhyrchu chwe phanel, pum plac adeilad hanesyddol a thaflen am y llwybr (ar ran Cyngor Tref Llandeilo). Mar Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth wedi cymryd rhan weithgar hefyd mewn prosiect cydategol i osod fersiwn ddigidol o Efengylau Llandeilo mewn arddangosfa barhaol newydd yn eglwys Teilo Sant, Llandeilo.

Darlithiau a Sgyrsiau

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, daliodd staff yr Ymddiriedolaeth i gyflwyno darlithiau a sgyrsiau i amrywiaeth mawr o gyrff, a chyflwynwyd papurau mewn amryw o weithdai a seminarau. Rhoddodd staff yr Ymddiriedolaeth gyfanswm o 54 o sgyrsiau a theithiau cerdded yn ystod y flwyddyn.

Ym mis Chwefror 2006, trefnodd yr Ymddiriedolaeth Ysgol Ddydd Archaeoleg Ceredigion ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ddarparu crynodeb o waith archaeolegol diweddar yn y sir. Cyflwynwyd papurau hefyd gan sawl aelod o staff yr Ymddiriedolaeth yn ail Ysgol ddydd Archaeoleg Sir Benfro yn Hwlffordd a drefnwyd gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Yn ychwanegol, bu aelodau unigol o staff yn cymryd rhan yn uniongyrchol mewn cynrychioli’r Ymddiriedolaeth ac mewn cyfrannu at weithgareddau nifer fawr o sefydliadau a grwpiau allanol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol, er enghraifft: Cymdeithas Archaeolegol Cambria; Cyngor Archaeoleg Brydeinig Cymru; Cymdeithas Swyddogion Archaeolegol Llywodraeth Leol (ALGAO), ei His-Bwyllgor Morwrol a’i Phwyllgor yng Nghymru; Sefydliad Archaeolegwyr Maes Pwyllgor y Sefydliadau Archaeolegol Cofrestredig; Panel Archaeoleg Ddiwydiannol Cymru; Grwp Amgylchedd Hanesyddol Cymru; Cymdeithas Archaeoleg Eglwysi; Grwp Ymchwil a Chynghori Mynyddoedd De Sir Benfro; Grwp Peirianneg Arfordirol Bae Caerfyrddin; Fforwm Arfordirol Sir Benfro; Partneriaeth Arfordirol a Morwrol Cymru; Grwp Cynghori Castell Aberteifi; Grwp Llywio Ymlaen Dyffryn Tywi; Pwyllgor Gweithredol Cymdeithas Hynafiaethol Sir Gaerfyrddin a chymdeithasau a grwpiau hanes ac archaeolegol lleol amrywiol.

Arddangosfeydd, arddangosiadau a diwrnodau agored

Yn ychwanegol at y diwrnodau agored a gynhaliwyd yn y cloddfeydd amrywiol, darparodd yr Ymddiriedolaeth arddangosfeydd ac arddangosiadau ar yr Amgylchedd Hanesyddol mewn nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus eraill. Roedd y rhain yn cynnwys Sioe'r Siroedd Unedig, Caerfyrddin, lle gwahoddwyd yr Ymddiriedolaeth i ddarparu stondin ym mhabell Undeb Amaethwyr Cymru. Cafodd y stondin lawer iawn o sylw gan ffermwyr lleol a oedd â diddordeb arbennig yn y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol ac a oedd yn awyddus i gyfnewid gwybodaeth yn ymwneud â safleoedd archaeolegol ar eu ffermydd.

Ar Sadyrnau olynol, ymunodd yr Ymddiriedolaeth ag Amgueddfa Caerfyrddin ac Amgueddfa Aberystwyth i gynnal diwrnod o weithgareddau a gwybodaeth fel rhan o Wythnos Archaeoleg Genedlaethol ym mis Gorffennaf 2005. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, roedd y gweithgareddau yn yr amgueddfa yn cynnwys ‘Sioe Ffordd’ CAH, sgyrsiau ac amrywiaeth o weithgareddau i blant.

Adroddiadau a Chyhoeddiadau

Ymddangosodd dau gyhoeddiad academaidd arwyddocaol yn ystod y flwyddyn: adroddiad ar yr Abaty Sistersaidd yn Hendy-gwyn ar Daf yn Archaeologia Cambrensis ac adroddiad ar asesiad sy’n cael cymorth grant gan Cadw o Aneddiadau Gwledig Diffaith (DRS) yn ne orllewin Cymru. Ymddangosodd adroddiad y DRS fel pennod yn Lost Farmsteads, cyfrol wedi’i golygu ar arolwg Cymru Gyfan a gyhoeddwyd fel Adroddiad Ymchwil gan Gyngor Archaeoleg Prydain. Roedd y gyfrol hefyd yn cynnwys adroddiad ar gloddfeydd a gymerwyd gan yr Ymddiriedolaeth yn Nhro’r Derlwyn, ar y Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin.

Gwnaeth yr Ymddiriedolaeth sawl cyfraniad at gyfnodolion academaidd amrywiol gan gynnwys adroddiad interim ar ganlyniadau’r gloddfa yng Nghaer Rufeinig Llandeilo yn Carmarthenshire Antiquary a chanlyniadau gwaith yr arolwg yn Piercefield, Sir Fynwy yn y Bwletin o Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru. Ymddangosodd sawl adroddiad o waith yr Ymddiriedolaeth yng nghyfrol ddiweddaraf Archaeology in Wales gan gynnwys canlyniadau’r cloddfeydd yn Newton, Llanstadwell, Sir Benfro (terfynfa Petroplus LNG), y cloddfeydd yn Lôn Hayguard, Hwlffordd a’r arolwg geoffisegol yng Nghaer Rufeinig Llanymddyfri.

Rhan bwysig o ledaenu canlyniadau gwaith yr Ymddiriedolaeth yw cyhoeddi erthyglau mewn cylchlythyrau sydd â chylch darllen fwy cyffredinol. Yn ystod y flwyddyn, cyfrannodd staff yr Ymddiriedolaeth erthyglau at Heritage in Wales, Sanctuary (Cylchgrawn Cadwraeth y Weinyddiaeth Amddiffyn), The Georgian ac eitemau newyddion i British Archaeology a Current Archaeology ledled y DU.

Gweithiwyd ar baratoi llyfryn poblogaidd o’r enw Carmarthen: the Oldest Town in Wales i gyd-fynd â’r Arolwg o Dref Caerfyrddin a gwblhawyd yn ddiweddar. Gobeithir y bydd y llyfryn hwn, sy’n cael cymorth grant gan Cadw a Chyngor Sir Caerfyrddin, yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am natur fregus treftadaeth tref hynaf Cymru.

Lluniwyd pedwerydd Cylchlythyr yr Ymddiriedolaeth, a ariennir fel rhan o grant curadurol Cadw, ym mis Mehefin 2005, ac fe’i dosberthir am ddim i lyfrgelloedd ac unigolion a sefydliadau eraill ledled y rhanbarth.

Mae rhestr lawn o’r holl adroddiadau a chyhoeddiadau a ymddangosodd yn ystod y flwyddyn wedi’i chynnwys yn Atodiad D.

Addysg a Chymorth Hyfforddi i Brifysgolion

Yn ystod y flwyddyn rhoddodd tri phrosiect yr Ymddiriedolaeth gyfleoedd hyfforddiant ffurfiol i fyfyrwyr yn astudio archaeoleg; Llangynfelyn (Prifysgol Birmingham), West Angle (Prifysgol Caerdydd) a Troedyrhiw (Prifysgol Efrog). Roedd cloddfa Troedyrhiw hefyd yn cynnwys myfyrwyr rhyngwladol yn seiliedig yng nghloddfa hyfforddiant blynyddol Prifysgol Efrog yng Nghastell Henllys.

Myfyrwyr Archaeoleg o Brifysgol Caerdydd gyda staff yr Ymddiriedolaeth ar ddiwedd cloddfa West Angle

Myfyrwyr Archaeoleg o Brifysgol Caerdydd gyda staff yr Ymddiriedolaeth ar ddiwedd cloddfa West Angle

Rhoddodd staff yr Ymddiriedolaeth gymorth hefyd ar gyfer y gloddfa hyfforddi a gynhaliwyd yn Abaty Ystrad Fflur gan Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Ymwelodd myfyrwyr ôl-raddedig o Lanbedr Pont Steffan â’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol hefyd a rhoddwyd hyfforddiant ffurfiol iddynt o ran defnyddio’r adnodd hwn a’i botensial.

Rhoddwyd cyfleoedd ar gyfer ymweliadau ysgol â’r cloddfeydd yn Llangynfelyn ac yng Nghaer Rufeinig Llandeilo. Yn ychwanegol i 500 o blant ysgol a ymwelodd â chloddfeydd Llandeilo, rhoddodd y prosiect gyfle hefyd ar gyfer dau ddiwrnod profiad gwaith Gyrfa Cymru. Ar y diwrnodau hyn, cafodd dros 40 o blant hyn yn eu harddegau gyfle i gymryd rhan yn y gloddfa a rhannu cyffro darganfyddiadau archaeolegol. Lluniwyd pecyn adnoddau addysgu i gefnogi’r ymweliadau gan ysgolion â chloddfa’r Gaer yn Llandeilo.

Cyfrannodd staff yr Ymddiriedolaeth at ddiwrnod hyfforddiant mewn swydd ar gyfer penaethiaid adrannau hanes ysgolion cyfun yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Darparwyd papurau a sesiynau ‘ymarferol’ yn amlygu’r adnoddau hanesyddol ac archaeolegol sydd ar gael yn yr Ymddiriedolaeth ac yn benodol yn y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol.

Parhawyd i ddarparu cyfleoedd ar gyfer lleoliadau myfyrwyr yn swyddfeydd yr Ymddiriedolaeth. Yn ystod y flwyddyn, roedd y lleoliadau hyn yn cynnwys myfyrwyr o nifer o ysgolion a cholegau lleol.

Y Wefan

Mae gwefan yr Ymddiriedolaeth yn parhau i ddatblygu gydag ychwanegiadau rheolaidd at safle sy’n tyfu’n barhaus. Yn dilyn llwyddiant y ‘dyddiadur cloddio’ a gynhaliwyd yn ystod blwyddyn gyntaf y gwaith yn Llangynfelyn, darparwyd diweddariadau gwefan dyddiol tebyg, gyda ffotograffau, ar gyfer holl gloddfeydd yr Ymddiriedolaeth yr haf (Llangynfelyn, West Angle, Caer Rufeinig Llandeilo a Throedyrhiw). Parhaodd yr ymarfer hwn i fod yn llwyddiant mawr gyda niferoedd mawr o bobl yn troi at y wefan tra oedd dyddiaduron y cloddio yn cael eu cadw.

Cwblhawyd gwaith ar dudalennau’r wefan ar gyfer tirweddau hanesyddol cofrestredig yn ne orllewin Cymru gyda chymorth cymhorthdal grant gan Cadw. Yn ystod y flwyddyn, ychwanegwyd y meysydd ‘Arbennig’ terfynol: Stackpole Warren, Trefdraeth a Charningli, Pen-caer, Maenorbyr, Rhan Isaf Dyffryn Teifi, a Drefach-Felindre. Paratowyd taflen yn hysbysebu’r safle i gyd-fynd â hyn. Mae’r tudalennau gwe hyn yn rhoi adnodd addysgol ac ymchwil gwerthfawr iawn a gellir dangos ei werth wrth y niferoedd mawr o ymwelwyr sy’n defnyddio’r cyfleuster yn rheolaidd.

Y Wasg/Cyfryngau

Ymddangosodd nifer o brosiectau’r Ymddiriedolaeth yn y cyfryngau yn ystod y flwyddyn gan gynnwys teledu, radio a phapurau a chyfnodolion lleol a chenedlaethol. Paratowyd datganiadau i’r wasg ar gyfer y gloddfa yn Llangynfelyn ac, ar ôl darganfod yr erwain, ar gyfer y gwaith ar grug Oes Efydd Fan Foel. Rhoddwyd cefnogaeth i ddatganiadau i’r wasg a baratowyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer y cloddfeydd yng Nghaer Rufeinig Llandeilo. O ganlyniad, cafodd pob un o’r prosiectau hynny sylw eang yn y wasg leol a chenedlaethol. Roedd uchafbwyntiau’n cynnwys darllediadau byw o Gaer Rufeinig Llandeilo ar gyfer ‘Time Team’ Sianel 4, a chyfweliad helaeth ar gyfres y Gaer Rufeinig ar gyfer cyfres BBC Cymru ‘Jamie Owen’s Journeys through Wales’ .

Carenza Lewis, o 'Time Team', a'r pot o Malvern a ddarganfuwyd yn y Gaer Rufeinig yn Llandeilo

Carenza Lewis, o ‘Time Team’, a’r pot o Malvern a ddarganfuwyd yn y Gaer Rufeinig yn Llandeilo

Bu staff yr Ymddiriedolaeth hefyd yn cymryd rhan mewn cyfres o gyfweliadau ar gyfer Radio Sir Gâr o dan y teitl ‘Carmarthenshire Through the Ages’ a ddarlledwyd fel rhaglenni 10 munud dros gyfnod o 15 wythnos.

Gwasanaethau Archaeolegol

Mae Gwasanaethau Archaeolegol yn cynnwys dwy elfen. Yn gyntaf, cynnal a datblygu Cofnod Amgylchedd Hanesyddol rhanbarthol yr Ymddiriedolaeth neu CAH (y Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol yn flaenorol) a ariennir yn rhannol gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (RCAHMW). Yn ail, y Gwasanaethau Curadurol, rhoi cyngor i gyrff unedol a chyrff eraill statudol ac anstatudol ar amddiffyn a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol. Mae’r ddau wasanaeth hyn yn cynnwys ardaloedd awdurdod unedol Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yn cynnwys lwfansau gorbenion, cyfanswm grant Cadw ar gyfer Gwasanaethau Curadurol oedd £134,858 (2004/2005: £128,671). Arhosodd y grant sylfaenol a ddarparwyd gan RCAHMW ar gyfer y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol rhanbarthol yn £27,500.

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn parhau i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer rhoi cyngor Amgylchedd Hanesyddol ar reoli a hyrwyddo archaeoleg Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Yn ystod y flwyddyn, gwnaeth y cymorth hwn gyfanswm o £32,328. Ychwanegwyd at y cymorth hwn gyda grant o £5,000 gan Cadw ar gyfer gweithredu rhaglen gwaith rheoli yn ymwneud â Henebion Rhestredig yn y Parc Cenedlaethol. Galluogodd yr adnoddau hyn i’r Parc Cenedlaethol gyflogi Archaeolegydd Parc amser llawn.

Rhoddwyd cymorth ariannol parhaus ar gyfer darparu Cyngor Cynllunio Archaeolegol (dros ac uwchlaw’r cymorth grant gan Cadw) gan bedwar o’r Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLlau) yn y rhanbarth, sef Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Ceredigion. Cyfanswm eu cymorth oedd £11,918. Mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau i fod yn ddiolchgar iawn i’r ACLlau am y cymorth hwn, a fydd yn helpu i sicrhau y gellir cynnal lefel uchel y gwasanaeth a ddarperir gan yr Ymddiriedolaeth.

Darparodd Cadw hefyd grant o £33,221 ar gyfer cyfraniad yr Ymddiriedolaeth tuag at ddarpariaethau amgylchedd hanesyddol Cynllun Amaeth-Amgylcheddol Tir Gofal Cymru gyfan. Rhoddodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru fwy o arian i dalu cost cynnal ymweliadau â ffermydd ar gyfer nifer ddethol o ffermydd o fewn y cynllun.

Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol

Penderfynwyd ailenwi’r Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol fel y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol yn ystod y flwyddyn fel ei fod yn cyd-fynd â chofnodion tebyg mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Teimlir bod yr enw newydd hwn yn adlewyrchiad mwy cywir o gynnwys y cofnod sydd bellach yn cynnwys gwybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol ehangach ac nid yn unig ar safleoedd archaeolegol a hanesyddol unigol.

Mae’r cofnod yn cynnwys cofnod papur a chronfa ddata ddigidol. Parhaodd y staff cofnod i gofnodi data newydd, cynnal gwaith cynnal a chadw arferol, ymgymryd â gwaith datblygu ac ymateb i ymholiadau mewnol ac allanol. Parhaodd y broses o ychwanegu ‘digwyddiadau’ (cloddfeydd, arolygon, ac asesiadau bwrdd gwaith) at y Cofnod trwy gydol y flwyddyn.

Ar ddiwedd y flwyddyn, roedd cyfanswm o 39,147 o gofnodion. Mae cofnodion newydd, a gwella cofnodion presennol, yn parhau i gael eu cynhyrchu gan brosiectau ymchwil ac archwilio’r Ymddiriedolaeth ei hun, yn ogystal ag o ffynonellau allanol. Mae cynllun amaeth-amgylcheddol Tir Gofal yn parhau i fod yn ffynhonnell wybodaeth newydd bwysig.

Parhaodd y gwaith ar ddatblygu llwyfan meddalwedd newydd gan Oxford ArchDigital ar gyfer y CAH ledled Cymru. Bydd y system newydd hon, a adnabyddir fel TOAD HMS (The Oxford ArchDigital Heritage Management System), yn trawsnewid y broses o reoli’r cofnod a bydd yn gwella mynediad y cyhoedd at y data craidd yn fawr trwy wefan yr Ymddiriedolaeth. Er gwaethaf oedi na ellid ei osgoi, disgwylir y bydd y system newydd ar waith yn y dyfodol agos.

Parhaodd yr Ymddiriedolaeth i gymryd rhan yn y broses o gyfnewid data craidd â phartneriaid eraill END (Cronfa Ddata Genedlaethol Estynedig Cymru). Mae’r gwaith bellach bron wedi’i gwblhau ar ddod â CAH i fyny i feincnodau’r lefel gyntaf a amlinellwyd gan ALGAO ac English Heritage. Yn ystod y flwyddyn, mae hyn wedi cynnwys gwaith ar archwiliad CAH a fydd yn nodi cryfderau a gwendidau’r Cofnod a meysydd targed i’w datblygu yn y dyfodol.

Swyddfa HER yn brysur

Swyddfa HER yn brysur

Parhawyd i roi cymorth trwy grant curadurol Cadw ar gyfer darparu gwybodaeth yn ehangach gan CAH a datblygu gweithgareddau allymestyn. Ymdriniwyd â chyfanswm o 414 o ymholiadau yn ystod y flwyddyn. Darparwyd cymorth ariannol ychwanegol i CAH gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Roedd gwaith a wnaed fel rhan o’r trefniant hwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddarpariaeth data CAH a chofnodwyd y broses o ysgrifennu disgrifiadau o fewn y Parc.

Parhaodd yr Ymddiriedolaeth fynychu cyfarfodydd gyda’i phartneriaid i weithio tuag at y nodau a amlinellir yn y Fframwaith Strategol ar gyfer Cofnodion yn Ymwneud ag Amgylchedd Hanesyddol Cymru. Roedd un o’r rhain yn ymwneud â pherchnogaeth CAHiau a’u diogelwch yn y tymor hir. Mae’r Ymddiriedolaeth a’i phartneriaid yn gweithio gyda Cadw ar hyn o bryd i sefydlu ‘Ymddiriedolaethau-bach CAH’ ar wahân, gyda phob Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru yn gweithredu fel unig ymddiriedolwr corfforaethol ei Hymddiriedolaeth CAH.

Gwasanaethau Curadurol: Cynllunio

Mae’r maes hwn o waith yr Ymddiriedolaeth yn ymwneud yn bennaf â datblygu tasgau rheoli-datblygu, er bod rhai ymgynghoriadau sy’n effeithio ar safleoedd archaeolegol yn codi y tu allan i’r system gynllunio. Yn ystod y flwyddyn, hysbyswyd yr Ymddiriedolaeth ynghylch 6,952 o geisiadau cynllunio. O’r rhain, roedd angen gwerthusiad manwl ar 1,263 ohonynt, gan arwain at weithredu ymhellach mewn 423 o achosion, gan gynnwys argymhellion ar gyfer asesiadau, gwerthusiadau, cloddfeydd neu gofnodi gwaith cyn datblygu, neu ar gyfer gwylio briffiau yn ystod datblygu. Argymhellwyd y dylid gwrthod ar sail archaeolegol bedair gwaith.

Wrth ymateb i geisiadau, parhaodd Archaeolegydd Cynllunio’r Ymddiriedolaeth i baratoi briffiau, cytuno ar fanylebau a chynnal ymweliadau monitro. Mae gwaith achos parhaus arwyddocaol yn cynnwys rhoi cyngor manwl ar nifer o geisiadau o fewn canol canoloesol hanesyddol Aberteifi ac ar Brosiect Adfywio Penfro a datblygiad preswyl cysylltiadau yn Monkton.

Rhoddodd yr Ymddiriedolaeth gyngor hefyd ar oblygiadau archaeolegol cynnig ar gyfer datblygu hen Farchnad Anifeiliaid Caerfyrddin a chreu fferm abwyd melys ar gorstir ger Talacharn. Ar yr adegau hyn, methodd yr awdurdod cynllunio â hoi ystyriaeth lawn i’r argymhellion gan yr Ymddiriedolaeth ar gyfer asesiad llawnach cyn-penderfynu. Fodd bynnag, mewn mannau eraill, mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau i fod â pherthynas waith ardderchog gyda’r Awdurdodau Cynllunio Lleol, ac o ganlyniad i’w gyngor, mae rheolaeth archaeolegol ddigonol bellach yn cael ei harfer yn y mwyafrif llethol o achosion.

Un broblem gynllunio fawr o hyd yw’r ceisiadau am ffermydd gwynt yn y rhanbarth. Fodd bynnag, mae yna broblemau o hyd gyda’r fethodoleg a ddefnyddir wrth asesu effaith y datblygiadau pwysig hyn ar y dirwedd hanesyddol ehangach.

Parhawyd i roi gwybodaeth a chyngor am faterion rheoli treftadaeth y tu allan i’r fframwaith cynllunio lleol o ran coedwigaeth, trin safleoedd chwareli metel, safleoedd arfordirol a gweithrediadau amaethyddol. Roedd hyn yn cynnwys ymgynghoriadau niferus â’r Cynllun Grant Coetiroedd, gyda 101 o geisiadau yn cael eu hystyried ac 16 cais oedd angen mwy o sylwadau a rhywfaint o weithredu pellach. Parhaodd yr Ymddiriedolaeth i roi gwybodaeth fanwl a chyngor ynghylch rheoli i Fenter Coedwigoedd ar gyfer gwaith coedwigaeth a Chynlluniau Rheoli Coedwigoedd. Cytunodd yr Ymddiriedolaeth hefyd ar delerau contract gyda’r Comisiwn Coedwigaeth i roi cymorth ar gyfer Cynllun Coetiroedd Gwell i Gymru.

Ymatebodd yr Ymddiriedolaeth i ymgynghoriadau gan ddiwydiannau gwasanaeth, gan gynnwys 53 cynllun gan Dwr Cymru yn ogystal ag ymgynghoriadau gan Western Power ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau i gymryd rhan yn weithredol gyda darparu cyngor yn ymwneud ag adeiladu prif biben nwy y Grid Cenedlaethol o Aberdaugleddau i Aberdulais. Mae’r llwybr arfaethedig yn ymestyn am 120 cilomedr ac mae ei led gwaith yn mesur 44m, sy’n ei gwneud yn un o’r datblygiadau mwyaf yn y rhanbarth yn ddiweddar. Yn dilyn caniatáu’r cynllun, rhoddwyd cymorth ariannol ar gyfer cyngor curadurol yr Ymddiriedolaeth gan yr Adran Masnach a Diwydiant. Mae’r Ymddiriedolaeth yn awr wedi bod yn rhoi cymorth curadurol i ail gyfnod arfaethedig y brif biben nwy a fydd yn rhedeg o Felindre i Tirley trwy Ddyffryn Tywi ac ar draws Mynydd Myddfai yn Sir Gaerfyrddin.

Adeiladu'r lein beipiau o Aberdaugleddau i Aberdulais (Hawlfraint y Goron CBHC)

Adeiladu’r lein beipiau o Aberdaugleddau i Aberdulais (Hawlfraint y Goron CBHC)

Darparwyd gwybodaeth am 10 Hysbysiad ynghylch Cael Gwared ar Gloddiau ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, ar gais Cadw, parhaodd yr Ymddiriedolaeth i roi sylwadau ar Geisiadau Caniatâd Henebion Cofrestredig.

Gwasanaethau Curadurol: Rheoli Treftadaeth

Mae Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth yn parhau i gymryd rhan yn weithredol yn y Grwp Amgylchedd Hanesyddol, grwp cynghori a sefydlwyd gan y Gweinidog dros Ddiwylliant, Yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon i gynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch gweithredu a fydd o fantais i, ac yn hyrwyddo, amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn cynrychioli diddordebau Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru ar is-grwp ‘What’s in Store’ sy’n ystyried strategaeth ar gyfer gweithgareddau archaeolegol ar hyn o bryd.

Yn ystod y flwyddyn ymatebodd yr Ymddiriedolaeth i ymgynghoriadau ar amrywiaeth o faterion sy’n berthnasol i’r amgylchedd hanesyddol. Mae’r rhain wedi cynnwys cyfnodau cychwynnol yr Adolygiad Amddiffyn Treftadaeth, drafft o Nodyn Cyngor Technegol 8 (TAN 8 – Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy), Strategaeth Amgylcheddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, drafft o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru ac adolygiad o Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Ar lefel mwy lleol, mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau i gymryd rhan yn weithredol ym Mhartneriaeth Tirwedd Ymlaen Dyffryn Tywi sy’n ceisio datblygu prosiect cadwraeth tirwedd mawr ar gyfer dyffryn Tywi. Arweiniodd hyn at gyflwyno cais grant pwysig i Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer prosiect ‘Tywi Afon Yr Oesoedd’ sy’n cynnwys elfen Ymchwilio Tirwedd arwyddocaol. Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd wedi cymryd rhan yn weithredol mewn cynghori Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan ar ddyfodol Castell Aberteifi a Chyngor Sir Ceredigion ar ddatblygu Strategaeth Gymunedol Ceredigion.

Mae Archaeolegydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn parhau i weithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn ac Ystadau Amddiffyn dros wella amgylchedd hanesyddol Ystadau Hyfforddiant Sir Benfro gan gynnwys adolygiad o’r Cynllun Rheoli Tir Integredig. Mae gwaith achos wedi cynnwys rheoli niwed moch daear yn y dyfodol yn Crug Brownslade, strategaethau rheoli coetiroedd ac atgyfnerthu’r adeiladau canoloesol yn Flimston a Pricaston. Mae gwaith rheoli ar Henebion Cofrestredig o fewn Parc, wedi parhau gyda chymorth grant gan Cadw a chyda chymorth gwirfoddolwyr lleol. Mae hyn wedi cynnwys atgyweirio gwaith pridd i’r cerrig safadwy yn Waun Maun a chylch cerrig Gors Fawr a gwaith atgyweirio i amddiffynfeydd y môr yng Nghapel Sant Padrig, Whitesands. Roedd gwaith Archaeolegydd y Parc hefyd yn cynnwys paratoi’r Adolygiad Amgylchedd Hanesyddol blynyddol cyntaf ar gyfer y Parc a threfnu Ysgol Ddydd Archaeoleg.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau i roi cyngor i Bwyllgor Cynghori Esgobaethol Tyddewi (DAC) ar gyfadrannau a’r Pwyllgor Cynghori Ffabrig (FAC) ar gyfer Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Unwaith eto, cymerodd ran hefyd yn y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy, cynllun gwirfoddol ar gyfer adrodd a chofnodi canfyddiadau archaeolegol.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau i fod yn gyfrifol am ddarpariaethau amgylchedd hanesyddol Cynllun Amaeth-Amgylcheddol Tir Gofal yn y rhanbarth. Yn ystod y flwyddyn, a chyda chymorth cyllid Cadw, rhoddodd yr Ymddiriedolaeth wybodaeth am 239 o ymgynghoriadau fel rhan o broses yr adroddiad amgylchedd hanesyddol (HE1), gan gynnwys 8 ymgynghoriad ar dir ychwanegol a roddwyd i ffermydd erbyn yr adolygiad tymor canolig (5 mlynedd). Roedd yr adolygiad hwn yn cynnwys gwirio 150 o ffermydd gan arwain at ddarparu 18 o HE1 wedi’u diweddaru i Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

Fferm ddiffaith a gofnodwyd yn ystod ymweliad Tir Gofal â fferm yn nyffryn Afon Mwyro yng Ngheredigion

Yn ychwanegol, yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd 47 o ymweliadau wedi’u hariannu gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Paratowyd adroddiadau ymweliad fferm llawn (HE2) ar gyfer 38 o’r rhain. Gwnaed y 9 ymweliad arall wrth ymateb i geisiadau am argymhellion rheoli amgylchedd hanesyddol ar faterion penodol.

Paratôdd yr Ymddiriedolaeth daflen ar ‘Ffermio a’r Amgylchedd’ yn nodi Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru fel y man cyswllt ar gyfer gwybodaeth bellach am yr amgylchedd hanesyddol. Ymhlith pethau eraill, dosbarthwyd y daflen hon i ffermwyr a oedd yn dymuno cofrestru ar gyfer cynllun amaeth-amgylcheddol lefel y ‘cofnod’ newydd, Tir Cynnal. Yn ystod mis Mawrth, ymdriniodd yr Ymddiriedolaeth â 70 o ymholiadau gan ffermwyr yn ymuno â’r cynllun newydd ac yn gofyn am eglurhad am safleoedd hanesyddol ac archaeolegol ar eu ffermydd. Rhan o’r rheswm am yr ymateb hwn yw natur olygedig y wybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol a roddwyd i ffermir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.


 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]