Dyddiadur Cloddio Tiroedd
amgaeëdig cyn hanes yn Ne Ceredigion 2005
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf fe nodwyd drwy
ffotograffio o’r awyr, grwp o diroedd caeëdig, tua 20
i 30 ohonynt, yn fach ,yn hirsgwar ac yn dangos olion cnydau yng
Ngogledd Sir Benfro a De Ceredigion. Ni wyddwn eu dyddiad, nac ychwaith
eu pwrpas ,er bod eu ffurf yn awgrymu aneddiadau cyn hanesyddol
neu o gyfnod Prydain - Rufeinig.
Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, ar hyn
o bryd ,yn gweithio ar raglen o archwiliad o’r safleoedd hynny
mewn partneriaeth gyda Pharc Cenedlaethol Arfordirol Sir Benfro
a Phrifysgol Efrog. Yn ystod Haf 2004, gwnaethpwyd arolwg geoffisegol
a thopograffaidd ar wyth o safleoedd, ac fe ddangosodd hyn fod archeoleg
bwysig o dan y ddaear wedi goroesi. Yn arbennig, rhigolau crwn ,
o bosib yn dynodi lleoliad tai crwn, aelwydydd, tyllau pyst ac fe
ddarganfuwyd rhaniadau mewnol o rai o’r tiroedd amgaeëdig
ar sawl safle. Mae’r dystiolaeth yma yn debyg i’r hyn
a geir gan gloddio ar safleoedd amddiffynnol yr Oes Haearn.
Yn ystod Gorffennaf ac Awst 2005 fe wneir arolwg
geoffisegol a thopograffaidd o bump neu chwe safle arall. Bydd un
o’r safleoedd a archwiliwyd yn 2004 yn cael archwiliad pellach
drwy gloddio. Fe wneir y prosiect hwn mewn cydweithrediad gyda Phrifysgol
Efrog a chefnogaeth ariannol gan Cadw.

Mae’r darlun yn dangos cynllun geoffisegol y safle a gloddir
yn ystod Haf 2005
Tudalen
Prosiect Tiroedd amgaeëdig

CLODDIO AMGAEAD AMDDIFFYNNOL O’R OES
HAEARN GER ABERTEIFI
Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed,
Prifysgol Efrog a Chomisiwn Brenhinol Cofadeiliau Hynafol ac Hanesyddol
yng Nghymru. Derbynnir grant gan Cadw.
Yn 2004, ymgymerwyd ag arolwg geoffisegol ar chwech
o amgaeadau amddiffynnol bychain hirsgwar ger Aberteifi. Dim ond
yn ystod hafau sych y gwelir y safleoedd hyn fel marciau mewn cnydau;
does yna ddim gwrthgloddiau nac olion eraill i ddynodi eu presenoldeb.
O ganlyniad i arolwg 2004 dangoswyd fod yna archaeoleg o dan y tir
yn debygol o fodoli yn y rhan fwyaf o’r safleoedd hyn. Yn
2005, felly, gwneir arolwg o nifer rhagor o safleoedd a bydd un
o’r safleoedd a wnaed arolwg ohono yn 2004 yn cael ei gloddio’n
rhannol.
Diwrnod
1 – 17 Gorffennaf 2005
Diwrnod i osod pethau. Aethpwyd ag offer i’r safle
a nodwyd y ffosydd yn barod ar gyfer y gwaith cloddio
mecanyddol.
|

Dave Williams yn dynodi’r ffosydd
|
| |
|
|
Diwrnod
2 – 18 Gorffennaf 2005
Y gwaith mecanyddol yn dechrau trwy gloddio Ffos 2,
a leolir dros fynedfa’r anecs i’r brif amgaead.
Yna dechreuwyd ar stripio’r uwchbridd o’r
brif ffos, Ffos 1. Yr unig archaeolegwyr ar y safle
oedd Ken Murphy, cyfarwyddwr y safle a Dave Williams,
un a raddiodd yn ddiweddar o Brifysgol Efrog. Serch
hynny, glanhawyd rhan o Ffos 2.
Ar y cyd â’r cloddiad,
mae yna arolwg geoffisegol yn cael ei wneud mewn nifer
o amgaeadau bychain eraill yn yr ardal. Roedd yr ail
ddiwrnod yn ddiwrnod araf, gan fod Bex Carver sy’n
arolygu’r arolwg ond wedi cyrraedd yn ôl
o’r Iwerddon y noson gynt, a hynny heb rhywfaint
o offer hanfodol. Fodd bynnag gyda chymorth Hubert Wilson
gosodwyd grid a ddefnyddir i leoli’r arolwg ar
Safle A.
|

Dave yn gwneud ymylon Ffos 2 yn
fwy syth |
| |
|
|
Diwrnod
3 – 19 Gorffennaf 2005
Parhau gyda’r cloddio mecanyddol a’i orffen.
Tîm bach o archaeolegwyr – Gwyneth McIntyre
o Ganada, Stephanie Corrigan a Erika Palmer o America,
Dave Williams a Ken Murphy – glanhawyd Ffos 2
gan ddatgelu pennau uchaf y ffosydd anecs, gan ddechrau
ar y gwaith o lanhau’r brif ffos.
Hubert Wilson, Bex Carver a Lloyd Bosworth yn gorffen
gosod y grid ar y safle geoffisegol a chwblhau’r
arolwg topograffig.
|

Glanhau Ffos 2, gyda phen draw’r
ffosydd anecs yn weladwy
|
| |

Peiriant yn stripio Ffos 1
|
|
Diwrnod
4 – 20 Gorffennaf
Tîm bach – Ken Murphy, Hubert Wilson, Dave
Williams, Mike Brack, Anna Schwartz, Kate Davies a Noah
Letter – parhau i lanhau Ffos 1. Roedd yn fore
gwlyb iawn, ond wnaeth y tywydd glirio yn y prynhawn
a chawsom noson heulog. Roedd prif ymylon y ffosydd
ar gyfer y fynedfa i’w gweld yn glir, a dechreuodd
nodweddion llai megis tyllau pyst a rhigolau gael eu
datgelu.
Dechreuodd yr arolwg geoffisegol gyda
ffosydd yr amgaead yn dechrau dod i’r golwg.
|

Gwaith glanhau cychwynnol yn Ffos
1
|
| |

Geoffiseg. Bex Carver yn ymgymryd
â’r geoffiseg yn Safle A
|
|
Diwrnod
5 – 21 Gorffennaf
Tîm o 12 o bobl ar y safle yn gwneud cynnydd da
yn glanhau dros y creigwely i ddatgelu nodweddion archaeolegol
yn Ffos 1. Serch hynny, o ystyried maint y safle hwn
mae’r dasg hon yn mynd i gymryd o leiaf dau ddiwrnod
arall.
Bex Carver a Lloyd Bosworth yn cwblhau’r
arolwg geoffisegol yn Safle A, gan ddatgelu amgaead
â ffos ddwbl – amgaead mewnol unionlinellog
ac amgaead allanol pantiog.
|

Y glanhau yn parhau yn Ffos A
|
| 
|
|
|
Diwrnod
6 - 22 Gorffennaf
Parhau wnaeth y gwaith glanhau ar Ffos 1 gan ddatgelu
ffosydd, tyllau pyst a phyllau wedi’u cloddio
i mewn i’r creigwely siâl. Daeth ffos lydan
ond gweddol isel i’r golwg fel marc clir yn y
pridd yn rhedeg o fynedfa’r amgaead. Dechreuwyd
ar waith cloddio ym mhen draw un o’r ffosydd mwyaf
sydd naill ochr i fynedfa’r amgaead. Darganfyddwyd
sawl darn o grochenwaith sy’n dyddio yn fwy na
thebyg o ddiwedd yr Oes Haearn ar unwaith. Mae’r
math hwn o grochenwaith yn brin iawn yn sir Geredigion,
gyda dim ond tri darn wedi’u darganfod mewn safleoedd
eraill.
Dechreuwyd ar arolwg geoffisegol yn
Safle B, safle a ddarganfyddwyd o ganlyniad i ffotograffiaeth
o’r awyr. Mae’r canlyniadau cychwynnol yn
dynodi amgaead cylchol, fel a ddangosir ar y ffotograffau
awyr, gydag amddiffynfeydd deuglawdd ar un safle. Mae’r
gwaith ar y safle hwn yn parhau.
|

Canlyniadau cychwynnol yr arolwg
geoffisegol ar gyfer Safle B gyda’r ffos amddiffynnol
dwbl i’w gweld yn glir |
| |
|
|
Diwrnod
7 - 24 Gorffennaf
Diwrnod gwlyb iawn. Ychydig iawn oedd yn bosibl i’w
wneud ar y safle. Serch hynny, cafodd rhywfaint o waith
i’w wneud, a darganfyddwyd mwy o ddarnau o grochenwaith
o’r Oes Haearn ym mhen draw’r ffos.
|

Anna Schwartz a Mike Brack yn dal
darnau o’r crochenwaith o’r Oes Haearn |
| |
|
|
Diwrnod
8 - 25 Gorffennaf
Cwblhawyd y gwaith terfynol o lanhau heddiw ar ddiwrnod
cymylog ond sych. Datgelwyd tyllau pyst sydd mae’n
ymddangos yn un o sawl cam o byrth i’r amgaead
yn ogystal â nifer o nodweddion llai, gan gynnwys
ffos gwrthglawdd yn y cefn i’r clawdd amddiffynnol
sydd bellach wedi mynd. Parhau wnaeth y gwaith o gloddio’r
ffos bellaf a dechreuwyd ar y gwaith o gloddio nodweddion
eraill.
|

Y glanhau terfynol yn dangos tyllau
pyst y pyrth, pyllau’r ffosydd a nodweddion eraill |
| |
|
|
Diwrnod
9 - 26 Gorffennaf
Parhau gyda gwaith cloddio ym mhen
y ffos ar ochr ddeheuol mynedfa’r amgaead. Gan
fod rhagor o grochenwaith o’r Oes Haearn wedi’i
ddarganfod penderfynwyd rhidyllu’r holl bridd
sy’n dod o’r ffos. Roedd hon yn strategaeth
lwyddiannus o’r cychwyn cyntaf wrth i ni ddarganfod
rhimynnau o grochenwaith. Dechreuwyd ar y gwaith o gloddio
pen ffos y gogledd. Darganfuwyd darn bach o rimyn crochenwaith
Brythonig-Rhufeinig Dyffryn Hafren yn syth wedi dechrau
cloddio mewn pwll tybiedig.
O ganlyniad i gwblhau arolwg geoffisegol
ar Safle B datgelwyd amgaead crwn a mynedfa sydd efallai’n
fynedfa gorgyffyrddol. Dechreuwyd ar y gwaith o osod
grid yr arolwg er mwyn paratoi ar gyfer gwneud arolwg
geoffisegol ar Safle C.
Parhau i gloddio pen ffos y de |

Geoffisegol. Arolwg geoffisegol
ar Safle B. Mae’r arolwg yn mesur 80m x 80m |
| 
Jenny Arnold, Marie Pousset a Judith
Van Roemburg yn rhidyllu am ddarganfyddiadau |

Geoffiseg ar waith. Ymgymryd â
gwaith geoffiseg ar Safle B |
|
Diwrnod
10 - 27 Gorffennaf
Darganfuwyd mwy o ddarnau o grochenwaith
o ddiwedd yr Oes Haearn ym mhridd uchaf pen y ffos yn
ochr ogleddol y fynedfa ynghyd ag arian Rhufeinig o’r
ganrif 1af neu 2il. Darganfuwyd troellen cogail ym mhen
ffos y de. Cychwynnwyd ar gloddio tyllau pyst ym mynedfa’r
amgaead. Proseswyd samplau pridd o’r gwahanol
haenau trwy arnofiant gyda’r bwriad o adfer golosg
a deunydd arall wedi’u losgi megis gweddillion
planhigion a hadau. Bydd y rhain yn cael eu dadansoddi’n
ddiweddarach er mwyn rhoi syniad i ni o amgylchedd ac
economi’r safle.
O ganlyniad i arolwg geoffisegol ar
Safle C datgelwyd amgaead crwn o fewn amgaead hirgrwn
mwy o faint. Bydd y gwaith yn parhau ar y safle hwn
dros yr ychydig ddiwrnodau nesaf.
Lloyd Bosworth gyda’r arian
Rhufeinig a ddarganfuwyd ym mhen y ffos |

Mike Brack, Stephanie Corrigan a
Gemma Challis yn arnofio samplau o bridd |
| 
Louise Austin gyda darn o grochenwaith
Oes Haearn o un o’r tyllau pyst |

Laura Proctor yn archwilio’r
hyn a lawrlwythwyd o’r arolwg geoffisegol ar Safle
C yn y cae |
|
Diwrnod
11 -28 Gorffennaf
Ychydig iawn o waith yr oedd yn bosibl
i’w wneud ar y safle oherwydd y glaw trwm dros
nos a’r glaw diddiwedd yn ystod y dydd. Treuliwyd
y rhan fwyaf o’r dydd yn y babell fwyd. Yn ystod
y cyfnodau sychach cloddiwyd rhan o dwll postyn a ffos
balisâd. Credir bod y palisâd wedi llunio
gwrthglawdd gefn i’r clawdd amddiffynnol, ond
mae angen gwneud rhagor o waith er mwyn cadarnhau hyn.
|

Cloddio’r ffos balisâd |
| 
Dyma lle y treuliwyd y rhan fwyaf
o’r diwrnod – yfed te a darllen Harry Potter |

Detholiad o grochenwaith o’r
Oes Haearn a throellen cogail o’r safle |
|
Diwrnod
12 - 29 Gorffennaf
Parhau wnaeth y gwaith o gloddio dau
o’r tyllau pyst i fynedfa’r amgaead. Darganfuwyd
crochenwaith Brythonig–Rhufeinig o ddiwedd yr
Oes Haearn yn y ddau. Gwnaed rhagor o waith yn y fynedfa
i ben y ffos, a dechreuwyd ar wneud gwaith ar byllau
a rhigolau o fewn yr amgaead.
Oherwydd problemau gyda’r magnetomedr
ychydig iawn o gynnydd a wnaed ar yr arolwg geoffisegol.
|

Y gwaith cloddio yn parhau ym mhen
ffos y de |
| |

Darlun cyffredinol o’r cloddiad |
|
Diwrnod
13 - 31 Gorffennaf
Yn dilyn diwrnod haeddiannol o’r
gwaith gwnaed cynnydd da gyda thîm llai o faint,
gyda’r cloddio yn parhau ym mhen y ffos, tyllau
pyst a rhigolau.
Cwblhau’r arolwg geoffisegol ar Safle C.

Arolwg geoffisegol o Safle C wedi’i
gwblhau
|

Dominic Sharrock yn cloddio rhigol
gul wrth ymyl ffens |
| |

Jenny Davies yn gweithio ar ffos.
Yn fwy na thebyg fe fyddai palisâd yma fel gwrthglawdd
wrth gefn y clawdd amddiffynnol |
|
Diwrnod
14 - 1 Awst
Parhau wnaeth y gwaith ym mhen y ffosydd a’r tyllau
pyst yn y fynedfa. Cloddiwyd dau set o dyllau pyst yn
rhannol a’i cofnodi, sydd yn fwy na thebyg yn
cynrychioli dau gam yn y gwaith o adeiladu’r porth.
Darganfuwyd darnau bach o grochenwaith Brythonig-Rufeinig
o ddiwedd yr Oes Haearn yn un o’r tyllau pyst.
Dechreuwyd ar yr arolwg geoffisegol yn Safle D.
|

Astrid Caseldine archaeolegydd palaeoamgylchedd
o Goleg Prifysgol Dewi Sant yn archwilio darn gogleddol
y ffos
|
| 
Cloddio a chofnodi’r tyllau
pyst ym mynedfa’r amgaead
|

Yn dilyn gwaith cloddio’r
dydd aeth pawb i fwynhau’r trip i fryngaer Y Foel
Drigarn ym Mynyddoedd y Preseli
|
|
Diwrnod
15 - 2 Awst
Wnaeth y gwaith o gloddio pen y ffosydd gyrraedd dyfnder
o 1.70m ac oherwydd pryderon ynglyn â diogelwch
penderfynwyd rhoi grisiau i mewn er mwyn peidio â
chael un darn mwy na 1.70m o uchder. Mae yna fantais
i’r strategaeth hon gan ei bod yn rhyddhau mwy
o haenau uchaf y cloddiad sy’n gyfoethog o ran
yr arteffactau i’w cloddio. O fewn pen ffos y
gogledd mae’r cerrig mawr yn fwy na thebyg yn
dod o’r rhagfur sydd wedi dymchwel ar y clawdd
amddiffynnol. Yn Ffos 2 mae’r gwaith terfynol
o gloddio pen y ffosydd anecs wedi’i gwblhau.
O ganlyniad i gwblhau’r arolwg
geoffisegol ar Safle D datgelwyd amgaead bychan unionlin.
Ni ddatgelwyd unrhyw nodweddion mewnol.
|

Arolwg geoffisegol ar Safle D
|
| 
Cloddio pen ffos y gogledd yn dangos
y cerrig o’r rhagfur sydd wedi dymchwel
|

Naomi Henderson yn cloddio pen ffos
y gogledd o’r anecs – Ffos 2
|
|
Diwrnod
16 - 3 Awst
Diwrnod o gofnodi ac atgyfnerthu. Dechreuwyd ar y gwaith
o grisiau i mewn i rannau o ben y ffos a pharhau i gofnodi’r
nifer o dyllau pyst a rhigolau.
Dechreuwyd ar arolwg geoffisegol o
safle E, caer bentir fawr fewndirol.
|

Gwaith cloddio ar fynd yn Ffos 1
gyda Ffos 2 yn y cefndir. Nid tyllau pyst y porth i
fynedfa’r amgaead
|
| 
Xanthe Hayes-Yapp, Dom Sharrock
a Gwynaeth McIntyre yn cloddio a chofnodi’r tyllau
pyst
|

Kate Davis a Stephanie Corrigan
yn dechrau ar arolwg geoffisegol o Safle E
|
|
Diwrnod
17 - 4 Awst
Trwy barhau i gloddio pen y ffosydd gwelwyd eu bod o
leiaf 2.5m o ddyfnder ar ffurf V. Darganfuwyd troellen
cogail a darn o grochenwaith Brythonig-Rufeinig Dyffryn
Hafren mwy na 3m i lawr y y pen deheuol. Nid yw gwaelod
y ffosydd wedi eu cyrraedd hyd yn hyn. Trwy ymestyn
y cloddio ym mhen y ffosydd darganfuwyd mwy o grochenwaith
Brythonig-Rufeinig/o ddiwedd yr Oes Haearn. Darganfuwyd
darn o fortariwm Brythonig-Rufeinig mewn darn gwag isel
o fewn yr amgaead.
Rhoddwyd y gorau i wneud arolwg geoffisegol
ar Safle E gan nad oedd y gradiomedr yn gweithio’n
iawn. Dyma’r safle olaf i’w arolygu.
|

Sue Ingold a Rhiannon Comeau gyda
darn o fortariwm
|
|

Gellir weld ychydig o’r ffos
amddiffynnol ar y gaer bentir yn Safle E cyn y rhoddwyd
y gorau i’r arolwg geoffisegol |

Anna Schwartz a Mike Brack gyda
throellen cogail o ben ffos y gogledd
|
|
Diwrnod
18 - 5 Awst
Trwy symud yr haenau uchaf ym mhen y ffosydd darganfuwyd
dau ddarn arall o Grochenwaith Samian a darn o ymyl
Crochenwaith Brythonig-Rufeinig Malvern. Ni ddatgelwyd
unrhyw strwythurau amlwg wrth barhau i gloddio’r
tyllau pyst a rhigolau
|

Symud clogfaen o lenwad pen ffos
y gogledd
|
| 
Lindsay Deuchars gyda darn o Grochenwaith
Malvern o ben ffos y de
|

Y gwaith cloddio yn parhau ym mhen
ffos y gogledd
|
|
Diwrnod
19 - 6 Awst
Trwy ddychwelyd yn ôl i dywydd poeth yr haf gwnaed
cynnydd da wrth gloddio’r pyllau a thyllau pyst
llai. Cyrhaeddwyd gwaelod pen ffos y gogledd. Dechreuwyd
ar y gwaith o lanhau’r rhannau o’r ddau
ben er mwyn paratoi ar gyfer tynnu lluniau a chofnodi.
|

Mwynhau’r haul amser cinio
|
|
|

Y rhan wrth fynedfa prif ffos y
gogledd wedi’i chloddio’n llwyr
|
|
Diwrnod
20 - 7 Awst
Cwblhau cloddio Ffos 2. Ar wahân i’r ffosydd,
cloddiwyd a chofnodwyd dau dwll pyst bychain a rhigol
isel ar hyd llinell y ffens. Yn Ffos 1 glanhawyd rhan
o ben ffos y de er mwyn paratoi ar gyfer arlunio. Cwblhawyd
y gwaith cloddio ar sawl twll pyst bychain.
|

Cloddiwyd Ffos 2 yn llwyr
|
|
|

Cloddiwyd y fynedfa i ben ffos y
de yn llwyr
|
|
Diwrnod
21 - 8 Awst
Mae fwy neu lai y cloddiad cyfan wedi’i gwblhau,
ar wahân i symud rhagor o bridd uchaf pen ffos
y de gyda’r bwriad o ddod o hyd i ragor o arteffactau,
a chanolbwyntiwyd ar y gwaith o gofnodi a glanhau’r
safle er mwyn cymryd y ffotograffau terfynol. Ar ddiwedd
diwrnod poeth iawn golchwyd llwch y safle ymaith gydag
ymweliad â’r traeth lleol.
|

Noah Letter a Pwyll ap Stifin yn
cofnodi rhan o ben ffos y gogledd |
| 
Chwilio am bethau o ben ffos y de
|

Wedi’r gwaith – gwylio’r
dolffiniaid ym Mae Ceredigion
|
| |

Wedi iddynt fod wrthi’n cloddio trwy’r
dydd daeth Naomi Henderson a Cat … o hyd i ddigon
o egni i adeiladu cerflun o dywod, gwelir aelodau
eraill o’r tîm cloddio yn ei edmygu
|
|
Diwrnod
22 - 9 Awst
Y diwrnod olaf un ar y safle – ffotograffiaeth
a chwblhau darluniadau.
|

Golygfa o ran o’r cloddiad
wedi’i gwblhau
|
|
|

Y tîm cloddio ar y diwrnod
olaf un ar y safle
|
|
Diwrnod
23 - 10 Awst
Ail lanw’r safle
|

Ail lanw’r safle |
|
|
|
|
|