Cartref > Gwasanaethau Masnachol >

Nodweddu Tirweddau Trefol a Gwledig

Mae gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed arbenigedd heb ei ail mewn dadansoddi tirweddau, arolygon a nodweddu tirweddau hanesyddol , ac mae ein gwybodaeth am dirweddau hanesyddol a threfi de a gorllewin Cymru yn ddigyffelyb. Mae arolygon tirwedd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn amrywio o nodweddu darnau mawr o dir i’r dadansoddiad manwl o ddatblygiad ardaloedd llai. Mae technegau’n cynnwys archwilio lluniau o’r awyr, hen fapiau a dogfennau ynghyd ag astudio holl agweddau’r dirwedd ei hun. Mae tueddiadau diweddar wedi dechrau canolbwyntio ar nodweddion manwl trefluniau ac mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ar y blaen o ran datblygu’r maes hwn ar y cyd â Cadw ac asiantaethau eraill.

Gan weithio gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru, mae'r Ymddiriedolaeth wedi bod yn cynhyrchu data LANDMAP arloesol, system wybodaeth genedlaethol am dirweddau sy’n arwain penderfyniadau cynaliadwy.

I gael fwy o wybodaeth a phrisiau cystadleuol ar gyfer unrhyw un o’n gwasanaethau, cysylltwch â:

James Meek BA MIFA, Pen y Gwasanaethau Maes
Rhif Ffon 01558 825986 • Ebost

Pete Crane MIFA, Rheolwr Prosiect p.crane@dyfedarchaeology.org.uk
Llinell uniongyrchol 01558 825985

Duncan Schlee MSc, Rheolwr Prosiect d.schlee@dyfedarchaeology.org.uk
Llinell uniongyrchol 01558 825984

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]