Cartref >

Gwasanaethau Masnachol

Wedi ei sefydlu ers mwy na 30 mlynedd, mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn darparu gwasanaethau archaeolegol a gwasanaethau cysylltiedig rhagorol i amrywiaeth o gleientiaid gan gynnwys datblygwyr bach, sefydliadau treftadaeth a chwmnïau rhyngwladol. Rydym yn ymroddedig i ddarparu cynnyrch a chyngor o ansawdd uchel i’n holl gleientiaid.

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yw cwmni gwaith maes ac ymgynghori mwyaf blaengar a mawr ei barch Cymru, yn meddu ar wybodaeth ranbarthol heb ei hail ar draws ein staff ymroddedig a chyfeillgar sydd wrth law i rannu eu profiad ac arbenigedd sylweddol gyda’ch prosiect, pa un a yw’n brosiect mawr neu fach.

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn sefydliad archaeolegol cofrestredig (RAO) gyda Sefydliad yr Archaeolegwyr Maes (IFA), ac mae’n cydymffurfio â chod ymarfer a safonau cofnodi archaeoleg IFA.

Mae holl staff yr Ymddiriedolaeth wedi eu cofrestru gyda CSCS ac wedi eu tystio i weithio ar safleoedd adeiladu.

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn darparu ystod o wasanaethau a chyngor archaeolegol cost-effeithiol i amrediad helaeth o gleientiaid, sy’n amrywio o brosiectau isadeiledd mawr a chynlluniau ffyrdd i sectorau datblygu preswyl a masnachol.

Mae ein staff proffesiynol a phrofiadol iawn yn cynnig asesiadau desg, cynlluniau ymchwilio ysgrifenedig, asesiadau effaith amgylcheddol a gwerthusiadau maes o ansawdd uchel, a phob un wedi ei addasu’n unigol i fodloni eich anghenion.
Mae gennym brofiad sylweddol o gloddio, cadw golwg ar safleoedd, cofnodi adeiladau hanesyddol, cerdded meysydd ac arolygu tirweddau, ac rydym wedi gweithio i sawl cleient bodlon iawn ers ein sefydliad yn 1974.

Os gofynnwyd i chi wneud gwerthusiad archaeolegol fel amod o’ch cais cynllunio, gallwn eich tywys trwy’r broses hon yn gyflym ac effeithiol: cynhyrchir ein cynlluniau ymchwilio ysgrifenedig yn unol â’r safonau a’r cyfarwyddyd a osodir allan gan Sefydliad yr Archaeolegwyr Maes, felly gallwch fod yn sicr y byddant yn bodloni gofynion yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

Am fwy o fanylion o’n hystod gynhwysfawr o wasanaethau a phrofiad, cliciwch ar y cysylltiadau isod:

Gwerthusiadau Archaeolegol
Beth bynag fo’ch anghenion, bach neu fawr, gallwn helpu

Cloddio
O dorri ffosydd i ymchwil bwysig a hyfforddiant cloddio, cynigiwn wasanaeth cyflawn o’r dechrau i’r diwedd

Asesiadau Desg
Y mchwilir yn drylwyr i’n holl asesiadau gan ddefnyddio’r holl ffynonellau dogfennol, ffotograffiaeth a chartograffig sydd ar gael

Cadw Golwg
O estyniadau bach i gartrefi i brosiectau adfywio ac isadeiledd mawr, mae yr Ymddiriedolaeth wrth law i fodloni eich gofynion

Cofnodi ac Arolygu Adeiladau
Gwasanaeth cyflawn sy’n arbenigo mewn pensaernïaeth grefyddol wledig a threfol, domestig a brodorol o bob oed

Arolwg Geoffisegol
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnig y dull anymwthiol hwn fel rhan o’i gwasanaethau.

Nodweddu Tirweddau Trefol a Gwledig
Arbenigedd heb ei ail mewn nodweddu a dadansoddi tirweddau hanesyddol, a LANDMAP

Arolygon Topograffaidd
Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ar y blaen o ran cynnal arolygon topograffaidd o dirweddau gwahanol, ac yn cyflwyno ei chanlyniadau mewn ffordd arloesol

Hyrwyddo Treftadaeth
O daflenni a llawlyfrau i deithiau cerdded o gwmpas trefi hanesyddol, paneli dehongli a deunyddiau arddangos, mae gennym brofiad sylweddol o gyflawni eich anghenion hyrwyddo treftadaeth

 

Gweler Manylion y Cwmni


I gael mwy o wybodaeth a phrisiau cystadleuol ar gyfer unrhyw un o’n gwasanaethau, cysylltwch â:

 

Pete Crane MIFA, Rheolwr Prosiect p.crane@dyfedarchaeology.org.uk
Llinell uniongyrchol 01558 825985

Duncan Schlee MSc, Rheolwr Prosiect d.schlee@dyfedarchaeology.org.uk
Llinell uniongyrchol 01558 825984

Am ymholiadau cyffredinol, ffoniwch 01558 823121.



 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]