Cartref > Gwasanaethau Maes>

Hyrwyddo a Dehongli Treftadaeth

Gweler engreifftiau o Fwrddiau Hyrwyddo Treftadaeth

Mae gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed enw da a phrofiad cydnabyddedig mewn amrediad o weithgareddau dehongli a hyrwyddo treftadaeth, gan gynnwys paneli dehongli ar safle, taflenni ac arweinlyfrau hanes lleol, cyhoeddiadau poblogaidd, arddangosfeydd, ac ymgorffori elfennau o dreftadaeth mewn datblygiadau modern.

Mae gweithwyr ymchwil profiadol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn sicrhau cywirdeb a chyfanrwydd ar gyfer dehongli cyhoeddus. Defnyddia ei adran gynllunio y dechnoleg ddiweddaraf er mwyn cynhyrchu cynlluniau, celfwaith, arlunio technegol ac adluniadau o safon uchel.

Darperir gwasanaethau rheoli prosiect a chyngor ar gyfer datblygu safleoedd hanesyddol fel atyniadau twristaidd ac addysgol. Cynhelir ymgynghoriaethau er mwyn adnabod a nodi defnydd yr asedau archaeolegol a hanesyddol i ysgogi economïau rhanbarthol.

Mae gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed brofiad helaeth o weithio gydag awdurdodau lleol a mentrau yn y gymuned, gan helpu i adnabod ac ymchwilio i’r dreftadaeth hanesyddol a diwylliannol, sef dwy elfen allweddol wrth ddatblygu twristiaeth drefol a gwledig.

Gwasanaethau

  • Gwasanaethau dylunio a chynhyrchu o safon sydd wedi ennill gwobrau

  • Profiad cydnabyddedig ar draws amrediad eang o brosiectau hyrwyddo treftadaeth

  • Syniadaeth, cynllunio a darparu paneli dehongli, taflenni a chyhoeddiadau

  • Cynnwys elfennau treftadaeth mewn datblygiadau modern

  • Dadansoddi ac asesu adnoddau treftadaeth

  • Gwasanaethau cynllunio a rheoli prosiect ar gyfer datblygu safleoedd treftadaeth

  • Profiad a gwybodaeth helaeth o gynllunio a gofynion statudol eraill ar gyfer safleoedd, henebion ac adeiladau hanesyddol

  • Gwybodaeth a phrofiad am gyllid ar gyfer prosiectau o ffynonellau lleol, cenedlaethol ac Ewropeaidd

  • Cywirdeb a chyfanrwydd yr ymchwil

 

Am rhagor o wybodaeth cysylltwch a :

James Meek BA MIFA, Pen y Gwasanaethau Maes
Rhif Ffon 01558 825986 • Ebost j.meek@dyfedarchaeology.org.uk

Ken Murphy BA MIFA, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth
Rhif Ffon 01558 825991 • Ebost

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]